![]() | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
D Help ar gyfer teuluoedd plant sy'n wael neu'n anabl (drwy'r DU)Abilitynet - yn cynnig cyngor a gwybodaeth am gyfrifiaduron ac anabledd.
Action for Sick Children - yn anelu at godi safon gofal meddygol i bob plentyn p'run a yw gartref neu mewn ysbyty. Yn cyhoeddi gwybodaeth a chyngor i rieni yn cynnwys Coming into hospital a Children and pain.
Biking and Disability - yn gweithredu data-bas cenedlaethol o wybodaeth dechnegol a chyflenwyr beiciau i ateb anghenion pobl anabl.
Carers UK (Carers National Association gynt) - yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ofalwyr. Yn ymgyrchu i greu mwy o ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr yn y llywodraeth ac yn y gymdeithas ac o'r angen i weithredu i'w cynnal nhw. Yn gweithredu rhwydwaith o grwpiau lleol, rhai ohonyn nhw’n cynnwys grwpiau arbennig ar gyfer sibliaid a grwpiau gofalwyr ifanc. Yn cynhyrchu amrywiaeth o lyfrynnau ar fudd-daliadau, yn cyfuno gofalu a gweithio.
Cefnogaeth i deuluoedd personnél yn y lluoedd SSAFA Forces Help
College of Occupational Therapists - corff proffesiynol Cymdeithas Brydeinig Therapyddion Galwedigaethol. Fe fedran nhw roi gwybodaeth am grwpiau lleol perthnasol ac arbenigol o Th.G., a meddygon lleol a'r rhai mewn practis preifat.
Contact a Family - mudiad elusennol wedi'i hen sefydlu sy'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion pwysig i deuluoedd plant â gwahanol anghenion arbennig. Yn darparu cyngor a gwybodaeth, a chyhoeddi cyfeirlyfr o grwpiau cefnogi cenedlaethol a lleol. Yn cysylltu rhieni plant sy'n dioddef afiechydon prin iawn â'i gilydd. Cylchgrawn chwarterol da iawn Share an Idea. Taflenni ffeithiau'n cynnwys Transition, A Guide for Students and Professional workers, Siblings, Grandparents a llawer eraill.
Crossroads Caring for Carers
Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Teuluoedd Un Rhiant (National Council for One Parent Families) - yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i rieni sengl ar amrywiaeth eang o faterion.
Disabled Persons Railcard - tocyn rheilffordd wedi'i sybsideiddio a gwybodaeth ar sut i drefnu help neu ramp i/oddi ar drenau. Cysylltwch â gorsafoedd lleol i gael ffurflen gais neu ysgrifennwch i:-
Elhers-Danlos Syndrome Support Group - yn cynnig gwefan ardderchog llawn gwybodaeth a rhwydwaith o gefnogaeth leol.
Eithrio o dalu treth cerbyd (Vehice Tax Excemption) - falle'ch bod yn gymwys i hawlio cael eich eithrio o dalu treth cerbyd blynyddol os yw'r plentyn dros 5 oed, yn derbyn y raddfa uchaf o'r elfen Symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl, ac rydych yn cofrestru perchnogaeth y cerbyd yn enw'r rhiant a'r plentyn. Fe allai hyn arbed hyd at £165.00 y flwyddyn i chi (2004) Rhaid i chi gael stamp y Swyddfa Drafnidiaeth leol ar y dystysgrif bob blwyddyn.
Family Fund Trust - yn anelu at leddfu'r straen ar deuluoedd sy'n gofalu am blentyn ag anabledd difrifol o dan 16 oed; yn cynnwys darparu gwybodaeth a grantiau sy'n atebol i brawf moddion. Yn cyhoeddi cyhoeddiadau da Adaptations to Housing, Bedding and Clothing, a llyfr Taking Care. Hefyd All together better – canllaw, newydd ei gyhoeddi, i deuluoedd plentyn anabl ag anghenion iechyd cymhleth. Llinell gymorth i rieni.
Future Cycles - yn arbenigo mewn beiciau a threisiglau i bobl anabl. Beiciau trydan ar gael ganddyn nhw hefyd.
Holiday Care
MERU (Medical Engineering Resource Unit) - yn ymchwilio i ddylunio a chynhyrchu (am ddim) gymhorthion, dyfeisiadau ac offer ar gyfer plant anabl unigol, pethau nad ydyn nhw ar gael yn fasnachol. Hefyd yn cynnig cyngor am ddim i ofalwyr a rhieni.
Motability - mudiad nad yw'n gwneud elw ac yn rhedeg cynllun i alluogi'r rhai sy'n derbyn y raddfa uchaf o'r Elfen Symudedd o'r DLA (neu eu rhieni) i brynu car neu gael un ar les. Mae gan y rhan fwyaf o werthwyr ceir newydd brofiad o'r cynllun hwn erbyn hyn. Hefyd yn gweithredu cynllun llogi cadeiriau olwyn trydan. Rhaid i'r plentyn fod dros 5 oed.
Relate - mudiad sy'n defnyddio cynghorwyr wedi'u hyfforddi i helpu a chefnogi parau i gyfathrebu â'i gilydd ac i oresgyn anawsterau yn eu perthynas â'i gilydd.
Riding for the Disabled Association - yn arolygu'r Grwpiau Marchogaeth i'r Anabl o gwmpas y wlad. Yn rhoi rhieni mewn cysylltiad â grwpiau lleol.
Tripscope - mudiad yn arbenigo mewn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl â phroblemau symudedd sydd angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu'n dymuno teithio dramor.
Whizz-kidz - yn cynnig cyngor arbenigol ar gadeiriau olwyn i blant a phobl ifanc â phroblemau symudedd, yn cynnwys gwneuthurwyr, digwyddiadau ym maes chwaraeon a grwpiau cefnogaeth; fe all peth cymorth ariannol fod ar gael at brynu eitemau penodol.
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||