| |
|
Hanes arthritis plantHanes byrMae triniaethau modern wedi gwella'r canlyniadau'n fawr i blant, wedi dod â rhyddhad arwyddocaol o boen, wedi lleddfu cwrs y clefyd a gwella ansawdd eu bywyd. Mae hanes byr datblygiadau allweddol o'r gorffennol yn bwysig:
Mae sgerbydau hynafol yn dangos i ni fod arthritis yn bod ers canrifoedd. Fe baentiodd Caravaggio lun o blentyn ag arthritis llidus yn 1608. Fe ddisgrifiodd Thomas Sydenham arthritis mewn oedolion am y tro cyntaf fel clefyd ar wahân yn 1680, ond doedd fawr o ddatblygiad nes cydnabod bod nifer o 'glefydau crydcymalol/gwynegol' yn codi o anhwylder yn y meinwe cysylltiol. Yn 1897, fe ddisgrifiodd Syr George Frederick Still gyflwr o wres yn codi a gostwng, brech a chymalau'n chwyddo mewn ugain o blant rhwng 1 a 5 oed, oedd yn Ysbyty Plant Great Ormond, Llundain. Mae trawiad systemig o arthritis plant yn dal i gael ei alw yn Glefyd Still ambell dro. Yn yr un flwyddyn yn Ffrainc, cyhoeddodd meddyg arall, yn annibynnol, ei ddisgrifiad ef o symptomau tebyg mewn plant, a rhoi'r enw Clefyd Marfan arno. Yn 1928 cafodd Cynghrair Ryngwladol yn erbyn Cryd Cymalau ei sefydlu yn Lloegr ac fe fu ymdrech i wneud rhagor o ymchwil i ddisgrifio, dosbarthu, trin a gwella arthritis mewn oedolion. Does dim gwellhad llwyr ar gael hyd yn hyn, ond mae cynnydd sylweddol yn dal i gael ei wneud ym myd triniaethau newydd a chytundeb rhyngwladol ynghylch dosbarthu arthritis mewn oedolion. Fodd bynnag, mae arthritis mewn plant yn wahanol i arthritis mewn oedolion. Yn 1968, fe ddywedodd Dr WS Copeman, arloeswr dylanwadol mewn rhewmatoleg, na allai wella ar ddisgrifiad o ferch yn dioddef o Glefyd Still gan ysgrifennwr di-enw, nad oedd yn feddyg ac sy'n cael ei ddyfynnu isod. Mae'r disgrifiad hwn yn dorcalonnus ond yn gyfarwydd i rieni plant ag arthritis heddiw. Fe gaiff ei gynnwys yma am ei fod yn nodi effaith y clefyd ar blant cyn dyddiau cyffuriau a therapi modern. Yn amser Still, roedd y plant hyn yn dibynnu ar ofal nyrsio, a laudanum (sylwedd seiliedig ar opiwm) ar gyfer lleddfu poen, ac yn aml roedd eu cymalau'n cael eu gadael mewn ystum sefydlog. 'Gall ymosodiad ysgafn fynd heibio heb adael dim gwaeth ar ei ôl nag ychydig o gyfyngu ar symudiadau mewn cymal neu ddau, neu fe all adael breichiau neu goesau'r plentyn yn edrych braidd yn od, un yn hirach na'r llall. Ond os yw'r clefyd yn ddifrifol mewn unrhyw ffordd ... Gall y dioddefaint fod yn faith a chwerw i'r claf a'r meddyg.' Fe ysgrifennodd Dr Copeman 'mae cryd cymalau yn un o'r problemau meddygol hynny lle y gall gwybodaeth a dealltwriaeth ar ran y claf wneud gwahaniaeth mawr.' [1] Mae hyn yn dal yn wir heddiw. Dechreuadau'r dull modern o drin plantYn yr 1970au a'r 1980au roedd gobaith cryf y byddai'r cyffuriau corticosteroid newydd yn rhoi gwellhad llwyr i arthritis plant. Roedd Dr Barbara Ansell, oedd yn gweithio yn Ysbyty'r Canadian Red Cross yn Taplow, Lloegr, a'r Dr Ross Petty yn Toronto, Canada, yn arloeswyr wedi ymgysegru i ddatblygu moddion a therapi i'r plant hyn. Roedd y plant yn cael dosau trwm ac roedd dilyn trefn o ymarferion dyddiol egnïol a hydrotherapi (symudiadau mewn dwr) yn cael eu hargymell. Roedd y plant yn cael eu hannog i fod yn fywiog ac i symud ac i feithrin sgiliau byw annibynnol. Ddaeth dim gwellhad, ac fe brofodd y dosau trwm yn niweidiol i'r plant. Chaiff y dosau trwm hyn na'r rhan fwyaf o gyfuniadau mo'u defnyddio bellach, ond mae diffyg ymddiriedaeth mewn steroidau yn parhau oherwydd y defnydd ohonyn nhw yn y gorffennol. Mae'r dull egnïol o fynd at ymarferion dyddiol a hydrotherapi yn parhau, ac mae profiad clinigol meddygon yn dangos yn gryf fod y gweithgareddau hyn yn rhoi canlyniadau sy'n sylweddol well i blant. Does fawr iawn o dystiolaeth o fyd ymchwil i ddangos sut orau i weithredu'r therapïau hyn yn y tymor hir, a does dim ymchwil ar sut orau i helpu teuluoedd i'w gweithredu gartref. [1] W S C Copeman (1967) Arthritis and Rheumatism, London: Evans, t 9 |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |