Egwyddorion trin arthritis mewn plant

Cyflwyniad

Mae canfod bod arthritis ar eich plentyn yn ddifaol, ac mae'n mynd yn waeth pan welwch chi faint o 'driniaeth' y bydd gofyn i chi ei gwneud gartref. Fe all fod yn anodd i weithwyr proffesiynol ddeall yn union sut deimlad yw hyn, yn arbennig pan fyddan nhw'n gweithio gyda phlant ag arthritis ar hyd yr amser, a phan fyddan nhw wedi gweld y plant mwyaf sâl a'r rhai a gafodd eu heffeithio waethaf. I chi, eich plentyn chi sydd yma, a dyma'r tro cyntaf i chi ddod ar draws arthritis mewn plant.

Mae rhieni'n mynd trwy amrywiaeth eang o deimladau yn cynnwys bod yn ddig, yn ddiymadferth, yn isel a rhwystredig. Mae'r teimladau hyn yn gwbl normal, ac yn gyffredin iawn, ond rydyn ni'n tueddu i beidio â dweud wrth y naill a'r llall! Ddylai rhieni ddim cael eu gadael yn teimlo'n ddiymadferth, yn analluog ac wedi'u llethu. Y gwir yw mai'r rhieni yw'r allwedd i sut bydd y plentyn yn wynebu'r sialens ddwbl o arthritis a'r driniaeth. Mae ffyrdd o'ch paratoi eich hun i wynebu'r sialensiau hyn. Un ffordd yw'r llyfr hwn ac mae adnoddau pwysicach yn eich teulu ehangach, eich ffrindiau, a'ch cymuned leol. Fe all rhai pobl eich siomi ond fe ddaw eraill yn arwyr i chi.

Egwyddorion triniaeth

Mae arthritis plant yn cael ei reoli trwy gyfuniad o foddion, ymarferion dyddiol, a gosod sblintiau. Y prif egwyddorion ar gyfer y tîm gweithwyr gofal iechyd a'r teulu yw:

Rheoli (lleihau) y clefyd trwy gymryd moddion

Rheoli poen

Cynnal gweithrediad y cymalau ac ystum y corff i atal anffurfio'r corff

Cynnal datblygiad cymdeithasol, seicolegol ac addysgol normal

Monitro a rheoli cymhlethdodau yn ofalus

Ambell dro fe fydd ffurfiau eraill o driniaeth yn cael eu defnyddio yn ogystal, ac fe fydd amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymwneud â nhw. Ar gyfer pawb, rhaid cael cydbwysedd rhwng beth sy'n ymddangos yn bwysig heddiw a beth sydd orau i'r plentyn yn y tymor hir. Er enghraifft, fe all ymddangos yn garedicach i adael i'r plentyn orffwys heddiw, ond fe wyddon ni os bydd y plentyn yn gorffwys gormod y bydd ei chymalau yn mynd i beidio â gweithio gan bwyll, ac yn achosi mwy o boen a phroblemau yn y dyfodol.

Beth am fywyd go iawn?

Y realiti yw bod hwn yn anhwylder tymor hir, yn boenus gan amlaf ac yn gofyn triniaeth ddyddiol gymhleth, a does dim gwellhad. Mae arbenigwyr profiadol yn gwybod bod y rhan fwyaf o blant yn goroesi arthritis actif, ac y bydd ansawdd eu bywydau yn dibynnu ar:

  1. pa mor ddrwg oedd y clefyd,
  2. pa mor fuan y cafodd y plentyn driniaeth effeithiol,
  3. sut llwyddodd y plentyn unigol i ymdopi â sialens arthritis,
  4. ymdrech ddyddiol y teulu, yn arbennig y rhieni, i ffitio rhaglen gymhleth o ymarferion, gosod sblintiau, a moddion i fywyd y teulu yn y tymor hir,
  5. a medr y rhieni, yn arbennig y fam, i sicrhau gwasanaethau cefnogol i gwrdd ag anghenion y teulu.

Does fawr o ddewis ynghylch yr eitem gyntaf, ac ambell dro mae'n ymddangos nad oes fawr o ddewis ynghylch y pedair arall. Fodd bynnag, fe all llawer gael ei gyflawni pan fydd rhieni'n dod i wybod yn dda am arthritis, y dewis o driniaethau, dulliau o gynnal y plant, sut i weithredu'r dewisiadau ynglyn â'r ymarferion a gosod sblintiau gartref, a sut i gael gafael ar y gwasanaethau a all helpu'r teulu. Dyna dasg y llawlyfr hwn.