Plant ifanc iawn a phoen

Os bydd plant ifanc yn taro'u hunain neu'n syrthio fe fyddwch yn medru dweud a fyddan nhw wedi brifo'u hunain, a hynny'n aml am fod dagrau a doluriau i brofi hynny. Os bydd ganddyn nhw boen bol neu gur pen mae hi'n fwy anodd am fod y plentyn yn rhy ifanc i ddweud lle sydd yn brifo na sut mae'n brifo. Ond mae rhieni'n gwybod bod rhywbeth yn bod, am nad yw'r plentyn yn 'ef/hi ei hun'.

Pan fydd plentyn yn dioddef poen am sawl diwrnod neu am fisoedd, fe all fynd i ddechrau credu bod poen yn beth 'normal'. Mae tystiolaeth gan blant hyn, yn ôl pob sôn, yn cadarnhau hyn. Er enghraifft, fe ddywedodd un ferch dair ar ddeg oed ei bod hi hyd yn ddiweddar wedi credu bod pawb yn teimlo poen wrth gerdded i lawr grisiau. Roedd hi, heb amheuaeth wedi teimlo poen yn ei chluniau, ei phengliniau a'i thraed erioed ac yn disgwyl bod hyn yn normal. Dim ond yn ddiweddarach y deallodd hi nad oedd hyn yn 'normal' ac mai'r arthritis oedd yn gyfrifol.

Plant hyn a phoen

Mae ymchwil yn dangos bod plant hyn yn dysgu am boen gan oedolion o'u cwmpas. Falle'u bod nhw'n dysgu bod dweud bod gennych chi boen yn sicrhau sylw mawr. Fel bydd geirfa plant yn cynyddu, ac y dôn nhw'n fwy ymwybodol o wahanol rannau o'u cyrff, fe ddaw plant yn fwy abl i leoli eu poen a'i ddisgrifio. Fe allwch chi helpu trwy egluro geiriau sy'n disgrifio rydych chi'n gwybod eu bod nhw'n eu deall, e.e., a yw'r boen yn un finiog, neu boeth, neu fud neu fel gwayw, neu yn boen drom a stiff, ac ati. Fe all llunio graddfa i ddisgrifio hefyd helpu eich plentyn i gyfleu eu profiad o boen (edrychwch isod).

Crynodeb o'r pwyntiau allweddol

  1. Mae rhieni'n gwybod pan fydd eu plentyn yn dioddef poen.
  2. Fe all y rhan fwyaf o rieni ddisgrifio sut mae ymddygiad eu plentyn yn newid pan fydd mewn poen. Fe fydd rhieni'n disgrifio sut mae'n cerdded yn wahanol, neu'n mynd yn ddistaw neu chwyslyd, neu sut mae'n osgoi symudiadau penodol neu'n colli diddordeb mewn chwarae.
  3. Mae'r rhain i gyd yn arwyddion fod rhywbeth yn bod ac fe all rhieni helpu gofalwyr iechyd proffesiynol i olrhain tarddiad yr anghysur neu'r boen os gallan nhw ddisgrifio'n glir sut mae ymddygiad y plentyn yn wahanol.
  4. Fe allwch chi ddeall beth mae'r plentyn yn ei deimlo os lluniwch chi system o bwyntiau gyda nhw, e.e, os yw 10 = y poen gwaethaf, ac 1 = poen bach, fe all y plentyn ddweud ar ba sgôr mae'r boen. Mae plant yn dysgu gwahaniaethu rhwng poen dibwys a phoen sylweddol. Mae'r system bwyntiau yn creu graddfa poen y gall oedolyn a phlentyn ei rhannu.
  5. Byddwch yn hyderus eich bod yn adnabod eich plentyn, ond helpwch y gofalwr iechyd i ddeall eich plentyn trwy roi enghreifftiau clir yn dangos sut mae'i hymddygiad yn newid.

Rhestr gyfeirio ar gyfer y teulu cyfan

  • Ceisiwch wneud pethau fel teulu - mae'n hawdd canolbwyntio gormod ar y plentyn sy'n sâl a chael y cydbwysedd yn anghywir. Edrychwch ar yr adran ar aelodau'r teulu (Penodau 12-15).
  • Yn y dyddiau cynnar neu yn ystod argyfwng, penodwch rywun o'r tu allan i'r cartref i fod yn ddolen gyswllt i roi newyddion i eraill; fe all fod yn flinedig iawn, ac yn beth digalon iawn i chi orfod mynd dros yr un hanes dro ar ôl tro eich hun.
  • Peidiwch ag ofni dadfachu'r ffôn, i chi fedru mwynhau'r tawelwch rydych chi'n ei haeddu.
  • Trafodwch beth ddigwyddodd mewn apwyntiadau neu pan fyddwch wedi bod yn yr ysbyty gyda'r teulu cyfan, a holwch sut mae pob un yn teimlo ynghylch y pethau hyn. Ambell dro dyw pobl ddim yn mynegi eu teimladau am eu bod nhw'n ceisio amddiffyn y naill a'r llall, ac o ganlyniad mae pob un yn meddwl ei fod ar ei ben ei hun. Wrth drafod pethau bob tro, fe sylweddolwch y gallwch chi ddeall sut mae pob aelod o'r teulu yn teimlo, ac fe allwch gynnal y naill a'r llall.