Byw bywyd iach

Fel gyda'r rhan fwyaf o'r arddegau mae'n debyg, mae rhieni'n aml wedi cael problemau yn ceisio annog pobl ifanc i fyw bywyd iach ac i gymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain. Fe all rhoi sylw i beth maen nhw'n ei fwyta a'i yfed, faint o ymarfer corff maen nhw'n dewis ei wneud, pa gyffuriau maen nhw'n eu cymryd neu ddim yn eu cymryd a sut i reoli eu pryderon a'u bywydau emosiynol fod wedi achosi pryder ar wahanol adegau. Fe all fod yn anodd eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am lunio dull o fyw iddyn nhw'u hunain ar brydiau, yn arbennig pan mae'r dewisiadau'n ymddangos yn brin.

Rhestr gyfeirio ar gyfer trefnu cyfarfodydd

Fe allai cam cynnar olygu bod y rhiant yn gofyn i'r gweithwr proffesiynol anelu eu cwestiynau at y person ifanc. Fe all rhai gweithwyr proffesiynol fod wedi arfer cymaint siarad â'r rhiant sydd gyda'r plentyn nes bod angen eu cymell yn gadarn i anelu eu cwestiynau at y person ifanc.

  • Meddyliwch ymlaen llaw am unrhyw wybodaeth ac unrhyw eglurhad y mae arnoch eu hangen. Ysgrifennwch nhw a chadwch y rhestr yn ofalus.
  • Gartref, meddyliwch beth sydd arnoch angen ei wybod neu'i ddweud. Mae'n wir ddefnyddiol ysgrifennu'r rhain ar bapur. Ewch â'r rhestr gyda chi i'r ymgynghoriad, ac ysgrifennwch yr atebion neu'r eglurhad a gewch. Fe all hyn gymryd rhagor o amser, a falle byddwch chi'n teimlo'n chwithig i ddechrau, ond mae'n golygu y bydd y wybodaeth rydych chi ei hangen yn debycach o fod gennych chi pan gyrhaeddwch adref.
  • Pan fyddwch chi a/neu'r person ifanc yn paratoi'r rhestr gartref fe all fod yn gyfle positif iawn i drafod materion gyda'ch gilydd ac i fod yn glir ynghylch pa wybodaeth y mae'r naill a'r llall ohonoch ei heisiau.
  • Os yw'r person ifanc am wneud y siarad i gyd, fe all paratoi'r rhestr helpu'r oedolyn a'r person ifanc i gyfleu i'w gilydd eu meddyliau a'u teimladau am faterion a chynlluniau yn perthyn i'r presennol.
  • Ewch â'ch ffrind/partner gyda chi. Fe allan nhw gofnodi beth gafodd ei ddweud neu ei gytuno; mae'n anodd iawn i rywun blinedig, pryderus gofio'n fanwl gywir fanylion beth gafodd ei ddweud.
  • Siaradwch â'r staff a rhieni eraill i gael gwybodaeth am unrhyw ddewisiadau y gallech eu gwneud nawr. Mae gwahanol drefniadau gan wahanol arbenigeddau meddygol, holwch y staff yn y gwahanol glinigau am eu trefniadau trawsnewid.
  • Oes camau y gallech chi eu trafod nawr a allai wneud y newid yn haws, e.e., trefnu i ymweld â'r clinig neu ward newydd, cyn bod angen i'r person ifanc fynd yno?
  • Dyma'ch cyfle chi - os yw'r person ifanc neu chi'n teimlo bod un arbenigwr yn deall eich sefyllfa'n dda, yna gofynnwch a ydyn nhw'n barod i ddarparu adroddiad llawn i chi i'w ddefnyddio mewn cyfarfodydd trawsnewid neu a fydden nhw'u hunain yn dod i'r cyfarfod.
  • Os byddan nhw'n cytuno, fe fydd gofyn i chi roi rhai misoedd o rybudd, ac os bydd raid, byddwch yn barod i'w hatgoffa hyd at wythnos y cyfarfod. Fe fydd gofyn i chi hefyd hysbysu'r sawl fydd yn trefnu'r cyfarfod trawsnewid fod angen i'r gweithiwr iechyd hwn/hon ymwneud â'r mater a'i f(b)od wedi cytuno i baratoi adroddiad neu i fod yn bresennol.
  • Byddwch yn onest ynghylch sut ydych chi'n ymdopi ac unrhyw bryderon sydd gennych chi. Allwch chi ddim disgwyl i bobl eraill ddyfalu hyn na gwybod sut i'ch helpu os na ddywedwch chi wrthyn nhw. Mae hyn yn berthnasol i rieni a phobl ifanc, a'r gweithwyr proffesiynol.
  • Ewch â rhywun gyda chi i'r cyfarfodydd. Ambell dro mewn cyfarfod, mae newyddion drwg neu wybodaeth boenus yn codi braw ac mae ceisio ymdopi â hyn yn mynd â'ch egni i gyd.