Mae'r awgrymiadau hyn yn ymddangos yn rhai syml iawn, ond pan ydych chi wedi blino mae'n
anodd cofio pethau'n fanwl gywir. Fe all trefn amser fod yn niwlog hefyd ac fe all fod yn anodd i chi
gofio'n union beth gafodd ei ddweud wrthych chi pan oeddech chi'n gynhyrfus.
- 'Sgrifennwch e! Gofalwch gael llyfr nodiadau neu ddyddiadur, ac fe synnwch faint o
wybodaeth y byddwch chi'n dechrau ei gasglu.
- Gofynnwch i bob gweithiwr proffesiynol anfon copi atoch chi o'i adroddiadau, asesiadau neu
lythyrau.
- Nodwch ddyddiad unrhyw alwadau ffôn, ac enw'r sawl a fu'n siarad â chi. Cofiwch sgwrsio'n
braf â'r derbynnydd/ysgrifennydd am mai nhw yw'ch drws at y pennaeth!
- Gwnewch gopïau o unrhyw lythyrau a anfonwch a chadwch bob llythyr am eich plentyn gyda'i
gilydd mewn un man.
- Fe all gwneud ychydig o nodiadau o unrhyw sgwrs a gewch chi gyda gweithwyr proffesiynol
eich helpu i gadw golwg ar fanylion.
- Ceisiwch fod yn benodol - rhowch drefn ar eich meddyliau cyn ffonio, ac ysgrifennwch eich
cwestiynau cyn mynd i weld gweithiwr proffesiynol.
- Ceisiwch fod yn amyneddgar, does neb arall mor emosiynol glwm â chi, ond byddwch yn barod
i fod yn gadarn os bydd angen.
Cefnogaeth gariadus y teulu yw'r adnodd mwyaf pwerus sydd gan bob plentyn ag arthritis. Ond am
flynyddoedd fe fydd disgwyl bod y rhieni wedi bod yn rhoi'r moddion cywir, yn cadw golwg fanwl ar
y plentyn, ac yn eich rhybuddio chi os digwydd unrhyw newid. Fe fyddan nhw'n cael cais i weithredu
ymarferion a gosod sblintiau ac fe fyddan nhw'n trafod gydag athrawon ysgol a llawer un arall i gael
yr help y mae eu plentyn ei angen.
Mae'n bosibl i rieni ddarparu therapi da unwaith y byddan nhw wedi cael hyfforddiant. Fe fydd
gwneud amser ac ymdrechu i greu perthynas weithiol gyda theuluoedd, un fydd yn dangos parch ac
onestrwydd o'r ddwy ochr, yn medi ar ganlyniadau da i'r plentyn, y teulu a'r gwasanaeth. Ar
ddechrau eich perthynas â theuluoedd, ystyriwch
- Oes oedi neu gamddeall wedi bod yn hanes y teulu hwn yn y gorffennol?
- Beth yw blaenoriaethau'r rhieni ynghylch gofal?
- Beth sydd wedi'i ddweud wrthyn nhw am arthritis a'r driniaeth iddo, ac am ddyfodol y plentyn?
- Beth mae'r fam a/neu'r tad (partner) yn ei ddeall am arthritis?
- Gofynnwch iddyn nhw beth yw eu hofn mwyaf - falle gallwch chi dawelu'u meddwl a rhoi gwybodaeth fanwl gywir nawr. Gofynnwch iddyn nhw'r tro nesaf a ydyn nhw'n dal i deimlo yr un fath, neu a ydyn nhw'n poeni am rywbeth arall.