Moddion wedi'u hargymell

Cyngor cyffredinol yn unig y gallwn ni ei gynnig yn yr adran hon. Rhaid i chi ofyn am gyngor penodol ar gyfer eich plentyn pan fyddwch yn ymweld â'r gofalwyr iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â gofal eich plentyn. Mae llawer o'r wybodaeth isod wedi'i chymryd o'r taflenni a'r cyhoeddiadau a gyhoeddwyd gan yr Arthritis Research Campaign ac Arthritis Care. Mae gwybodaeth y gallwch ei lwytho i lawr ar: www.arc.org.uk/about_arth/patpubs.asp neu www.arthritiscare.org.uk/aboutarthritis/

Poenladdwyr: Dyma'r moddion cyntaf i helpu plant â symptomau arthritis plant. Fe all hylifau neu dabledi seiliedig ar Paracetamol (fel Calpol) gael eu hargymell ac fe allan nhw leddfu poen cymedrol dros dro. Fe gaiff y cyffuriau hyn eu galw yn rhai analgesig ambell dro. Fe all rhai cryfach fel Codeine neu Tramadol achosi sgil effeithiau sy'n cynnwys cyfog, chwydu, teimlo'n gysglyd, rhwymedd ac mewn achosion prin, anawsterau anadlu.

Moddion gwrthlidiol ansteroidal (NSAIDs): Meddygon sy'n argymell y cyffuriau hyn sy'n aml yn cael eu galw yn NSAIDs. Fe gân nhw'u defnyddio i drin poen, stiffrwydd yn y cymalau a'r meinwe meddal mewn clefydau llidus. Fe gân nhw hefyd eu defnyddio ar gyfer llid, poen a chwydd ar ôl triniaeth lawfeddygol i esgyrn a chymalau. Enghreifftiau o'r cyffuriau hyn yw Ibuprofen, Naproxen, Piroxicam, Diclofenac ac Indomethacin. Fe all cymryd y moddion hyn gyda bwyd neu ar ei ôl leihau'r sgil effeithiau. Fe allan nhw ymyrryd â chyffuriau eraill ac fe ddylech osgoi rhoi mwy na dau fath o NSAIDs ar yr un pryd.

Mae rhai pobl yn dioddef sgil effeithiau sy'n cynnwys rhwymedd, penysgafndod, dryswch, cyfog, llosg cylla, camdreuliad, brech a brest yn gwichian a thuedd i drafferthion stumog. Sgil effeithiau prinnach yw amharu ar hwyliau a chreithio'r arennau. Os oes asthma ar eich plentyn, ddylai hi ddim cymryd y rhain a dylech drafod hyn gyda'ch meddyg.

Weithiau rhaid i bobl gael moddion arall i amddiffyn y stumog neu i wrthweithio rhai sgil effeithiau sy'n codi o'r stumog. Losec neu Zantac yw'r rhai mwyaf cyffredin.

Fe ddylai math newydd o NSAID - yr atalyddion COX-2 - fod yn ddiogelach, ond dydyn nhw ddim wedi'u profi'n helaeth ar blant.

Corticosteroidau (a elwir yn steroidau yn aml)

Prin yw'r defnydd o'r rhain bellach ac fe gân nhw'u monitro'n gyson, ond yn y 1960au a'r 1970au roedden nhw'n cael eu gorargymell. Mae steroidau yn helpu i reoli'r broses lidiol ac ymateb yr imiwn. Y cyffur mwyaf cyffredin yw Prednisolone. Fe all steroidau gael eu rhoi trwy'r geg ar ffurf tabledi, (fel arfer i'w cymryd bob yn eilddydd i leihau'r sgil effeithiau), trwy bigiad i gymal penodol i leddfu poen yn lleol, neu trwy bwmp trwytho i wythïen i leddfu llid cyffredinol. Fe all eich meddyg argymell tabledi wedi'u gorchuddio â haen enterig i atal neu i leihau dolurio'r stumog.

Roedd steroidau yn newid hwyliau rhai pobl ac yn gwneud iddyn nhw deimlo mewn gwell ysbryd ac yn fwy awyddus i fwyta. Sgil effeithiau cyffredin yw ennill pwysau, newid yn yr wyneb (sy'n mynd yn debyg i falwn), a mwy o fân flew. Fe all dosau uchel o steroidau effeithio ar bwysedd y gwaed, y clefyd siwgr, a phatrymau hwyliau a chysgu. Mae pobl sydd ar steroidau yn dueddol o gael haint neu afiechyd.

Mae defnydd cyson o ddosau gweddol uchel yn lleihau twf plentyn - ond mae cwrs y clefyd yn gwneud hynny hefyd. Dyma'r agwedd sy'n cynhyrfu plant a rhieni ac eto mae'r cyffuriau'n arfau pwysig i wella ansawdd bywyd y plentyn. Rhaid wrth drafodaeth ofalus rhwng y plentyn, y rhieni a'r gweithwyr proffesiynol ac fe ddylai pob un gytuno ar bob steroid yn ei dro.

Pan ydych chi'n cymryd steroidau, cofiwch ...

  • Mae steroidau yn rhwysto'r chwarennau adrenalin rhag cynhyrchu’ cortison arferol a RHAID eu cymryd yn gyson. Fe olyga hyn mai dim ond yn raddol y dylai'r dosau gael eu newid i ganiatáu i'r chwaren ddod ati'i hun.
  • Fe ddylai'r fferyllydd roi cerdyn swyddogol i'ch plentyn er mwyn i bobl eraill weld ar unwaith, pe digwyddai damwain, fod rhaid iddi barhau i gymryd ei thabledi steroid. Fe all hi wisgo breichled neu fwclis gwddf medic-alert hefyd.
  • Fe all y gallu i amsugno calsiwm leihau ac fe all hyn arwain at osteoporosis; felly anogwch y plant i fwyta mwy o fwydydd sy'n gyfoethog mewn calsiwm fel llefrith, a gwneud ymarferion cynnal-pwysau yn gyson.
  • Ddylai eich plentyn ddim cael brechlynnau fel rubella, BCG at y dicáu na brechlyn polio trwy'r geg. Holwch eich meddyg pa frechlynnau y gall eich plentyn eu cymryd yn ddiogel os yw ar steroidau neu DMARDs.
  • Fe all brech yr ieir fod yn beryglus i'ch plentyn os yw hi ar ddosau trwm o steroidau. Fe fydd angen i chi hysbysu'r ysgol am hyn a gofyn iddyn nhw eich hysbysu chi os bydd brech yr ieir yn torri allan. Fe allwch chi wedyn holi'ch meddyg a fydd angen i'ch plentyn aros gartref o'r ysgol am gyfnod.

Cyffuriau sy'n rheoli clefydau (DMARDs)

Mae DMARDs yn gwneud y clefyd yn llai actif ac felly'n lleihau poen, chwydd a stiffrwydd. Maen nhw'n gweithio'n araf, ac yn gallu cymryd hyd at dri mis i ddod yn effeithiol mewn plant unigol. Maen nhw'n wrthimiwnaidd ac felly'n ffrwyno'r system imiwn (system amddiffynnol y corff ei hun sydd fel arfer yn amddiffyn y corff rhag heintiau a chlefydau). Fe all y plant fod yn fwy tueddol i gael peswch ac annwyd. Mae'r cyffuriau hyn yn cynnwys Methotrexate, Cyclosporin, Azathioprine a Cyclophosphamide, - pob un angen ei fonitro'n ofalus.

