| |
|
ModdionCyd-destun moddionMae defnyddio cyfuniad cymhleth o foddion, ymarferion dyddiol a sblintiau gyda'i gilydd yn ffurfio'r dulliau allweddol o drin arthritis plant. Yn ystod y degawd diwethaf mae defnyddio methotrexate a moddion lliniarol eraill (DMARDs) wedi gwella'r rhagolygon i blant a'r rheolaeth gyffredinol ar arthritis plant yn sylweddol. Fodd bynnag, fel mae canolfannau arbenigol rhanbarthol wedi gyrru ymlaen gyda thriniaethau newydd, mae cyfran o blant yn para i gael eu trin mewn dulliau mwy pwyllog, a hen ffasiwn. Y ffordd ymlaen yw trefniant 'rhannu gofal' lle mae'r plentyn yn gweld y pediatrydd lleol ac yna'r rhewmatolegydd pediatrig mewn canolfan ranbarthol bob yn ail. Rheolaeth neu ofal ataliolO safbwynt y teulu mae'r gwahaniaeth rhwng dull rhewmatoleg draddodiadol a dull y rhewmatolegydd pediatrig yn drawiadol. Mae'r dull arbenigol newydd yn cynnwys diagnosis cynnar ac ymyrryd ar unwaith gyda moddion cryf er mwyn rheoli cwrs y clefyd yn gyflym a rhwystro niwed i'r cymalau [1]. Yn yr achosion hyn, mae fel arfer lai o gymhlethdodau i'w rheoli'n ddiweddarach (pethau fel anffurfio'r cymalau, gosod sblintiau cywiro ac unigrwydd cymdeithasol). Pan fydd dulliau anarbenigol yn para i gael eu defnyddio, mae llawer o blant yn cael eu gweld mewn clinigau sy'n fwyaf arbennig ar gyfer yr henoed ag arthritis. Yma fe all y dull o roi moddion ar bresgripsiwn fod yn gyffredinol fwy pwyllog a hynny'n golygu llai o boenladdwyr ac fe all gymryd llawer mwy o amser i sicrhau rheolaeth fferyllol ar gwrs y clefyd. Mae gofalwyr iechyd proffesiynol ardderchog yn gweithio yn y ddwy sefyllfa ond dyw'r amrywiaeth yn y dull, profiad y claf/teulu a'r canlyniad clinigol posibl ddim wedi'u hymchwilio'n ddigonol ac mae hyn yn bryder. Cwestiynau i'w holi am eich moddionFe ddylai argymhellion newydd y llywodraeth yn 2004 wella diogelwch moddion [2]. Fe groesawodd Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol Cleifion (NPSA) adroddiad yr Adran Iechyd ar ei gwefan: www.npsa.nhs.uk Mae'r rhestr a ganlyn o gwestiynau i'w holi am foddion yn dod o wefan 'Ask About Medicines', sydd hefyd yn cynnwys 'Health and Medicines Information Guide and Directory', y medrwch ei llwytho i lawr. Edrychwch ar: www.askaboutmedicines.org Mae'n bwysig deall beth yw'ch moddion chi a beth maen nhw'n ei wneud a beth i gadw llygad amdano. Dyma'r cwestiynau allweddol i'w holi:
Awgrymiadau ar gyfer rhieni
DS Gofalwch gadw moddion mewn lle claear, sych, allan o gyrraedd plant. Ewch â hen foddion neu rai heb eu defnyddio yn ôl i'r fferyllydd. [2] Yr Adran Iechyd (2004) Building a safer NHS for patients - improving medication safety. Adroddiad gan y Prif Swyddog Fferyllol, cyhoeddwyd Ionawr 2004. Adroddiad llawn a chrynodeb ar gael ar wefan yr Adran Iechyd: www.doh.gov.uk/buildsafenhs/medication |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |