Beth yw arthritis plant?

Cyflwyniad

Llid ar un neu ragor o'r cymalau ac sy'n parhau am fwy na chwe wythnos yw Arthritis Plant Idiopathig (JIA), ac mae'n digwydd mewn plant o dan un ar bymtheg oed. Term ambarél, sy'n cynnwys gwahanol ffurfiau ar arthritis mewn plant, yw JIA. Ei enw gynt oedd Arthritis Plant Cronig (JCA). Yn America, maen nhw'n dal i'w alw yn Arthritis Plant Gwynegol weithiau, ac mae peth gorgyffwrdd a dryswch ynghylch enwau a dosbarthiad yr is-grwpiau.

Yn y rhan fwyaf o ranbarthau, mae tua un plentyn ymhob mil yn dangos arwyddion o ryw ffurf ar arthritis parhaol - nifer tebyg i'r achosion o barlys yr ymennydd neu ffibrosis systig. Mae ffurfiau heintus sy'n digwydd mewn poblogaethau bach ond maen nhw'n brin iawn yn Ewrop a Gogledd America nawr.

Beth sy'n achosi arthritis?

Dydyn ni hyd yn hyn ddim yn gwybod beth sy'n achosi arthritis plant. Yn ôl pob golwg mae nifer o ffactorau a all fod yn arwyddocaol, ac mae'r rhain yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Digwyddiad prin iawn yw i frodyr neu chwiorydd ddangos arwyddion o arthritis, ond fe all ddigwydd.

Mae'n ymddangos fod ffactor etifeddol bychan yn y grwpiau sbondylo-arthritis a psoriatig. Dyw ymchwil ddim yn dangos bod y tywydd yn effeithio ar bobl ag arthritis. Rydyn ni'n gwybod bod straen, sy'n achosi mwy o dyndra ynon ni, yn medru dylanwadu ar symptomau ac ar y profiad o boen.

Gwahanol ffurfiau ar arthritis plant

Yn 1999 fe gytunodd clinigwyr rhyngwladol amlwg ar ddosbarthiad newydd. Dyma fo:

Hen Enw Enw Newydd
Trawiad systemig o arthritis plant cronig (JCA*)
[brech, twymym yn anwadalu a llid ar y cymalau]
Trawiad systemig o arthritis plant idiopathig
(JIA*)
JCA prin-gymalol
[pedwar neu lai o'r cymalau yn y chwe mis cyntaf]
JIA oligogymalol
JCA prin-gymalol estynedig
[rhagor na phedwar o gymalau wedi chwe mis]
JIA oligogymalol estynedig
JCA aml-gymalol seronegyddol
[fel uchod, heb elfen wynegol]
JIA aml-gymalol gwynegol gydag elfen
negyddol
Arthritis plant gwynegol
[rhagor na phum cymal, gydag elfen wynegol]
JIA aml-gymalol gwynegol gydag elfen
bositif
JCA psoriatig JIA psoriatig
JCA Cymalwst y fertebra (Spondyloarthropathy) JIA cysylltiedig ag enthesitis
*Juvenile Idiopathic Arthritis *Juvenile idiopathic arthritis

Fe all plant sy'n dioddef o glefydau eraill, (e.e., Syndrom Ehlers-Danlos, Clefyd Crohn) deimlo, bob dydd, effeithiau clefyd sy'n debyg iawn i rai plant â'r clefydau uchod. Yn y llyfr hwn, fe gaiff y term arthritis plant ei ddefnyddio am fod y plant a'r teuluoedd yn rhannu'r mwyafrif o'r profiadau beth bynnag yw'r diagnosis penodol.