| |
|
Gosod sblintiauDyfeisiadau wedi'u gwneud o ddeunydd thermoblastig ac sy'n cael eu mowldio o gwmpas breichiau, coesau neu wddf eich plentyn i gadw'r rhan honno o'r corff yn yr ystum iawn yw sblintiau. Rhaid i sblintiau sy'n cael eu gwisgo yn y dydd amddiffyn cymalau poenus, a gadael i'r plentyn ddefnyddio'i haelodau mor normal â phosibl. Sblintiau gorffwys yw'r rhai sy'n cael eu gwisgo yn y nos ac maen nhw wedi'u cynllunio i ganiatáu i'r cymalau orffwys mewn ystum niwtral. Fe ddylai sblintiau leddfu poen yn y cymalau, a dylai plant sy'n gwisgo sblintiau'n gyson weld eu bod yn gallu dal ati i chwarae neu weithio yn yr ysgol am gyfnodau meithach pan fyddan nhw'n eu gwisgo na phan na fyddan nhw. Fe all gwisgo sblintiau'n gyson helpu i rwystro anffurfio'r cymalau a thrwy wisgo sblintiau coesau yn y nos, fe all plant gerdded y peth cyntaf y bore pan fyddai stiffrwydd arferol bore cynnar yn golygu, fel arfer, na allai eu coesau plygedig gynnal pwysau. Fel arfer fe gaiff sblintiau (dyfeisiadau orthotig) eu gwneud gan therapyddion galwedigaethol neu orthotegwyr proffesiynol, ac ambell dro gan ffisiotherapyddion. Mae rhai ffisiotherapyddion yn credu nad oes arnyn nhw angen hyfforddiant orthotig arbenigol i wneud sblintiau effeithiol i blant ag arthritis, a falle bydd ganddyn nhw'r hyder 'i roi cynnig arni'. I rieni mae'r agwedd hon o 'hyder uwchlaw medr' yn annerbyniol, am fod gwneud sblintiau ar gyfer plant yn golygu rheoli ofnau'r plentyn yn ofalus a'i chael i gydweithredu tra bydd y sblint yn cael ei wneud. Fe all plant ag arthritis fod yn defnyddio gwahanol sblintiau am flynyddoedd lawer, ac fe all eu profiad cyntaf o sblintiau eu gwneud yn fwy neu'n llai parod i'w gwisgo. Mae'r plant hyn sydd mewn poen angen therapyddion medrus a gwybodus sydd eisoes wedi meistroli'r sgil technegol o wneud sblintiau. Dim ond o dan arolygaeth orthotegydd rhewmatolegol arbenigol sy'n gyfarwydd â phlant y dylai therapydd ddysgu orthoteg ar y grwp hwn o blant bregus. Ddylai gwneud sblintiau modern ddim peri unrhyw anghysur i blentyn, er y gall brofi'u hamynedd yn ystod y broses hir. Byw gyda sblintiau a gofalu amdanyn nhw
|
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |