![]() | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Ffynonellau cymorthA Help i ddeall arthritis plant idiopathigArthritis Care - y mudiad gwirfoddol mwyaf trwy’r DU sy'n gweithio gyda a dros bobl ag arthritis. Ei nod yw rhoi’r gallu i bobl i reoli eu harthritis, eu bywydau a’u mudiadau. Mae ganddo dros 500 o ganghennau a grwpiau, a dros 66,000 o gefnogwyr. Mae Arthritis Care yn darparu: -
CHAT (Children Have Arthritis Too) Alliance - mewn ymdrech anffurfiol ar y cyd ag Arthritis Care, Children's Chronic Arthritis Association a'r Lady Hoare Trust fe gynhyrchodd CHAT ddau lyfryn A4 am ddim. Mae'r un diweddaraf 'CHAT 2 parents - Arthritis in Teenagers' yn mynd i'r afael â'r sialensiau sy'n wynebu pobl ifanc ag arthritis, ac fe allwch chi ofyn amdano gan unrhyw un o'r tri mudiad uchod. Children's Chronic Arthritis Association - elusen sy'n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o arthritis plant ac sy'n cefnogi teuluoedd. Bob blwyddyn mae CCAA yn darparu penwythnosau addysgol i deuluoedd lle cewch chi gyfuniad o ddysgu mwy am arthritis, cael cefnogaeth gan gyfoedion a chael hwyl - mae canmol mawr ar y rhain. Mae ganddi rwydwaith o help rhanbarthol ar y ffôn i rieni gan rieni, ac mae'n cyhoeddi cylchlythyr sy'n ddiddorol ond ar adegau'n anaml. Ymhlith eu projectau newydd mae hyrwyddo cefnogaeth gyfrifiadurol i blant. Mae cynrychiolwyr o blith clinigwyr a rhieni ar y pwyllgor gwaith a hyn yn hwyluso rhannu gwybodaeth a syniadau o'r ddwy ochr.
Arthritis Research Campaign - y bedwaredd elusen feddygol o ran maint yn y DU ac yn ymwneud â chodi arian ar gyfer ymchwil i achosion arthritis a’r driniaeth iddo a gwella gwasanaethau rhewmatolegol. Mae'n cynhyrchu cylchgrawn llawn gwybodaeth yn gyson – ‘Arthritis Today' sy'n defnyddio iaith bob dydd i adrodd ar faterion ynghylch triniaeth sydd ar gael nawr, canfyddiadau ymchwil a phrofiadau pobl ag arthritis. Mae ARC yn cynhyrchu amrywiaeth eang o lyfrynnau addysgol am ddim ar wahanol agweddau ar arthritis, yn cynnwys When your child has arthritis (cyflwyniad sylfaenol), Arthritis in teenagers (ar gyfer rhai o 13 -20 oed), a thaflenni ffeithiau ar wahanol agweddau ar foddion penodol, a rhan gwahanol broffesiynau mewn rhewmatoleg.
Kids with Arthritis - elusen gofrestredig dan arweiniad rhieni ac yn anelu at baratoi a chefnogi teuluoedd â phlant ag arthritis. Yn gweithio i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth yn seiliedig ar ymchwil ac i hyrwyddo mynediad at wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysgol, cymunedol, a gofal cymdeithasol. Mae'n cynhyrchu llawlyfr cynhwysfawr am ddim i deuluoedd a hyfforddiant i ddarparwyr gwasanaethau. Mae'n cynnig gweithdai'n gyson i deuluoedd yn Sussex. Mae'r pwyslais ar gynrychioli persbectif teuluoedd. Mae 9 erthygl a 40 o daflenni ffeithiau ar eu gwefan i'w llwytho i lawr
Mae The Lady Hoare Trust wedi cyfuno â Contact a Family - elusen gofrestredig brofiadol sy'n rhoi help ymarferol, emosiynol ac ariannol i deuluoedd â phlant (dan 18 oed) ag arthritis neu anabledd difrifol ar aelodau'r corff. Rhwydwaith o weithwyr maes wedi’u hyfforddi’n arbennig sy'n gallu ymweld â'ch cartref yn gyson i’ch cefnogi. Yn meddu profiad i fedru ystyried a helpu'r teulu cyfan yn arbennig yn ystod argyfwng. Yn hyblyg i ystyried grantiau bychain y mae gweithwyr maes yn eu hargymell.
National Rheumatoid Arthritis Society - gwefan a mudiad newydd dan arweiniad Ailsa Bosworth sydd wedi dioddef o arthritis ers blynyddoedd. Y wefan yn cynnwys tudalen ar brofiadau o arthritis plant idiopathig. Ar hyn o bryd rhaid i chi lenwi tudalen gofrestru i fedru edrych ar y wefan.
Pain Society - yn cynhyrchu llyfryn am ddim i oedolion sy'n byw gyda phoen cronig. Fe all y wybodaeth helpu rhieni i ddeall profiad eu plentyn o boen yn well.
SKIP – Reflex Sympathetic Dystrophy Supporting Kids in Pain.
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||