Mae'r cyffuriau hyn, yn arbennig methotrexate, a fu'n cael eu defnyddio yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, wedi chwyldroi gofal plant ag arthritis. Mae rheoli cwrs y clefyd yn gynnar yn rhwystro difrod sylweddol i'r cymalau ac yn diogelu ansawdd bywyd i blant ag arthritis a'u teuluoedd. Wrth i arbenigwyr mewn rhewmatoleg ennill arbenigedd a hyder mewn defnyddio'r cyffuriau newydd hyn mae'r defnydd ohonyn nhw'n dod yn fwy cyffredin. Fodd bynnag, mae clinigwyr eraill, sydd heb arfer trin plant ag arthritis, yn parhau yn fwy pwyllog. Eto, rhaid cael trafodaeth agored rhwng pawb, ac mae'n help i gael y cyfle i siarad â theuluoedd eraill sydd â phrofiad o ddefnyddio methotrexate.

Fe fu methotrexate yn trin arthritis plant yn llwyddiannus iawn ers yr 1990au cynnar. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn dosau cryfach o lawer i drin plant ac oedolion sy'n dioddef o ganser. Math o gemotherapi yw, felly mae profion gwaed yn cael eu gwneud yn rheolaidd i fonitro'r plant.

DMARD sy'n gweithio'n araf yw methotrexate a falle bydd angen ei gymryd am dair i ddeuddeg wythnos cyn sylwi ar unrhyw effaith. Dylai methotrexate gael ei roi, bob amser, gydag asid ffolig sy'n lleihau doluriau yn y geg ac yn hybu croen iach. Fe gaiff methotrexate ei gymryd ar ffurf tabled neu hylif fel arfer a hynny awr cyn brecwast, unwaith yr wythnos, ar yr un diwrnod o'r wythnos. Fe all cymryd methotrexate trwy'r geg arwain at gyfog a cholli archwaeth ac felly mae ei roi o'r dechrau trwy bigiad wythnosol yn dod yn fwy cyffredin. Fe gaiff y plant bigiad wythnosol dan y croen (i'r croen yn hytrach nag yn ddwfn i'r cyhyr), gan glinigwr lleol neu gan riant sydd wedi dysgu sut i'w roi i'r plentyn yn ddiogel gartref. Fe all plant deimlo'n sâl am rai oriau neu hyd yn oed am tua diwrnod ar ôl cymryd y dos. Mae rhai plant yn gwneud yn well wrth gymryd y dos ar ôl bwyd. Mae methotrexate yn llosgi mwy na phigiadau eraill tebyg.

Falle bydd sgil effeithiau dros dro (fel colli gwallt dros dro, brech a chosi ar y croen) tra bydd corff y plentyn yn dod yn gyfarwydd â'r moddion. Mae sgil effeithiau eraill yn cynnwys ceg ddolurus neu friwiau yn y geg, clefyd rhydd a newid hwyliau. Fe ddylech ddweud wrth eich meddyg ar unwaith os sylwch chi ar gleisiau heb eglurhad iddyn nhw, peswch neu anadl byr. Siaradwch â'ch meddyg am unrhyw sgil effeithiau sy'n eich poeni.

Mae rhai pobl ifanc yn dangos newid hwyliau'n sydyn a hynny'n cael ei ddiystyru neu ei wfftio fel 'ymddygiad normal' pobl ifanc, hyd yn oed os yw'r plentyn yn llawer rhy ifanc i'r eglurhad hwn. Trafodwch unrhyw newidiadau neu sgil effeithiau gyda'ch meddyg ond mae rhai clinigwyr fel petaen nhw'n methu neu'n anfodlon cynnig unrhyw gefnogaeth na help gyda newid hwyliau. Siaradwch â rheini eraill am sut i helpu'ch plentyn chi a cheisiwch dawelu meddwl eich plentyn fydd hefyd falle wedi'i chynhyrfu gan ei theimladau sy'n newid o hyd.

Cyffur arall sy'n gweithio'n araf yw sulphasalzine, a falle bydd yn chwe i wyth wythnos cyn y sylwch ar unrhyw welliant. Fe all haen enterig am y tabledi leihau effaith y cyfog. Mae rhai pobl yn cael cur pen, colli archwaeth, brech a phoen bol. Fe fydd angen profion gwaed bob tri mis i gadw llygad ar effaith y cyffur. Ambell dro fe fydd y cyffur hwn yn troi lliw yr wrin yn oren neu felyn tywyll.

Os bydd brech yn torri allan ar groen eich plentyn, fe ddylech roi'r gorau i roi'r cyffur ar unwaith a chysylltu â'ch meddyg. Fe fydd llawer o'r problemau hyn yn clirio unwaith y bydd y cyffur yn cael ei atal neu ei leihau.

Cyffuriau gwrth-TNF

Mae peth ymchwil diddorol i lwybrau newydd mewn cyffuriau ffrwyno clefyd llidus. Y prif gyffuriau yw Etanercept ac Infliximab, sy'n cael eu rhoi trwy bigiadau cyson. Dim ond gyda methotrexate y maen nhw'n cael eu rhoi, a hynny pan fydd methotrexate wedi bod yn aneffeithiol ar ei ben ei hun. Mae'r rhain yn gyffuriau drud iawn ac mae ymgynghorwyr yn gorfod cael caniatâd arbennig gan yr Awdurdod Iechyd i'w galluogi i'w rhoi i bob plentyn unigol. Fe all fod yn effeithiol yn gymharol gyflym i rai unigolion, ond nid i bawb. Weithiau mae'r rhan fwyaf o'r budd yn amlwg yn ystod misoedd cynnar y driniaeth. Profiad cyfyngedig yn unig sydd o ddefnyddio'r rhain i blant yn y tymor hir am mai yn ddiweddar yn unig y cawson nhw'u trwyddedu ar gyfer plant.

Crynodeb o'r moddion

Mae'r dyfodol yn obeithiol ond yn y cyfamser, rhaid i chi ganolbwyntio ar fyw gyda'r cyffuriau a'r therapïau sydd ar gael heddiw. Gwybodaeth am drin arthritis a chyngor ar beth allwch chi ei wneud i helpu yw'r arfau cryfaf ar gyfer helpu i gadw plant yn hapus a chystal â phosibl. Mae'r Arthritis Research Campaign yn darparu taflenni gwybodaeth am bob un o'r cyffuriau hyn. Cysylltwch â nhw yn:

Copemen House, St Mary’s Court,
St Mary’s Gate, Chesterfield,
Derbyshire S41 7TD neu trwy eu gwefan www.arc.org.uk

Mae Arthritis Care hefyd yn darparu llyfryn defnyddiol. Cysylltwch â nhw yn:

Arthritis Care
18 Stephenson Way,
London
NW1 2HD
Telephone: 020 7380 6500 neu ewch i'w gwefan www.arthritiscare.org.uk
Llinell gymorth Freefone 0808 800 4050

Mae gofyn cael profion gwaed bob pedair wythnos i fonitro effaith y cyffuriau hyn ar fêr esgyrn a gweithrediad arennau eich plentyn. Fel gyda corticosteroidau, ddylai eich plentyn ddim cael rhai brechiadau fel rubella neu polio, a dylai osgoi cyswllt ag unrhyw un yn dioddef o frech yr ieir neu'r eryr.

Therapïau eraill

Mae amrywiaeth o therapïau eraill ac mae pobl sy'n dioddef anhwylderau tymor hir yn eu ceisio'n amlach. Fe gynhyrchodd Dr Foster a'r papur The Times ganllaw da wedi'i ddiweddaru, ac yn cynnwys rhestr o ymarferwyr, ac fe gafodd ei gyhoeddi fel atodiad Body and Soul yn Sunday Times, 11th January 2004. Complementary therapists guide 2004, Part 1: accupuncturists, homeopathists and herbalists. Sunday Times (2004). Fe ellwch chwilio amdano ar wefan The Times: www.timesonline.co.uk/section/0,,10449,00.html#partone