C Help gyda'r gyfraith, budd-daliadau ac addysg

Pam gwybod am y gyfraith?

Dyma ddywedodd un fam a fu drwy'r broses hon:

'Dw i'n meddwl bod arnoch chi angen cyfarwyddyd; rhaid i bobl wybod y gallan nhw ofyn rhai pethau penodol. Dw i'n meddwl bod y pethau cyfreithiol yn bwysig i roi hyder i rieni. Mae'n swnio'n ddryslyd i gychwyn, ond dyw'r geirio ddim yn rhy ddrwg unwaith yr ewch chi i mewn iddo. Mae gwybod bod gyda chi'r hawl sylfaenol (yn ôl y gyfraith) yn rhoi hyder i chi i herio.'

Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud?

Mae'n bwysig gwybod y ffeithiau sylfaenol am y gyfraith fel mae hi heddiw.

Os yw'r person ifanc o dan 18, fe fyddan nhw'n cael eu hasesu dan Ddeddf Plant 1989 (mae cyfrol 6 yn nodi cyfarwyddyd i blant ag anabledd).

Fodd bynnag, os ydyn nhw'n 18 neu drosodd, mae amrywiaeth o ddeddfau gwahanol yn darparu fframwaith ar sut a pha wasanaethau a all fod mewn lle ar gyfer pobl ifanc anabl a'u gofalwyr, er enghraifft:-

Deddf yr NHS a Gofal yn y Gymuned 1990
Deddf y Cleifion Cronig a'r Rhai Anabl 1970
Deddf Pobl Anabl 1986
Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996
Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000

Mae rhai darpariaethau cyfreithiol yn gorgyffwrdd, eraill yn dal i adael 'mannau llwyd', a rhai heb ddangos pwy ddylai ddarparu'r gwasanaethau neu a oes raid eu darparu ai peidio. Felly peidiwch â synnu os byddwch chi mewn penbleth a phethau'n ymddangos yn aneglur i chi. Mae hi wedi cymryd amser i'r rhan fwyaf ohonon ni i wneud synnwyr o bwy sy'n gyfrifol am helpu pobl ifanc a sut orau i fynd o gwmpas gwneud yn siwr fod hyn yn digwydd.

  • Mae dyletswydd i ddarparu gwasanaeth yn golygu bod yn rhaidrhaidei ddarparu
  • Mae'r grym i ddarparu gwasanaeth yn golygu y gall gallgael ei ddarparu.

Deddf y Cleifion Cronig a'r Rhai Anabl 1970 - yn berthnasol i blant ac oedolion ag anabledd. Mae'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau lles fel help yn y cartref. Mae'r mathau o wasanaeth yn cynnwys:

Help ymarferol yn y cartref
Help i gael eitemau hamdden bychain fel setiau teledu
Help i deithio i wasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod lleol
Help i gael addasiadau neu gyfleusterau ychwanegol yn y cartref
Prydau bwyd gartref neu mewn man arall.

Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaeth) 1995 - yn sefydlu hawl gofalwyr i gael eu hasesu ac i wasanaethau gael eu paratoi i gefnogi anghenion gofalwyr yn benodol.