Disgrifiad
un plentyn
o boen

1 Y Gwayw Erchyll

Mae'r G.E. yn gur parhaus sy'n para weithiau am awr. Mae'n tueddu i wneud i mi deimlo'n wan a blinedig iawn. Dyw pac poeth na jel ddim yn llacio'r boen 'ma.

2 Y Nodwydd Arian

Poen fel nodwydd fain iawn yn treiddio'n ddwfn fel arfer yn y penelinoedd a'r fferau/migyrnau yw hwn.

3 Bollt Frankenstein

.

Mae'r boen 'ma fel petai rhywun wedi gwthio hen follt rhydlyd i'r cymal nes ei fod yn cyfyngu ar fy symud. Pan fydda i'n symud mae fel petai naddion bach o'r rhwd yn cael eu naddu i'r cymal.

4 Poen y Pot Pupur

Ydych chi erioed wedi defnyddio melin bupur? Os ydych chi, dychmygwch mai'ch cymal ydi'r felin, a phob tro byddwch chi'n plygu'r cymal mae fel petai'r esgyrn yn rhwbio yn erbyn ei gilydd. Deall? Nawr ychwanegwch C.C. (5) a B.F. (3) ac fe fyddwch chi'n gwybod sut boen ydi Poen y Pot Pupur. Mae P.P.P yn digwydd ran amla' yn f'ysgwyddau i ac yn teimlo fel petai miliynau o esgyrn mân yn rhwbio yn erbyn ei gilydd.

5 Cymalau Cerddorol

Os ydych chi'n chwarae offeryn r ydych yn gwybod bod ymarfer yn aml yn bwysig. Wel, os ydych chi'n medru chwarae eich cymalau fel fi fe fyddwch yn sylweddoli'n fuan fod 'Y Clic' yn gwisgo'n denau ar ôl ychydig. Hefyd dydw i ddim yn meddwl bod offeryn normal yn rhoi poen siarp i chi os ydych chi'n ei chwarae yn rhy uchel.

6 Platiau Tectonic

Dyma pryd mae 'nghymalau i (yn arbennig 'mhengliniau i) yn symud o'u lle (dw i'n ddeugymalog).

7 'Mexican Wave'

Dyma pryd mae'r fertebra cyfan yn asgwrn fy nghefn yn gwichian ac yn clicio mewn math o 'Mexican wave'.

8 Y Bybl

Ydych chi wedi cael bybl yn eich bys erioed - o gwmpas y cymal? Yna pan 'fyrstiodd' hi roedd yn brifo eich bys? Wel bybl ydi'r Madarch sy'n medru tyfu am unrhyw gymal heb fyrstio ar unwaith ond yn aros fel cymysgedd o Follt Frank (3) a'r G.E. (1) ac yna'n byrstio'n sydyn nes achosi lot o boen.

Wel, dyna ni am heddiw. Trowch i mewn yr wsnos nesa i Neuadd Boen arall yn cael ei chyflwyno ac wedi'i sgwennu gan

Eloise Freeman-Brown

12 oed