| |||||
|
EsgidiauPan ydyn ni'n iach a chryf, mae adeiladwaith cymharol fychan ein dwy droed yn cynnal pwysau'r corff cyfan. Mae trefn bendant ar sut mae pob troed yn taro'r ddaear, yn derbyn pwysau'r corff, ac yn gwthio oddi ar y ddaear wrth i'r corff drosglwyddo'i bwysau i'r droed arall. Rydyn ni'n dysgu'r drefn yn ystod ein blynyddoedd cynnar ac o hynny ymlaen yn cymryd pob cam di-boen yn ganiataol. Fe all unrhyw boen, chwydd neu stiffrwydd yng ngwaelod cefn plentyn, yn ei gluniau, pengliniau neu fferau amharu ar swydd cynnal pwysau normal traed y plentyn. Hefyd fe all unrhyw glefyd arthritig yn y troed ei hun (ym mlaen neu gefn y troed) amharu ar adeiladwaith ystwyth normal y troed gan achosi poen sylweddol neu anffurfio posibl. Mae monitro traed eich plentyn a'i phatrwm cerdded, felly, yn flaenoriaeth bwysig. Fe all meddyg yr ysbyty neu'r meddyg teulu wneud hyn ond fe fyddai cael mynd at driniwr traed yn fuddiol. Ceisiwch help y triniwr traed yn gynnar a helpwch nhw i fonitro traed eich plentyn. Mae camosodiad yn y fferau a'r traed yn gymhlethdodau cyffredin sydd angen help proffesiynol. Mae mewnwadnau wedi'u gwneud yn arbennig i'ch plentyn yn llawer mwy effeithiol na'r rhai 'oddi ar y silff'. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu'ch ymgynghorydd eich anfon at driniwr traed y GIG a fedr wneud pâr o fewnwadnau sy'n help i rwystro anffurfiadau ac yn lleddfu poen. Awgrymiadau cyffredinol
Mae Foot Health Register yn cadw rhestr wedi'i diweddaru o siopau esgidiau sy'n mesur traed plant yn broffesiynol. Cysylltwch â
neu cysylltwch â
| ||||
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |