Angen addasiadau o bwys yn y cartref?

Fe all lleiafrif o blant sy'n dioddef arthritis tymor hir fynd i deimlo bod dringo'r grisiau, mynd i mewn ac allan o'r bath, neu hyd yn oed gerdded at y drws ffrynt gartref yn mynd yn fwy anodd o hyd. Ar adegau mae teuluoedd sy'n ofalwyr yn ei chael hi'n anodd edrych ymlaen ond fe fydd y person ifanc yn mynd yn drymach i'w chario, neu'i helpu, yr un pryd ag y bydd am fod yn llai dibynnol ar rieni. Fe all newidiadau i gyfleusterau yn y cartref ei gwneud yn haws i deulu ofalu, a galluogi'r person ifanc i gael mwy o annibyniaeth yn ôl ei hoed. Er enghraifft fe all rhoi toiled i lawr grisiau, neu gawod mewn ystafell wely i lawr grisiau alluogi'r person ifanc i ymolchi a thaclu eu hunain heb orfod ymdrechu i ddringo'r grisiau i fynd i'r bath neu'r ty bach.

Cyn i bethau fynd yn amhosibl meddyliwch am rai newidiadau o fewn y cartref a allai helpu. Yn y tymor hir, fe fydd addasiadau yn y cartref yn gwneud bywyd yn haws i'r person ifanc a'r rhai sy'n gofalu'n gorfforol amdani, ac yn eich galluogi i ddal i ofalu amdani.

Cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adran Iechyd eich awdurdod lleol.

Gofynnwch am asesiad gan ffisiotherapydd ac eglurwch pam mae arnoch angen help. Mae darpariaeth ar gyfer hyn o dan Ddeddf NHS a Gofal Cymunedol. Yn y tymor byr, mae cael gwneud addasiadau'n golygu misoedd lawer, cyfarfodydd lu a llawer o drafferthion, ond fe all leddfu'r ymdrech ddyddiol yn sylweddol i'r teulu cyfan am flynyddoedd.

Grant Cyfleusterau i'r Anabl

O dan Ddeddf Tai ac Adnewyddu 1996 mae grant gorfodol i'w gael gan yr awdurdod lleol ar gyfer gwaith neu offer hyd at £20,000 o werth. Mae'n dibynnu ar asesiad y therapydd galwedigaethol, graddfa angen yr unigolyn a natur hir-dymor y broblem. Fe ddylai anghenion pob person gael eu hystyried yn y broses, e.e., mae gofalwyr yn aml yn cael poen cefn ac fe all cyfleusterau gwell leddfu hyn yn sylweddol trwy leihau'r help sydd ei angen i godi'r person ifanc.

Fe all gymryd misoedd i gael penderfyniad i roi'r grant ac i gytuno ar y dyluniad terfynol ac fe all y cynllun adeiladu hefyd olygu amser maith, rhwystredigaeth a llawer o egni, ond mae'r rhai sy'n llwyddiannus yn teimlo bod y broses yn werth y tarfu difrifol hwn.

Grantiau ychwanegol ar gyfer addasiadau o bwys

Os bydd y therapydd galwedigaethol yn dangos bod yr offer neu'r addasiadau angenrheidiol yn mynd i gostio mwy nag £20,000 yna mae'n bosibl gwneud cais am grant dewisol ychwanegol gan yr awdurdod lleol. Mae hwn yn agored i brawf incwm, ond yn dal ar gael i bobl sy'n derbyn 'incwm rhesymol'. Fe gaiff cytundeb ei lunio rhwng yr ymgeisydd (neu'r rhiant) a'r cyngor fel na all yr eiddo gael ei rentu i neb arall, a phe bai'r teulu'n symud o fewn nifer penodol o flynyddoedd, yna rhaid addalu rhan o'r gost.

‘Gwnewch gais yn gynnar: mae hi wedi cymryd bron i bedair blynedd i ni o ddyddiad ein cais cyntaf i fedru defnyddio'r ystafell newydd. Fe gawson ni'n gwrthod i ddechrau ond fe wnaethon ni gais arall a nawr rydyn ni wedi'i gael.'

I gael cyngor manwl clir anfonwch am y daflen wybodaeth 'Adaptations to Housing' (Lloegr a Chymru) gan y Family Fund Trust. Mae gan y Family Fund Trust safle dda ar y we ar gyfer rhai dros 16 (www.after16.org.uk) Mae ganddyn nhw lyfr ardderchog sy'n gasgliad o wybodaeth am faterion a mudiadau ar gyfer pobl ifanc anabl dros 16. Teitl y llyfr yw After Sixteen, What's New? Ac mae am ddim. (Trowch i'r bennod nesaf ar gyfer mudiadau eraill a all helpu).

Diweddglo

Mae arthritis plant yn glefyd brawychus y mae'n rhaid i'ch teulu fyw gydag ef. Mae ymchwil yn dangos bod teuluoedd sy'n byw gydag arthritis yn dioddef graddau o dorcalon a chyfnodau o alar, ac yn aml yn teimlo'n ddiymadferth i leddfu poen eu plentyn. Mae'r deunydd yn y llyfr hwn yn cynnig syniadau a gwybodaeth ar sut i wneud rhai dewisiadau a sut i fyw'n bositif gydag arthritis. Fe all mamau, tadau, brodyr, chwiorydd a theuluoedd estynedig gyda'i gilydd wneud gwahaniaeth a does dim angen iddyn nhw deimlo 'yn ynys unig'.