
|
Sut i wneud yr ymarferion
Mae ffilm fideo dda 'Physio for Kids' yn dangos sut i wneud y prif ymarferion ac mae hi ar gael am ffi
fechan gan Arthritis Care, Children's Chronic Arthritis Association neu Jointz (grwp cefnogi rheini
Arthritis Care yng Ngogledd Iwerddon, a awgrymodd y fideo). Fe fydd therapydd eich plentyn yn rhoi
taflen i chi am y drefn, ac fe ddylai ddangos i chi sut i wneud yr ymarferion. Fe fydd angen i chi ymarfer
tra bydd y therapydd gyda chi, a holi unrhyw gwestiynau. Ystyriwch y rhestr uchod, a holwch beth i'w
wneud os bydd popeth yn mynd yn dda, a beth i'w wneud os bydd problemau. Hefyd gofynnwch am
rif ffôn y therapydd rhag ofn i chi gael problemau ac y bydd arnoch angen rhagor o arweiniad.
Dewisiadau eraill yn lle rhieni i oruchwylio ymarferion
Mae goruchwylio ymarferion dyddiol egnïol yn ofalus yn gofyn llawer iawn ac fe all fod yn dorcalonnus
i bawb. Mae'n gwbl ddealladwy os byddwch chi, ar ôl ymdrechu, yn gweld eich bod yn methu dal ati
i oruchwylio'r drefn. Fe fyddai'r plentyn yn para i gael budd o'r drefn felly'r sialens yw cael gafael ar
rywun yn yr ysgol sy'n barod i weithredu'r drefn ymarferion fel rhan o raglen cwrdd ag angen y plentyn.
Mae rhy ychydig o therapyddion yn y gymuned a allai weithredu'r drefn ymarferion er y gallen nhw
helpu i hyfforddi aelod o staff yr ysgol i wneud. Gofynnwch i'r ffisiotherapydd arbenigol ysgrifennu
adroddiad ar gyfer yr ysgol a'r awdurdod addysg lleol yn egluro pam mae'r drefn yn holl bwysig a sut
gallai gael ei gweithredu'n ddiogel yn ystod y diwrnod ysgol.
Awgrymiadau rhieni ar ddulliau eraill o helpu'ch plentyn i wneud ymarferion
- Ewch â'ch plentyn i nofio bob wythnos, un ai fel teulu neu gyda chlwb nofio. Mae ymarfer mewn dwr yn ddull ardderchog o gynnal ffitrwydd, cadw'r cymalau'n symudol a chynyddu cryfder y cyhyrau a stamina.
- Anogwch eich plentyn i ymuno â mudiadau fel Brownies/Sgowtiaid, Geidiau, Yr Urdd neu fudiadau tebyg sy'n cynnig cyfle i fentro llawer o weithgareddau dan oruchwyliaeth gadarn. Hysbyswch y trefnydd o arthritis ac anghenion eich plentyn a thrafodwch gyda'ch plentyn faint mae ef/hi eisiau i bobl ei wybod am eu medr a'u cyfyngiadau.
- Os yw'ch plentyn yn mwynhau drama neu gelfyddyd, chwiliwch am grwp lleol sy'n gefnogol a falle'n ei hannog hi i feithrin ei sgiliau, cael hwyl a chynyddu mewn hyder.
- Defnyddiwch weithgareddau gartref sy'n annog pob plentyn i rannu, cymryd eu tro, er mwyn i'r plentyn ag arthritis ddysgu sut i gymryd rhan mewn gemau tîm, cystadleuaeth hwyliog ac ymdrechion ar y cyd. Y tu allan i'r teulu, fe all pobl eraill dueddu i adael i'r plentyn ag arthritis ddewis y gêm, neu gael y tro cyntaf o hyd. Dyw hyn ddim yn helpu'r plentyn i ffitio i mewn nac i ddysgu rheolau 'cymryd a rhoi'.
- Benthyciwch fersiynau mawr o gemau o'ch llyfrgell deganau leol, (e.e, fersiwn enfawr o Nadroedd ac Ysgolion, Gwyddbwyll, Connect 4, neu Timber!) Mae chwarae'r rhain yn hwyl, ac yn gwneud i'ch plentyn ymestyn coesau a breichiau i gyrraedd rhannau o'r gêm. Mae'r 'ymestyn' hwn yn ymestyn y cymalau, ac yn ymarfer ond yn ystod y gêm yn hwyl yn hytrach na bod yn symudiad ar ei ben ei hun. Holwch yn eich llyfrgell leol am fanylion y Llyfrgell Deganau agosaf.
- Defnyddiwch sbwng neu beli mawr llawn gwynt ar gyfer gemau taflu, dal a chicio. Defnyddiwch focsys, cylchau neu farciau sialc ar bapur neu waliau i wneud targedi neu lwybrau i'r plant lywio'r peli ar eu hyd. Mae'r peli hyn gymaint ysgafnach na pheli-troed eraill felly dyw eu heffaith wrth daro traed y plentyn ddim mor gryf, a dydyn nhw ddim yn trechu cyhyrau gwan coesau'r plentyn.
|