![]() | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
BHelp gyda chwarae a byw bywyd bob dyddArthritis and Equipment Guide - cyngor a help gan gynghorwyr profiadol. Maen nhw'n ceisio cael ateb i broblemau neilltuol.
Disabled Living Foundation - yn darparu gwybodaeth ac offer i bobl anabl. Yn cynnig llinell ffôn gymorth ac yn ateb ymholiadau ysgrifenedig. Yn llunio cyhoeddiadau sy'n casglu ynghyd atebion i broblemau penodol, gan gynnwys Children's play equipment, Mobility equipment, ac Everyday living equipment.
Disabled Living Centres Council - yn gweithredu mewn canolfannau rhanbarthol lle mae therapydd galwedigaethol neu gynghorwr arall ar gael i chwilio am offer, ac mae amrywiaeth o offer ar gael i'w arddangos i rai â diddordeb.
Fledglings - ffynhonnell ardderchog ar gyfer darnau ymarferol o offer y medrwch chi eu prynu'n weddol rad i blant ag anghenion arbennig. Maen nhw'n cynnwys eitemau sy'n hybu annibyniaeth wrth fwydo, cysgu, chwarae, ac ati, a'r peth gorau yw y gwnân nhw chwilio am eitem unigol y mae arnoch ei hangen. Mudiad bychan ond yn brofiadol, yn barod ei gymorth a'i ymateb.
Hope Education - yn cynnig teganau ac offer i blant yn cynnwys plant ag anghenion arbennig.
Nottingham Rehab - yn cynnig catalog masnachol Ways and Means o eitemau ar gyfer y ty i bobl ag anghenion arbennig. Yn cynnwys cyllyll a ffyrc, llestri, sisyrnau arbennig, a gafaelion pensilau (pencil grips). Catalog ar gyfer plant yn cynnwys offer, teganau a gemau.
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||