Ymarferion, materion yn ymwneud â symudedd a gosod sblintiau

Pam dylai plant ag arthritis wneud ymarferion?

Mae angen i blant ag arthritis wneud ymarferion cyffredinol a phenodol oherwydd:

  • Maen nhw'n helpu plant i gadw gwell amrediad o symudiad a symudedd yn y cymalau.
  • Maen nhw'n help i gynyddu egni, cryfder ac ystwythder y cyhyrau er mwyn i'r cyhyrau ddal i dyfu yn union gywir â'i gilydd wrth i'r plentyn dyfu.
  • Maen nhw'n help i adeiladu trwch a chryfder yr esgyrn, sy'n arbennig o bwysig pan mae'r ysgerbwd yn datblygu ac i wrthweithio osteoporosis.
  • Maen nhw'n help i gadw calon, ysgyfaint, system treuliad a systemau eraill y corff yn ffit ac iach.
  • Maen nhw'n cynyddu egni ac yn gwella patrymau cysgu.
  • Fe allan nhw fod yn bleserus, yn gymdeithasol ac yn adeiladu hyder.

Problemau cyffredinol gwneud ymarferion gartref

Fe all trefn ddyddiol o ymarferion wneud gwahaniaeth mawr i gynnal symudiad a rhwystro'r cyhyrau rhag crebachu (pan fydd cyhyrau'n mynd yn ddisymud yn yr un ystum). Mewn adrannau ffisiotherapi arbenigol roedd ffisiotherapyddion yn gallu gweithio'n ddyddiol gyda phlant yn dioddef crebachdod, ac wedi rhai wythnosau yn helpu'r plentyn i adennill symudiad normal. Fe ddatblygodd ffisiotherapyddion arbenigol arbenigedd mewn helpu plant ag arthritis difrifol a'u teuluoedd dros lawer o flynyddoedd.

Yn America, Canada a'r Deyrnas Unedig mae traddodiad, sy'n ymestyn yn ôl dros dri deg o flynyddoedd, o argymell rhaglen egnïol o ymarferion dyddiol i deuluoedd eu gwneud gartref. Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth ymchwil sydd ar gael yn gwarantu gwahanol ffyrdd o helpu teuluoedd i ddilyn rhaglen ymarferion effeithiol gartref yn y tymor hir. Wrth weithio mewn campfa ffisiotherapi ysbyty ag offer da ynddi, fe all ffisiotherapyddion symbylu plant ac fe fydd eu gwybodaeth, eu hawdurdod, eu hoffer, y lle, eu gwisg, a medru rhoi sylw un-i-un, yn fantais iddyn nhw. Fe all pwysedd y grwp plant ar y naill a'r llall hefyd fod yn fantais. Gartref, mae'r sefyllfa'n hollol wahanol, ac er mwyn llwyddo gyda'r rhaglen ymarfer rhaid i rieni gael hyfforddiant, cefnogaeth a chymorth.

Roedd astudiaeth Brighton 2001 yn edrych yn fanwl ar lawer o'r anawsterau a gafodd eu nodi gan deuluoedd - anawsterau oedd yn gyson â'r rhai a gafodd eu nodi mewn astudiaethau cyfoes ac eraill cynt [2]. Fe ddangosodd yr astudiaethau hyn bod llawer teulu'n rhoi'r gorau i geisio gwneud ymarferion yn fuan, tra oedd eraill yn rhoi llawer o amser, egni ac ymdrech i'w gwneud ond anaml roedd therapyddion yn monitro'u hymdrechion. Felly fe all yr ymarferion sy'n cael eu gwneud fod yn aneffeithiol ac anghywir. Fe ddangosodd yr ymchwil hefyd fod yr ymarferion yn tynnu sylw at wrthdaro rhwng y plentyn a'r rhiant, eu bod yn pwysleisio salwch a pherfformiad, yn cau allan sibliaid, ac yn gofyn llawer yn emosiynol gan rieni, plant a sibliaid. Fe nododd teuluoedd mai dim ond taflen yn unig a gawson nhw'n ganllaw ar sut i wneud yr ymarferion neu mai unwaith yn unig y dangoswyd iddyn nhw sut i'w gwneud.

Mae nifer fechan iawn o therapyddion yn mynnu y dylai teuluoedd gwblhau''r rhaglen lawn o dri deg o symudiadau sy'n cael eu hailadrodd ar gyfer pob ymarfer. Mae'r rhan fwyaf o'r therapyddion eraill yn cymryd agwedd fwy creadigol sy'n helpu teuluoedd i ddefnyddio amrywiaeth o gemau a gweithgareddau a fyddai hefyd yn cyrraedd yr un nod â'r rhaglen lawn. Mae'r rhan fwyaf o glinigwyr wedi bod yn ymwybodol o'r anawsterau sylweddol sy'n wynebu teuluoedd ac maen nhw'n ceisio gweithio o fewn terfynau realistig adnoddau a sefyllfa'r teulu.

[2] Barlow J, Harrison K, Shaw KL (1998) The experience of parenting in the context of Juvenile Idiopathic Arthritis. Clinical Child Psychology & Psychiatry 3(3), tt 445-463, Rapoff M (1982) Compliance of pediatric patients with medical regimens: a review and evaluation. Yn Stuart R (Gol), Adherence, generalisation, and compliance in behavioural medicine. New York, Bruner/Mazel, tt 79-124