Materion yn ymwneud â thrawsnewid yn yr ysgol

Mae penderfyniadau ynghylch pa bynciau neu gyrsiau i'w cymryd yn digwydd ym Mlwyddyn 9 i blant 13 neu 14 oed. Fe fydd y dewisiadau hyn yn dibynnu ar allu'r plentyn, ei diddordebau, a'i gobeithion yn y tymor hir. Maen nhw'n ffurfio rhan o'r broses addysgol o drawsnewid i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer bod yn annibynnol pan fyddan nhw'n oedolion. Fe gewch chi ganllawiau ar sut i helpu'r sawl sy'n darparu addysg a'r person ifanc sydd ag afiechyd neu anabledd tymor hir i gynllunio ymlaen yn Cod Ymarfer AAA a gafodd ei gyhoeddi gan y llywodraeth yn 2002. (Edrychwch ar yr adran: Mudiadau rhoi cyngor arbenigol ar y gyfraith, budd-daliadau ac addysg t 120)

Edrychwch ar gopïau o'r ddogfen a'u llwytho i lawr o www.dysgu.cymru.gov.uk neu ffoniwch 029 2082 6078/9.

Mae'r canllawiau newydd yn pwysleisio bod cyfathrebu llwyddiannus a chynllunio'r trawsnewid yn broses tair ffordd rhwng rhieni, y person ifanc a'r ysgol. Falle bydd pobl ifanc angen cefnogaeth i fynegi'u barn a'u hagweddau'n llawn, ac mae rhai rhieni angen help bach i rannu cyfrifoldeb gyda'r bobl ifanc. Mae hon yn elfen newydd yn y canllawiau a chaiff ei dehongli'n wahanol mewn gwahanol ysgolion.

Fe gewch chi fanylion am y broses hon gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (edrychwch ar y bennod olaf am gyfeiriadau a ffynonellau eraill o wybodaeth a chyngor).

Mae gan Awdurdodau Addysg Lleol ddyletswydd i ddarparu addysg i blant hyd at 16 oed. (Mae'n orfodol iddyn nhw fynychu'r ysgol hyd at y dydd Gwener olaf ym Mehefin ar ôl eu pen-blwydd yn 16). Cyfrifoldeb Dysgu ac Addysgu Cymru (ELWa) yw eu haddysg wedi hyn. Mae ELWa yn cyfuno addysg bellach, addysg alwedigaethol a dewisiadau eraill i oedolion. Mae gan bobl ifanc hawl i addysg amser llawn nes eu bod yn 19 oed. (Manylion am ELWa ar y we: www.elwa.org.uk)

Pobl ifanc yn cyflwyno'u hanghenion iechyd eu hunain

I'r rhan fwyaf o bobl ifanc, mae'r ffordd raddol at annibyniaeth yn cynnwys edrych ar ôl eu gofynion iechyd eu hunain. Mae'n bwysig fod pobl ifanc, lle mae hynny'n bosibl, yn meithrin eu sgiliau, eu perthynas ag eraill a'u hyder wrth siarad â darparwyr gwasanaethau.

Mae pobl ifanc ag arthritis yn gorfod dysgu dweud beth yw eu gofynion iechyd, ond dyw hon ddim bob amser yn broses hawdd:

'Dw i wedi ffeindio na fedr y meddyg na'r gweithiwr iechyd mwyaf gwybodus ddim darparu'r wybodaeth fwyaf sylfaenol, os nad ydych chi'n geirio'r cwestiwn yn y ffordd iawn. Mae'n rhwystredig achos dydych chi ddim yn gwybod beth ydi'r cwestiwn iawn i'w holi yn aml. Pan fu raid i mi ddelio â'r broblem ddiwethaf nad oedd ateb iddi i bob golwg, fe holais i'r doctor beth oedd y posibiliadau, ac fe gafodd hyn lawer gwell ymateb.'

a

'Mae llawer o ymchwil yn hapymchwil. Mae'n anodd canfod y person iawn i'w holi. Yn aml rydyn ni'n gorfod gwneud ein hymchwil ein hunain, trwy holi rhieni eraill, edrych ar y rhyngrwyd, cysylltu â grwpiau anabledd a darllen papurau meddygol yn y llyfrgell.'

Trawsnewid yn y gwasanaethau iechyd

Mae'r gofal iechyd yn y bennod hon yn cyfeirio'n fwyaf arbennig at ofal mewn ysbyty, un ai fel claf mewnol ar y ward neu fel claf allanol mewn clinig. Mae gwasanaethau eraill yn y gymuned. Weithiau mae'n edrych fel pe bai gorgyffwrdd a bylchau yn y gofal sydd ar gael mewn gwahanol gymunedau, ac mae pob awdurdod iechyd yn gweithredu'n wahanol. Mae'n bosibl i'r person ifanc fod yn mynd at y gwasanaethau plant ar gyfer rhai pethau, a'r gwasanaethau oedolion ar gyfer eraill.

Mae rhai teuluoedd yn cael sioc o wybod nad yw rhai gwasanaethau pediatrig oedd ar gael iddyn nhw unwaith ddim ar gael mwyach. Falle bydd rhai rhieni a phobl ifanc yn teimlo'r newidiadau hyn yn fraw ac yn straen. Fe fyddai cael rhybudd ymlaen llaw am y newid mewn trefniadau gwasanaethau y mae eich plentyn yn mynd atyn nhw'n helpu i'ch paratoi chi a'r person ifanc i addasu i'r sefyllfa. Er enghraifft falle bydd plentyn â phroblem mewn cymal wedi bod yn cael ei gweld yn yr un ward plant trwy'i phlentyndod, ond unwaith y mae hi'n 16 mae'r person ifanc â'r un broblem yn gorfod mynd i'r ward gyffredinol yn yr ysbyty. Fe all y mwyafrif o'r bobl eraill yn y ward honno fod yn oedrannus. Mae rhai teuluoedd yn dal i ganfod, unwaith mae'r person ifanc yn rhy hen i fynd at y gwasanaethau plant, bod rhai therapïau a gwasanaethau pwysig yn fwy anodd cael rhywbeth yn eu lle.

'Rydyn ni wedi canfod dyw rhai o'r gwasanaethau iechyd roedden ni'n arfer eu cael i'n plant ddim mor hawdd i'w cael iddyn nhw fel oedolion, pethau fel ffisiotherapi a gwasanaethau therapi llafaredd ac iaith. Roedd rhai gwasanaethau'n dod i ben pan adawon nhw'r ysgol. Fe allan nhw hefyd golli'r gwasanaethau gofal iechyd arbenigol iawn roedden nhw wedi arfer eu cael pan oedden nhw'n cael gwasanaeth pediatrig.'