Bwyd ac ychwanegion at fwyd

Mae bwyd da yn rhan o'r ateb!

Mae bwyd da yn rhan o'r ateb!

Edrychwch ar faeth gyda brwdfrydedd newydd am fod degawdau o ymchwil yn profi bod diet da yn hybu iechyd plant, yn cynyddu eu gallu i wrthsefyll heintiau, ac yn gwella ansawdd bywyd. Mae'n fwy derbyniol cynnig diet mwy amrywiol i'ch plentyn, yn arbennig ffrwythau ffres, llysiau, cnau a ffacbys na rhoi rhagor o dabledi sy'n cynnwys ychwanegion at fwyd.

Mae rhai plant yn colli diddordeb mewn bwyd ac fe allan nhw deimlo'n gysglyd neu'n gyfoglyd o ganlyniad i'w clefyd, wedi'u gwahanu oddi wrth eu ffrindiau neu'n cael blas drwg yn y geg oherwydd y moddion. Mae rhai plant ag arthritis yn mynd yn feddygol ddifaeth ac mae'n dorcalonnus a rhwystredig i geisio annog plentyn gwan i lyncu sawl llond ceg pitw.

Egwyddorion i hybu iechyd eich plentyn a'i phleser mewn bwyta:

  • Defnyddiwch ffrwythau a llysiau ffres, a pheidiwch â'u gorgoginio!
  • Paratowch dameidiau bach o foron, brocoli, darnau o gaws a dipiau y mae plant o bob oed fel arfer yn eu hoffi.
  • Ceisiwch gyfleu bod bwyd yn beth i'w fwynhau yn hytrach na gwneud prydau bwyd yn adegau annymunol.
  • Ceisiwch ddefnyddio cnau a ffacbys pan fedrwch chi a ffrwythau ecsotig yn achlysurol i gadw diddordeb mewn profi blasau newydd.
  • Mae rhoi hwb i'r rhieni cyn bwysiced ag annog y plentyn.
  • Rhaid wrth gefnogaeth gyson gan y teulu cyfan.
  • Gwrandewch ar ddisgrifiad eich plentyn o sut mae pethau'n blasu iddi hi. Mae plant yn teimlo blas gwahanol i oedolion, ac fe all moddion newid eu synnwyr blas. Fe all amrywio yn ôl pryd maen nhw'n cael eu moddion, felly gweithiwch allan ar ba adeg o'r dydd maen nhw fwyaf tebygol o fwynhau bwyd yn lle mynnu eu bod nhw'n addasu i'ch trefniadau chi.
  • Chwiliwch am help dietegydd clinigol os ydych chi'n gofidio am ddiet a maeth eich plentyn. Gofynnwch i'r rhewmatolegydd neu i'ch meddyg teulu gyfeirio'ch plentyn os oes angen.
  • Prynwch fwydydd sylfaenol o'r ansawdd gorau y medrwch ei fforddio.
  • Osgowch lefrith heb ei bastureiddio, caws a chynnyrch arall o lefrith heb ei bastureiddio.
  • Defnyddiwch ddwr potel os byddwch dramor.

Os mai ychydig bach o fwyd mae eich plentyn yn ei fwyta...

  • Mae ychydig ownsiau o gaws cheddar o ansawdd da yn llawer mwy maethlon a blasus na thamaid cyfatebol o gaws wedi'i brosesu a'r adychwanegion a all fod ynddo.
  • Defnyddiwch blât llai a dognau bach a llwythi o anogaeth.
  • Canolbwyntiwch ar beth sydd wedi'i fwyta, nid ar beth sydd ar ôl ar y plât.
  • Fe all dietegydd argymell powdwr sy'n drwm o galorïau i'w ychwanegu at y bwydydd rydych chi'n eu paratoi.
  • Ac yn olaf...

  • Dyw creision (gyda chyn lleied o adychwanegion neu flasau â phosibl) ddim yn cael eu cymell i blant iach ond maen nhw'n fwyd defnyddiol trwm o galorïau pan fyddan nhw'n helpu plentyn nad yw'n bwyta i fwyta rhywbeth. Mae'r rhan fwyaf o blant yn mwynhau gwneud brechdanau creision yn arbennig os gwnewch chi gêm o wasgu'r frechdan yn fflat cyn ei bwyta!