
|
Poen a lleddfu poen
Mae poen yn bersonol ac yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae ymdopi â
phoen yn fwy anodd os ydych chi wedi blino, yn isel, neu o dan lawer o straen. Mae poen arthritis
yn newid wrth yr awr ac yn cael ei achosi gan gyfuniad o'r ffactorau a ganlyn:
- Llid yn y cymal yn achosi chwyddo, cochni, gwres lleol, a cholli symudiad.
- Difrod i'r adeiladwaith o fewn cymalau.
- Gwendid a lleihad yn egni'r cyhyrau o gwmpas y cymal yn achosi plwc o boen sydyn neu straen yn y cyhyrau am fod y cyhyrau amddiffynnol yn tynhau.
- Cyfnodau o ddisymudedd yn gwaethygu poen gan y bydd hi'n haws ysgytio'r cymalau (o'r ochr arall mae symud araf graddol a chyson fel petai'n helpu i lacio adeiladwaith y cymalau).
- Symudiad i wneud iawn gan y corff yn straenio cyhyrau a chymalau eraill, e.e., os yw pen-glin yn boenus a stiff iawn, fe all person addasu eu cluniau ac asgwrn y cefn i osgoi rhoi pwysau ar y pen-glin trafferthus. Ymhen amser fe fydd hyn yn arwain at wayw a phoenau eraill am fod y corff yn anghytbwys ac yn gweithio'n anwastad.
Dulliau o reoli poen
- Pac poeth wedi'i lapio am y cymalau (tasgwch y d_r yn wastad dros dywel cotwm, plygwch e a'i roi ynghanol popty meicrodon, cynheswch am tua munud - profwch dymheredd y tywel yn erbyn eich grudd cyn ei roi ar y plentyn. Falle bydd angen i chi arbrofi'n ofalus gyda'r amser cynhesu). Fe allwch chi brynu rhai paciau poeth masnachol mewn siopau fferyllwyr ar y stryd fawr ond fe allan nhw fod yn drwm i blant ac y bydd angen mwy o amser i'w hailosod. Maen nhw'n cynnwys perlysiau, gwenith neu ÿd. Fe all eraill gynnwys jel sy'n crisialu. Gofalwch ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr bob amser.
- Mae'n well gan rai plant ddefnyddio pac oer - fersiwn cartref yw 1 kg o bys wedi'u rhewi a'u lapio mewn tywel meddal trwchus, ac yna ei lapio am y cymal. Peidiwch â rhoi dim wedi'i rewi nac unrhyw beth oer iawn yn uniongyrchol ar y croen oherwydd fe allai hwn lynu wrth groen y plentyn a'i niweidio.
- Gofynnwch i'r therapydd ddangos i chi sut i dylino gwddf y plentyn neu gymal trafferthus yn dyner. Fe all hyn leddfu poen yn effeithiol am ei fod yn llacio'r cyhyr a'r gïau o gwmpas y cymal. Fe allwch chi ddefnyddio olew baban neu hufen dwylo ar eich dwylo i wneud iddyn nhw symud yn esmwyth dros y rhan boenus.
- Rhowch y plentyn mewn bath cynnes, cadwch hi'n symud yn araf, a darllenwch stori neu chwaraewch dâp ymlaciol. Mae hoff lyfrau neu dapiau storïau a hwiangerddi yn ymlaciol/yn hwyl ac yn tynnu sylw.
- Mae ysgogiad nerfol trwy'r croen (TeNS) yn ddull di-drais o leddfu poen. Mae'n defnyddio ysgogiadau trydanol i gau llwybrau'r boen. Fe gaiff ei ddefnyddio gyda phlant hÿn ac oedolion, ac mae'n fwy effeithiol os caiff ei ddefnyddio ar gymalau penodol. Fe all plant ifanc ei chael yn anodd bod yn llonydd am ddigon o amser. Fe gaiff peiriannau TeNS eu defnyddio yn gyffredin hefyd i leddfu poenau yn ystod beichiogrwydd. Fe allwch chi brynu'r peiriannau mewn siopau fferyllwyr ar y stryd fawr. Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr bob amser.
- Defnyddiwch y sblintiau a gafodd eu hargymhell ar gyfer eich plentyn gan eu bod yn rhoi gorffwys i'r cymalau ac ar yr un pryd yn eu cadw mewn ystum cywir.
|