| |
|
Doedd gan Rebecca yn chwech oed (Poster 'Arthritis Research Campaign' 1997) Plant a PhoenCyflwyniadI'r mwyafrif o deuluoedd sydd â phlant yn dioddef arthritis, ymdopi â phlentyn mewn poen yw'r rhan fwyaf torcalonnus. Mae deall y profiad o boen mewn plant yn anodd iawn, ond i rieni dyma'r allwedd i ddeall sut mae'r clefyd yn effeithio ar y plentyn yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Mae gwylio'ch plentyn mewn poen, hyd yn oed pan fydd y boen yn mynd heibio, rywsut yn achosi ffurf unigryw ar dorcalon mewn rhieni. Pan fydd plentyn yn dangos arwyddion arthritis fe all eu profiad nhw o anghysur neu boen eu meddiannu'n llwyr. Mae'r gweithwyr proffesiynol yn anelu at reoli poen y plentyn ond rhaid iddyn nhw hefyd gydnabod torcalon y rhieni a'u helpu i ddefnyddio gwahanol ddulliau i atal neu reoli poen eu plentyn. Mewn rhai gwerslyfrau, ychydig o gyfeirio sydd at y boen y mae plant yn ei dioddef, ac eto mae ein holl gysylltiad â theuluoedd yn dangos mai hwn yw un o'r prif faterion i rieni. Mae rhai plant yn teimlo'n sâl yn gyffredinol ac o hyd; gwayw sydd yn eu cymalau yn fwy na'u bod nhw'n boenus. Ffordd un tad o ddisgrifio hyn oedd dweud bod ei ferch fel petai'n dioddef o symptomau ffliw o hyd, yn hytrach na bod ei chymalau'n brifo. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o rieni a phlant yn sôn am boen fel cryn dipyn o achos torcalon a phryder. Anabledd neu boenMeddai un fam 'mae disymudedd a phoen yn troi'r pleser o chwarae yn fater o wylio o'r gadair' Roedd sawl astudiaeth yn dangos nad oedd adroddiadau plant am lefelau o boen yn cyfateb i'w hanabledd yn ôl fel gallai gael ei weld a'i fesur [1]. Fe ddangosodd un grwp o ymchwilwyr [2] fod plant yn ystyried pethau na fedren nhw eu gwneud (anabledd) mewn ffordd wahanol i'w profiad o boen. Mae'r rheini ohonon ni sy'n byw gyda phlant ag arthritis yn gwybod bod plant ambell dro yn defnyddio'u termau eu hunain i ddweud wrthych chi fod cymal penodol yn arbennig o boenus heddiw, hyd yn oed pan fydd y cymal fel petai'n symud yn normal. Ar adegau eraill, fe fydd plentyn yn dweud nad yw cymal yn gweithio'n iawn heddiw, ond dyw e ddim yn broblem am nad yw'n rhy boenus. Fe all hyn fod yn rhwystredig i un sy'n helpu, i riant neu i weithiwr proffesiynol, ac fe fyddai llawer mwy o ymchwil yn ein helpu ni i gyd i ddeall y pwnc dyrys hwn yn well. Fel hyn yr eglurodd un ferch ei rhwystredigaeth pan nad oedd hi'n cael ei deall: I blentyn, synnwyr mewnol yw poen, felly ychydig o help, cynhaliaeth a dealltwriaeth sy'n cael ei gynnig. Falle mai hyn sy'n egluro pam mae rhai astudiaethau wedi dangos bod plant gydag anabledd llai amlwg wedi teimlo'r torcalon seicolegol mwyaf, eu bod wedi dioddef mwy o wahaniaethu'n gymdeithasol ac wedi derbyn llai o gynhaliaeth. [3,4] Agweddau at boen mewn plentyndodYn y gorffennol, doedd maint y boen mewn plant ddim yn cael ei sylweddoli, na'i drin yn ddigonol. [5] Yn y gorffennol, roedd gwerslyfrau ac ymchwil yn nodi bod plant ag arthritis yn sôn am lai o boen nag oedolion ag arthritis. Mewn un astudiaeth, pan gafodd archwiliad meddygol ei wneud, doedd lefel y clefyd mesuradwy ddim o raid yn cyd-fynd â beth oedd plant yn ei ddweud am eu poen. Fe ddaeth ymchwilwyr i'r casgliad fod plant yn teimlo llai o boen. [6] Yn ychwanegol, roedd hen ymchwil ambell dro yn dangos bod rhieni, pan oedden nhw'n cael eu holi am eu plant ag arthritis, yn tueddu i sôn am lefel uwch o boen na'u plant. Fe ddaeth yr ymchwilwyr i'r casgliad fod rhieni yn tueddu i orbwysleisio poen eu plentyn ac yn awgrymu nad oedden nhw ddim i ddibynnu arnyn nhw pan oedden nhw'n asesu poen y plentyn. Roedd yr agwedd hon yn bod mewn cyfnod pan oedd 'y meddyg yn gwybod orau'. Ychydig o bartneriaeth â rhieni oedd yn bod, ac ychydig o ran roedd rhieni yn ei gymryd yn nhriniaeth y plant. Canlyniad hyn yw y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn debygol o beidio â sylweddoli faint o boen y mae plant yn ei ddioddef. Mae ymchwil diweddarach wedi'i wneud, ac fe fyddai croeso i fwy eto. Mae plant yn cael poenladdwyr nawr ac mae'n cael ei gydnabod bod babanod hyd yn oed yn teimlo poen neu dorcalon y mae'n bosibl ei drin. Rydyn ni'n gwybod bod plant ag arthritis yn dal i sôn am lai o boen nag oedolion ond rydyn ni'n deall mwy pam mae plant yn ei chael yn anodd i leoli a disgrifio'u poen. Does dim tystiolaeth fod plant yn dioddef llai o boen nag oedolion ag arthritis yn ôl yr herwydd. Ystum nodweddiadol plentyn ag arthritisMae plant sy'n dioddef poen wrth eistedd yn cymryd ystum sy'n lleddfu peth ar eu hanghysur. Mae'r ystum hwn yn cynnwys plygu pob cymal nes eu bod yn cerdded â'u pengliniau wedi'u plygu, eu cefn yn grwm a'u breichiau'n cael eu dal o'u blaenau ac wedi'u plygu. Pan fydd y plentyn yn eistedd, maen nhw'n gorffwys eu dwylo sydd wedi'u cyrlio ar eu gliniau, ac yn eistedd â'u hysgwyddau'n pwyso ymlaen. Pan maen nhw'n cysgu, maen nhw'n plygu i ystum y ffetws, ond fe ân nhw mor stiff nes ei bod yn arbennig o anodd eu 'hymestyn' nhw yn y bore. Plentyn ag arthritis yn sefyll Plentyn iach yn sefyll [1] Burrows F. & Berde C. (1993) Optional pain in infants and children. British Medical Journal. Cyf. 307, tt 815-816. |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |