Byw bywyd bob dydd yn bositif

Cyflwyniad

Yn y bennod hon, mae dewis o syniadau dibynadwy i'ch helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau dyddiol mwyaf cyffredin i blentyn ag arthritis. Mae arthritis yn effeithio ar gymalau plentyn ac yn dylanwadu ar y rhan fwyaf o fywyd bob dydd. Mae rhai egwyddorion ar sut i amddiffyn y cymalau rhag rhagor o ddifrod a straen. Fel rhieni, fe fydd angen i chi ddod â'r egwyddorion hyn i mewn i fywyd bob dydd, a dysgu'ch plentyn i ddechrau gofalu ar ôl ei chymalau ei hun. Therapydd galwedigaethol yw'r person gorau i'ch cynghori ac i ddweud wrthych chi ble i brynu unrhyw ddyfeisiadau ychwanegol. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu bediatrydd eich anfon at therapydd galwedigaethol.

Help gyda gweithgareddau bywyd bob dydd

Y pethau pwysicaf i'w cofio yw:-

  1. Osgowch gydio'n dynn mewn pethau am gyfnodau hir - (e.e., wrth ddefnyddio pinnau 'sgrifennu, pensilau, brws gwallt, ac ati). Ceisiwch ddewis handlenni sy'n drwchus iawn neu wedi'u padio neu rhowch diwbiau amdanyn nhw eich hun, (defnyddiwch diwbiau insiwleiddio sbwng o siopau DIY). Fe fydd hyn yn lleihau'r straen, y stiffrwydd a'r plyciau o boen yn y cymalau. Mae cyfrifiaduron pen-glin ysgafn yn arbennig o ddefnyddiol i feithrin sgiliau ysgrifennu a chadw i fyny â gwaith ysgol.
  2. Dosbarthwch y pwysau dros y cymalau mwyaf - e.e., prynwch fag cefn â strapiau ysgwydd llydan wedi'u padio ac ochrau cadarn iddo yn fag ysgol neu'n fag ar gyfer teithio. Mae hyn yn osgoi rhoi straen ar gymalau bach y llaw wrth ddefnyddio strap llaw. Gofynnwch am set ychwanegol o lyfrau ysgol i'w cadw gartref fel na fydd raid iddi eu cario yn ôl a blaen o'r ysgol.
  3. Daliwch i symud - e.e., anogwch hi i ysgwyd ei dwylo bob ryw chwarter awr a symud ei phenelinoedd, ei hysgwyddau a'i gwddf yn dyner. Anogwch chi i godi a cherdded o gwmpas - os eglurwch i staff yr ysgol fe ddôn nhw'n gyfarwydd â phlant yn gwneud hyn heb amharu ar y dosbarth. Mae hyn yn rhwystro'r cymalau rhag mynd yn rhy stiff a 'chloi'.
  4. Osgowch symudiadau sy'n golygu twistio'r dwylo - Medrwch brynu dyfeisiadau i'ch helpu gyda thapiau dwr, plygiau (rhai â dolen) ac agorwyr tuniau. Maen nhw'n lleihau'r llwyth gwaith ar gymalau'r dwylo.
  5. Osgowch ystum sy'n gwneud anffurfio'n fwy tebygol - e.e., anogwch y plentyn i gadw'i dwylo'n agored yn lle'u cau yn ddwrn wrth wylio teledu neu godi ar ei thraed. Anogwch blant i eistedd â'u coesau cyn sythed â phosibl ar stôl gynnal yn hytrach nag ar eu coesau wedi'u plygu. Anogwch blant i eistedd yn union o flaen y teledu/bwrdd-du/sgrîn sinema fel nad oes angen iddyn nhw wyro na straenio'u gyddfau.
  6. Anogwch eich plentyn i fod mor annibynnol â phosibl. Chwiliwch am ffyrdd i'w helpu heb wneud y dasg yn ei lle. Mae hyn yn help i feithrin hyder, a hunan-barch, ac yn ei rhwystro rhag teimlo'n anfedrus a dibynnol.

Therapyddion galwedigaethol yw'r gofalwyr iechyd proffesiynol sy'n gallu darparu asesiad trylwyr o anghenion person ifanc o ran hyfforddiant, offer a chymorth er mwyn iddyn nhw fedru gwneud gweithgareddau arferol bob dydd. Fe ddylai'u hasesiad gynnwys amcangyfrif o lefel uchaf annibyniaeth y person ifanc. Fe all offer syml iawn (fel rheiliau cydio yn agos i'r bath neu switsiau golau ar gordyn) ac addasiadau wneud bywyd bob dydd yn llawer haws a'r un pryd helpu'r person ifanc i fod mor annibynnol â phosibl. Ceisiwch gadw'r llawr yn glir o unrhyw rwystrau fel matiau a gwifrau a all yn hawdd achosi i blentyn ag arthritis faglu.

Fe all gweithwyr proffesiynol eraill fod yn cymryd rhan yn hyn er mwyn sicrhau ystyried ansawdd bywyd i'r person ifanc a'r gofalwr. Mae codi plentyn sy'n tyfu yn dasg benodol lle dylai iechyd y gofalwr gael ei ystyried hefyd. Mae llawer o ofalwyr yn dioddef poen cefn. Ceisiwch gyngor gan ffisiotherapydd neu therapydd galwedigaethol os byddwch yn gorfod codi'r plentyn yn aml gartref.