
|
Elfennau allweddol ar gyfer llwyddo i ddilyn trefn ymarferion gartref
Wedi amlinellu rhai o'r problemau, mae'r ffaith yn aros fod ymarfer yn gyffredinol yn helpu plant ag
arthritis, a bod rhaglen o ymarferion dyddiol effeithiol wedi'i chynllunio'n dda yn llesol iawn. Rhaid i
drefn ymarfer lwyddiannus yn y tymor hir fod:
- yn addas i'r oed, er mwyn i chi ddewis caneuon a gemau ar gyfer plentyn pedair oed fydd yn wahanol iawn i'r rhai fydd yn addas i symbylu plentyn wyth oed.
- yn greadigol, er mwyn atal y drefn rhag mynd mor ddiflas nes bod yr oedolyn a'r plentyn yn rhoi'r gorau i'w dilyn. Mae cael thema ar gyfer rhai gweithgareddau, neu wneud rhai newydd yn help i ychwanegu diddordeb at drefn ddiflas iawn.
- yn berthnasol ac wedi'i thrafod er mwyn i'r rhiant, y plentyn a'r therapydd ddeall beth yw'r adnoddau sydd ar gael gartref (pethau fel lle, matiau, anghenion plant eraill, ymrwymiadau gwaith rhieni). Mae'n help hefyd bod set o ddewisiadau ar gael, neu gynlluniau argyfwng, fel medrwch chi droi at gynllun 'B' os na fydd cynllun 'A' yn gweithio.
<- wedi eu deall gan y rhai sy'n ceisio gwneud yr ymarferion gartref. Rhaid i'r rhiant sy'n goruchwylio, a'i b(ph)artner ddeall pam mae angen yr ymarferion, a beth yw pwrpas penodol pob symudiad. Nid gwyddoniaeth cymhleth mo hyn, ac fe all y rhan fwyaf o rieni ddeall eglurhad syml, e.e, 'mae'r ymarfer hwn yn adeiladu cryfder cyhyrau top y goes er mwyn iddi gael mwy o egni, a hynny'n ei helpu i gerdded am gyfnodau hirach.' Pan na fydd rheini'n deall pwrpas neu dechneg yr ymarferion maen nhw'n llai tebygol o'u dilyn. Fel bydd y person ifanc yn tyfu fe ddylen nhw hefyd ddysgu pam mae'r ymarferion yn bwysig, a sut dylen nhw eu dilyn yn fanwl gywir.
- wedi'u cytuno gan y ddau riant, mae ymchwil yn dangos bod anghytuno difrifol yn gallu digwydd rhwng y ddau riant ynghylch pa mor egnïol neu fanwl gywir y dylid eu dilyn pan na fydd ond un yn gwybod am y drefn. O'r dechrau fe all fod yn help i gynnwys y neiniau a'r teidiau ac oedolion eraill yn y dysgu am y drefn. Mae hyn yn golygu bod y cyfrifoldeb am y drefn yn cael ei rannu yn hytrach na'i adael i un oedolyn (fel arfer y fam), fod oedolion sy'n goruchwylio yn cynnal ei gilydd, a gyda'i gilydd bod y teulu yn fwy tebygol o lwyddo i ddilyn trefn sydd o fewn eu cyrraedd.
- yn realising, falle bydd therapyddion yn gofyn i chi ddilyn y drefn bob dydd, a'i chwblhau hyd yn oed os oes cymal yn llidus, wedi chwyddo neu'n boenus. Dyma'r ddelfryd glinigol o bosibl ond yn ymarferol falle byddwch chi'n llwyddo'n well wrth ei dilyn ar ddyddiau gwaith yn unig, neu am gyfnodau o dair wythnos yn cael eu dilyn gan 'wyliau o therapi'. Os caiff y cynllun hwn ei ddilyn mae rhagor o deuluoedd yn mynd i lwyddo, ac mae'r teulu cyfan yn gwybod ble maen nhw yn y drefn. Os dilynwch chi hi bob dydd, fe aiff yn straen sylweddol i'r teulu ond fe all rhieni penderfynol lwyddo.
|