Cysgu

Mae syrthio i gysgu a dal i gysgu yn broblem gyffredin i blant ag arthritis, yn arbennig y rheini sy'n gwisgo sblintiau nos. Fe all sefydlu patrwm amser gwely cadarn helpu i gael plentyn anfodlon i'r gwely. Mewn cartrefi prysur, a lle mae moddion a sblintiau yn cynhyrfu'r plentyn, fe all amser gwely fod yn llawn straen i bawb. Ceisiwch gadw at y drefn a ddewisoch chi waeth pwy fydd yn rhoi'r plentyn yn y gwely

.

Fe all plant ddod yn ymwybodol o'u symptomau yn ystod gyda'r nos ac maen nhw'n aml yn rhedeg gwres yn y nos. Mae llawer teulu wedi gweld bod defnyddio rhwymyn crêp dros y sblintiau yn y nos yn fwy cyfforddus i'r plant, yn arbennig os yw'r cymalau'n chwyddo dros nos. Mae'r rhan fwyaf o blant yn fwy cyfforddus mewn pyjamas/dillad nos a dillad gwely cotwm. Mae gwisgo sblintiau coesau yn helpu'r plentyn i gerdded yn gynt yn y bore.

Ceisiwch ddefnyddio cynfas isaf wedi'i gwneud o 'groen dafad' (ffibr naturiol) - fe all fod yn fwy cyfforddus i'ch plentyn. Gallwch eu prynu neu eu benthyg gan y gwasanaethau nyrsio cymunedol felly gofynnwch yn eich meddygfa leol pwy dylech chi ei ffonio.

Canolfannau Byw Bywyd Bob Dydd

Mae Canolfannau Bywyd Bob Dydd mewn rhai ardaloedd. Yno fe allwch gael gwybodaeth ddi-duedd a chyngor ac fe all gofalwyr a phlant gael cyfle i brofi gwahanol offer ar gyfer byw yn annibynnol. Dyw'r canolfannau hyn ddim yn gwerthu'r offer ond fe gewch chi wybod eu pris a phwy sy'n eu gwneud yno. Mae'r Groes Goch, ambell dro, yn trefnu i roi eu hoffer meddygol ar fenthyg o'r un safle. Fe allwch hefyd drefnu apwyntiad gyda therapydd galwedigaethol.

Edrychwch yn eich llyfr ffôn am gyfeiriad a rhif ffôn eich Canolfan Bywyd Bob Dydd agosaf.

Asesu anghenion gofalwyr

Er mwyn cynnal ansawdd bywyd y person ifanc yn eich gofal, rhaid i chi ofalu amdanoch eich hun. Fe all gofyn am help fod yn anodd iawn i ofalwyr sydd wedi arfer gorfod ymdopi, ond ochr yn ochr ag anghenion y person ifanc mae anghenion y gofalwr. Yn ein profiad ni, os yw'r person ifanc i gael ei helpu yfory, yna rhaid helpu'r gofalwr heddiw. Fe fydd ansawdd bywyd i'r person ifanc yn well hefyd os caiff y gofalwr ofal yn ogystal.

Mae Deddf (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) Gofalwyr 1995 a Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 yn rhoi'r hawl i chi ofyn am asesiad o'ch anghenion, i rai gwasanaethau gael eu trefnu i gymryd gofal o'r gofalwr, ac i ofyn am Daliadau Uniongyrchol.

Mae hyn yn dal yn newydd ac fe fydd gofyn i chi ddal ati i ofyn am eich 'asesiad gofalwr'. Cysylltwch â'r awdurdod iechyd a'r tîm gofal cymdeithasol lleol (o'r llyfr ffôn) a gofynnwch am asesiad gofalwr.