Geirfa - Talfyriadau neu ymadroddion cyffredin a'u hystyr

AAA Anghenion Addysgol Arbennig - mae'r anghenion yn aml yn cynnwys rhai meddygol, corfforol, emosiynol neu anawsterau dysgu.
ARC Ymgyrch Ymchwilio i Arthritis (Arthritis Research Campaign)
Cydlynydd AAA (Special Educational Needs Co-ordinator) – athro/athrawes â chymwysterau arbennig sy'n cael ei gyflogi/chyflogi i gydlynu'r asesiad a sicrhau dysgu cefnogol i bob plentyn ag unrhyw fath o angen arbennig yn yr ysgol.
DMARDs Cyffuriau Rheoli a Chadw Rheolaeth ar Glefydau (Disease Modifying and Regulating Drugs)
DLA Lwfans Byw i'r Anabl (Disability Living Allowance) - y prif fudd-dal ar gyfer plant, yn cydnabod eu hanawsterau corfforol ac anawsterau eraill. Dyw incwm y teulu ddim yn cael ei ystyried.
JIA Arthritis plant idiopathig (Juvenile idiopathic arthritis) - yr enw newydd ar grwp o gyflyrau o arthritis sy'n effeithio ar blant am fwy na chwe mis.
JCA Arthritis plant cronig (Juvenile Idiopathic Arthritis) - y term meddygol a ddefnyddid cyn 1999. Mae Arthritis plant idiopathig wedi cymryd ei le erbyn hyn.
JRA Arthritis gwynegol plant (Juvenile rheumatoid arthritis) - y term Americanaidd sy'n cael ei ddefnyddio ran amlaf am blant â JIA, er bod JIA yn cael ei ddefnyddio'n amlach bellach.
NAROT Cymdeithas Genedlaethol Therapyddion Galwedigaethol Rhewmatoleg (National Association of Rheumatology Occupational Therapists)
NPSA Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion (The National Patient Safety Agency)
NSAIDs Cyffuriau gwrthlidiol ansteroidal (Non-steroidal anti-inflammatory drugs) Sibliad Brawd neu chwaer
TeNS Ysgogiad nerfol trwy’r croen (i reoli poen) (Transcutaneous nerve stimulation)