| |
|
Materion yn ymwneud â symudedd
Mynd o gwmpasReidio beic: Dyma ffordd ardderchog i'r plentyn ifanc ag arthritis gadw'n heini a symudol am fod y plentyn yn cadw'i chalon a'i hysgyfaint yn iach yr un pryd ag ymarfer ei chymalau ond heb iddyn nhw orfod cynnal pwysau ei chorff. Os medrwch lunio trac ar siâp '8' ar balmant gwastad y tu allan i'r ty mae'n rhoi lle diogel i'r plentyn ddal ati i bedlo heb orfod stopio. Fe all rhai plant fwynhau pedlo ar eu beiciau pan na fedran nhw gerdded ymhell. Yn y dechrau mae beic tair olwyn cryf yn rhoi cyfle i blant rasio'u ffrindiau. Yn ddiweddarach, fe fydd beiciau â sadwyr cadarn yn ddefnyddiol, a chofiwch am helmed ddiogelwch. Mae teuluoedd nawr yn defnyddio beiciau o gynllun mwy newydd, fel beic plentyn wedi'i fachu wrth feic oedolyn, neu dandem wedi'i addasu. Edrychwch yn eich llyfr ffôn am siop feiciau i gael cyngor a gofynnwch i'r ffisiotherapydd. Mae plant ag arthritis fel arfer angen mwy o help i symud o gwmpas. Cyn gynted ag yr aiff pram cyffredin plentyn yn rhy fach iddi, cysylltwch â'ch therapydd galwedigaethol i geisio help a chyngor. Fe all ffisiotherapydd helpu hefyd. Am gyfnod byr, neu am rai blynyddoedd, falle bydd angen i'r plentyn ddefnyddio baglau penelin, neu bram sy'n plygu i blentyn mwy, neu gadair olwyn fechan i blentyn hyn. Mae rhai plant o oed ysgol yn adfywio unwaith y cân nhw gadair olwyn drydan. Fe allwch chi ffonio'r therapydd galwedigaethol am gyngor, neu ofyn i'ch meddyg teulu, neu weithiwr iechyd neu ofal proffesiynol gyfeirio'ch plentyn i'r ganolfan asesu symudedd agosaf. Falle bydd angen i chi ddisgwyl rhai wythnosau cyn cael apwyntiad. Unwaith y bydd y plentyn wedi'i hasesu, fe all yr offer gyrraedd o fewn diwrnodau. Dyw hi ddim yn anghyffredin, fodd bynnag, i offer, yn arbennig offer mawr neu gymhleth iawn neu addasiadau, gymryd misoedd i gyrraedd. "Mae hoist Hannah a thri darn arall o offer yn yr ystafell eistedd, ac mae rhagor yn swyddfa fechan fy ngwr. Mae ganddon ni hefyd ddwy lot o gadeiriau gwthio a chadair olwyn." Fe ddylai asesiad llawn gynnwys yr holl elfennau hyn:-
Awgrymiadau rhieniGwnewch yn siwr fod yr elfennau hyn yn cael eu hystyried. Dyw e'n ddim lles i neb i'r gadair weddu i'r person ond ar yr un pryd wneud drwg mawr i gefn y gwthiwr. Holwch beth yw'r trefniadau cynnal a chadw ar gyfer unrhyw offer, a beth yw'r drefn os bydd offer yn torri. Â phwy y dylech chi gysylltu os digwydd hyn, a beth yw rhif eu ffôn. Tocynnau cadair olwyn: Mewn rhai ardaloedd ac os yw'r person ifanc yn gymwys, mae'n bosibl gofyn am gwota o docynnau symudedd (tua phris cadair olwyn safonol) yn lle'r offer ei hun. Fe allwch chi gyfnewid y tocynnau gyda'r rhan fwyaf o wneuthurwyr cadeiriau olwyn, a'u defnyddio i gyfrannu at gost cadair olwyn ddrutach |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |