Rhestr gyfeirio ar ffyrdd positif i helpu'ch plentyn

Dyma restr gyfeirio yn nodi ffyrdd y gallwch chi helpu'ch plentyn i dyfu i'w deall hi'i hun, ei hafiechyd a'i photensial. Fe fydd eich ymateb yn dibynnu ar oed y plentyn, ond nid o raid ar y radd o arthritis sydd arni.

  • Fe allwch drafod gyda'r plentyn sut mae hi'n teimlo, yn gorfforol ac emosiynol, beth mae hi'n ei feddwl o wahanol bethau (fel methu â gwneud pethau). Mae hyn yn help iddi adnabod ei theimladau, ac yn cadw cysylltiad agored rhwng y teulu.
  • Fe allwch ofyn iddi beth mae hi eisiau'i wneud pan fydd hi'n hyn a'i hannog i feddwl am bethau y mae hi'n dda ynddyn nhw neu'n eu mwynhau. Mae popeth yn bosibl - chwilio partner, byw'n annibynnol, gyrru car, cael plant, mwynhau swydd neu hobi gyffrous - hyd yn oed ag arthritis.
  • Fe allwch drafod gyda hi pa driniaethau sydd wedi'u hargymell iddi a pham, neu unrhyw ddewisiadau a all fod gennych chi. Mae hyn yn helpu plant i ddeall beth sy'n digwydd, i ddeall eu harthritis ac yn eu gwneud yn ymwybodol y gallan nhw wneud dewisiadau.
  • Fe allwch ei helpu i gysylltu ei phenderfyniadau â gweithredoedd a chanlyniadau. Er enghraifft, fe allwch ei helpu i gysylltu faint o stiffrwydd sydd yn ei chymalau heddiw â pha mor fywiog fu hi y diwrnod cynt. Fe fydd hyn yn ei pharatoi i wneud penderfyniadau ar sut i fyw gydag arthritis.
  • Fe allwch annog eich plentyn i fynegi ei theimladau am sefyllfaoedd, triniaethau neu benderfyniadau eraill. Mae hyn yn ei helpu i ymarfer cyfathrebu ag oedolion ac i wybod bod ei barn yn cyfrif i chi.
  • Fe allwch gynnwys y plentyn yn y penderfyniadau hynny, a'i helpu i wybod bod ei safbwynt hi'n cael ei ystyried. Fe fydd hyn yn ei helpu i feithrin ei hunan-barch, a'r teimlad bod ganddi reolaeth yn hytrach na'i bod yn teimlo'n ddiymadferth a dibynnol.