Pwy sy'n cael arthritis yn ystod plentyndod?

Mae tua thri chwarter y plant sy'n dioddef arthritis parhaol yn ferched, ac maen nhw'n dangos y symptomau fel arfer rhwng 2 a 6 oed. Mae'r tabl isod yn dangos y cysylltiad rhwng mathau o arthritis, yr oedran pan fydd yn digwydd a phrif ganlyniadau'r clefyd.[1]

Prif Fath
(enwau newydd)
Oedran
dechrau
Cymhareb merched
i fechgyn
Rhagolygon
Trawiad systemig o arthritis
plant idiopathig (JIA)
66% o dan 5 oed 8 merch i bob 10
bachgen
40% yn gwella'n dda
ymhen ychydig
flynyddoedd.
20% yn dioddef
cyfnodau o saib
ac ail-afael bob yn ail o
hyd.
20% yn mynd yn
arthritis difrifol parhaol
JIA oligogymalol Plentyndod cynnar
Plentyndod hwyr
7 merch i bob 1 bachgen
1 ferch i bob 10 bachgen
20% yn dioddef
JIA aml-gymalol
JIA aml-gymalol gwynegol
gydag elfen negyddol
Unrhyw oedran 8 merch i bob 1 bachgen 90% yn gwella ymhen
ychydig o flynyddoedd
10% yn mynd yn JIA
difrifol
JIA aml-gymalol gydag
elfen bositif
Plentyndod hwyr 6 merch i bob 1 bachgen llai na 50% yn dioddef
JIA difrifol

Mae'n amlwg oddi wrth y wybodaeth hon mai merched bach sy'n dangos arwyddion arthritis amlaf ac felly yn y llyfr hwn, fe fyddwn yn sôn am y plentyn fel merch yn aml ac yn defnyddio 'hi' trwy gydol y testun i fod yn gyson. Ond mae pob gwybodaeth ac ymchwil yr un mor berthnasol i fechgyn. Does dim ymchwilio wedi bod i'r gwahaniaethau rhwng profiad merched a phrofiad bechgyn o arthritis.

Y dyfodol i'ch plentyn

Unwaith mae arthritis ar eich plentyn, all dim un meddyg ddweud wrthych chi sut yn union y bydd yn datblygu. Cyfeirio at astudiaethau ar grwpiau o blant yn unig mae'r crynodeb o ffeithiau uchod. Does dim prawf ar gael sy'n gallu dweud wrthych chi sut gall y clefyd effeithio ar eich plentyn chi yn unigol na pha mor hir y gall barhau.

Fodd bynnag, mae hi'n bosibl dweud yn gyffredinol y bydd patrwm y clefyd yn y misoedd cyntaf (pa gymalau sy'n dost, sawl cymal sy'n dost neu gymhlethdodau eraill) yn debyg o ddangos sut bydd y clefyd yn ei ddangos ei hun yn y dyfodol. Er enghraifft, os mai ei phen-gliniau, ei gwddf a'i dwylo fydd wedi'u heffeithio gan mwyaf yn y misoedd cyntaf, yna fe fyddan nhw'n debycach o gael eu heffeithio bob tro y bydd yr arthritis yn ailafael.

Fel mae'r tabl uchod yn dangos, fe all rhai plant y mae rhai o'u cymalau yn cael eu heffeithio i ddechrau fynd ymlaen i gael arthritis mewn rhagor o gymalau yn ddiweddarach. Yn yr achosion hyn dylai'r label ar y clefyd newid o JIA oligogymalol i JIA oligogymalol estynedig.

Crynodeb o'r pwyntiau allweddol

  1. Yn y mwyafrif o achosion, mae plant yn gwella o arthritis.
  2. Mae cael help meddygol da ar y dechrau a dilyn y rhaglenni ymarfer a gosod sblintiau gartref yn gallu golygu eich bod yn atal rhai problemau tymor hir ac yn gwella ansawdd bywyd iddi hi ac i weddill y teulu.
  3. Allwch chi ddim rhagweld beth fydd hanes yr arthritis ac mae'r symptomau yn newid o ddydd i ddydd (weithiau o awr i awr). Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael cyfnodau o 'glefyd tawel' pan fydd y rhan fwyaf o'r symptomau yn dod i drefn. Fe all rhai plant gael cyfnodau heb fawr ddim symptomau, ond fe fydd y clefyd yn ailafael wedyn. Fe fydd gofyn i chi barhau gyda'r feddyginiaeth a'r ymarferion pan fydd y clefyd yn actif ac yn dawel. Felly, mae hi'n holl bwysig gwneud yn fawr o'r cyfnodau da, gan y bydd chwerthin eich plentyn a'i llwyddiannau yn y cyfnodau hyn yn dwyn atgofion cadarnhaol i chi ac yn eich helpu chi a hithau i ymdopi â'r cyfnodau o ailafael.
  4. Fe fydd cadw nodiadau yn cofnodi sut mae'r plentyn yn teimlo a pha gymalau (neu frech, twymyn, ac ati) sy'n achosi problemau yn eich helpu chi i fod yn fanwl gywir ynghylch pa mor hir mae'r cyfnodau drwg yn parhau. Pan ydych chi ynddyn nhw, maen nhw'n ymddangos fel misoedd; mewn gwirionedd dim ond wythnosau ydyn nhw.
  5. Fe fydd eich nodiadau yn eich helpu i weld unrhyw batrymau, e.e., pan fydd eich plentyn dan straen (am unrhyw reswm) falle bydd ei phenelin a'i gwddf yn tueddu i ddechrau brifo mwy. Fe fydd hyn yn eich helpu i farnu sut i leihau achos y straen a thrin y canlyniadau ar unwaith.

[1] Cyfeiriad o Petty R (1993) Pennod 1.2 Children and Young Adults, Oxford Textbook of Rheumatology, Cyfrol 1 (Golygyddion Maddison PJ, Isenberg DA, Woo P a Glass DN) OUP: Oxford. Peth data o J Green Schaller (1989), Pennod 58 Treatment of Juvenile Rheumatoid Arthritis and Allied Conditions, McCarty (Golygydd) 11fed Argraffiad, Cyhoeddwyd gan Lea & Febiger t 927.