Rhestr gyfeirio ar gyfer rhieni mewn apwyntiadau

Cyngor un rhiant oedd "ar y dechrau doedden ni ddim yn medru deall pam oedd hi'n cymryd cymaint o amser i gael diagnosis. Rydyn ni nawr yn deall ei bod yn bwysig holi'r cwestiynau y mae ganddon ni angen atebion iddyn nhw ac nid bodloni ar dderbyn beth sydd gan ddoctoriaid i'w ddweud".

  • Fe all gofalwyr iechyd proffesiynol wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd bob dydd ac mae hi'n wir werth dal ati i gael asesiad llawn wedi'i wneud.
  • Ysgrifennwch enw unrhyw therapydd y byddwch yn ei (g)weld neu ei ffonio bob amser. Gwnewch yn siwr i ba adran y maen nhw'n gweithio. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig am fod staff yn newid a falle bydd arnoch chi angen trefnu beth sydd i'w wneud ymhellach, neu therapi neu help.
  • Ysgrifennwch eich cwestiynau cyn gadael cartref.
  • Ewch ā rhywun gyda chi i apwyntiadau - mae hi'n anodd cadw llygad ar eich plentyn, cofio'ch cwestiynau a gwrando ar yr atebion ar yr un pryd.
  • Peidiwch ag ofni holi cwestiynau - ac ail ofyn os ydych chi'n dal yn ansicr.
  • Gofynnwch i bob ymgynghorydd neu therapydd anfon copi o'u hadroddiad neu lythyr clinig atoch chi. Rhaid iddyn nhw anfon at eich meddyg teulu ar ōl pob un o apwyntiadau'ch plentyn. Fe fydd cadw copi o bob un o'r adroddiadau hyn yn help mawr pan fyddwch chi'n trafod cyflwr neu anghenion eich plentyn gyda gweithwyr proffesiynol eraill, e.e., mae'n dystiolaeth fod gan eich plentyn broblemau cydnabyddedig yn y pengliniau er mwyn i'r staff fedru darparu ar gyfer hyn yn yr ysgol.
  • Os ydych chi'n ffafrio neu'n ofni rhai triniaethau neu gyffuriau penodol, rhaid i chi ddweud hynny. Fedr y gweithiwr proffesiynol ddim dyfalu beth sy'n eich poeni, ac fel arfer fe fydd yn trafod dewisiadau o driniaeth lle mae hynny'n bosibl.
  • ...ac yn olaf

  • Gwnewch yn siwr eich bod wedi trefnu beth i'w gael i swper cyn gadael cartref gan fod y rhan fwyaf o rieni'n teimlo bod mynd i apwyntiad yn lladdgar dros ben!

Cael hyd i feddyg teulu neu ei newid

Os bydd arnoch angen cael hyd i feddyg teulu, cysylltwch ā'r awdurdod iechyd lleol neu edrychwch yn 'y llyfr meddygon lleol' yn y llyfrgell leol neu yn y Ganolfan Gynghori. Holwch a oes gan y meddyg newydd le i gleifion newydd ac a all dderbyn cleifion newydd o'ch ardal chi. Llenwch ffurflen drosglwyddo sydd ar gael o feddygfa'r meddyg newydd. Os bydd arnoch angen newid eich meddyg, does dim angen i chi ofyn caniatād eich meddyg presennol. Cyn i chi newid, holwch yn fanwl pa wasanaethau sydd ar gael yn y gwahanol feddygfeydd (pethau fel profion gwaed, fferyllfa, ymwelwyr iechyd, meddygesau).