| |
|
Ychwanegion at fwydBob blwyddyn mae dros £300m yn cael ei wario ar ychwanegion at fwyd. Mae arthritis yn anhwylder mor gyffredin mewn oedolion ar draws y byd nes bod marchnad enfawr i ychwanegion sy'n lleddfu poen, stiffrwydd, ac yn lleihau dibyniaeth ar foddion. Mae'n hawdd deall y chwilio am fwy o leddfu poen ond, fel gyda materion eraill, chwilio gwybodaeth yw'r cam cyntaf ymlaen. Mae honiadau niferus am amrywiaeth enfawr o gynhyrchion, a phob blwyddyn fe ddaw honiadau newydd am gynnyrch sy'n rhoi gwellhad. Y tri phrif bryder ynghylch defnyddio ychwanegion yn gyson yw:-
Fe gaiff y rhan fwyaf o ychwanegion eu rheoli dan ddeddf bwyd, sy'n golygu na allan nhw hawlio medru trin, gwella na rhwystro clefydau. Fe ddaw llawer dros hyn trwy honiadau mwy cyfrwys a labelu sy'n targedu 'dioddefwyr' yn uniongyrchol. Mae nifer fechan iawn o ychwanegion wedi'u trwyddedu gan roi hawl i'r gwneuthurwyr i wneud honiadau meddygol. Fe fydd gan gynnyrch wedi'i drwyddedu gryfder a chynnwys dibynadwy, cyson, ac fe fydd eu diogelwch a'u sgil effeithiau wedi mynd trwy brofion llym fel moddion fferyllol eraill. Chwiliwch am rif PL bychan bach ar gefn y nwydd, ond fe welwch y cynhyrchion hyn yn aml wrth ochr rhai heb drwydded. Asidau brasterog hanfodolFe gadarnhaodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd bod asidau brasterog hanfodol Omega 3 mewn olew iau penfras yn gallu lleihau actifedd ensymig sy'n achosi poen, llid a niwed i'r cartilag. Fu dim ymchwil penodol i ganfod sut dylai plant ei ddefnyddio orau. Fe gafodd effeithiau llesol eu nodi ar symudedd y cymalau, poen a'r croen ar ôl rhai misoedd o'i ddefnyddio. Chafodd dim effeithiau niweidiol eu nodi. Mae olew rhai planhigion penodol (yn arbennig o SAM-e = S-adenoysyl methionine = trwyth o grafanc y cythraul) yn cael peth effaith lesol ar bobl sy'n dioddef osteoarthritis. Mae peth ymchwil ar gymysgedd o afocado a ffa soya, sy'n cael ei alw yn ASU, yn edrych yn obeithiol ond eto doedd e ddim yn canolbwyntio ar y sialens benodol i blant ag arthritis, a chafodd e mo'i ddefnyddio mewn cyfuniad â moddion confensiynol. |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |