Edrych ymlaen

Cyflwyniad

Mae'n anodd i rai rhieni a phobl ifanc edrych ymlaen. Mae hyn yn digwydd yn aml am fod ymdopi â heddiw yn gofyn cymaint nes mynd â'ch egni i gyd. Weithiau, mae edrych ymlaen yn rhy boenus a thorcalonnus. Dyma ysgrifennodd un fam:

'Mi wyddoch sut mae hi, rydych chi'n delio â'r tymor byr am fod y tymor hir mor anodd ei ddychmygu hyd yn oed.'

Fe all rhai gweithwyr proffesiynol fod yn rhy brysur yn ymdopi â'u baich achosion brys i fedru rhoi amser i baratoi teulu ar gyfer beth sydd i ddod. Ond eto, cyngor y mwyafrif o deuluoedd a gweithwyr proffesiynol sydd wedi mynd trwy'r benbleth hon yw bod raid i chi edrych ymlaen, a bod yn barod ar gyfer pob cam.

Pan fydd y plentyn ag arthritis yn cychwyn yn yr ysgol uwchradd maen nhw'n paratoi ar gyfer bywyd oedolyn. Fel eu cyfoedion, mae pobl ifanc ag arthritis yn dioddef y newidiadau corfforol, cymdeithasol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod llencyndod. Fodd bynnag, mae sialensiau ychwanegol oherwydd y clefyd, y driniaeth drwy'r adeg ac effaith seicolegol arthritis parhaol. Bwriad y deunydd yn y bennod hon yw'ch helpu chi i feddwl ymlaen, a magu disgwyliadau positif. Mae'n rhoi rhai awgrymiadau sut gallwch chi annog eich plentyn i edrych ymlaen yn obeithiol a realistig.

Disgwyliadau positif ar gyfer y dyfodol

Mae disgwyliadau'r person ifanc, rhai y rhieni a'r ysgolion yn dylanwadu ar beth all y person ifanc ei gyflawni pan fydd yn oedolyn, a sut mae'n paratoi ar gyfer byw bywyd llawn fel oedolyn. Rhaid i ddisgwyliadau am y dyfodol fod yn realistig ac yn perthyn yn amlwg i beth mae'r person ifanc yn ei wneud yn dda. Go brin y bydd person ifanc sy'n casáu gwyddoniaeth yn yr ysgol yn mynd yn wyddonydd, ond fe all rhywun sy'n methu ysgrifennu â phin ysgrifennu ond yn medru defnyddio cyfrifiadur ddod yn awdur llwyddiannus. Gyda'i gilydd fe all rhieni, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ganfod ffyrdd o helpu'r bobl ifanc i wireddu eu huchelgais. Fe all pobl ifanc gyflawni llawer llai nag a ddylen nhw os yw disgwyliadau'r teulu ar gyfer y dyfodol yn isel.

Trawsnewid o fod yn blentyn dibynnol i fod yn oedolyn annibynnol

Mae gweithwyr proffesiynol yn defnyddio'r termau 'trawsnewid' a 'cyfnod trawsnewid' i gyfeirio at y broses o newid o fod yn blant dibynnol i fod yn oedolion annibynnol. Mae gofal trawsnewidiol yn cyfeirio at y gwasanaethau sy'n helpu'r broses hon. Y newyddion da yw bod mwy o gydnabod yn y Deyrnas Unedig fod anghenion llencyndod yn rhai arbennig, ac mai gwasanaethau gofal trawsnewidiol arbenigol sy'n cwrdd orau ag anghenion pobl ifanc yn y cyfnod hwn [1]. Yn 2000, fe ddechreuodd project cenedlaethol pwysig, wedi'i leoli ym Mhrifysgol Birmingham, ymchwilio i anghenion rhai yn eu harddegau cynnar ag arthritis plant idiopathig, a hefyd datblygu canllawiau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau rhewmatolegol arbenigol. Mae'r gwaith hwn yn dal i fynd ymlaen a phan gaiff ei gwblhau fe ddylai ddod â gwelliannau gwerthfawr a safoni cyffredinol i fod, fel bydd y bobl ifanc ag arthritis, lle bynnag byddan nhw'n byw, yn medru derbyn yr un safon o ofal arbenigol.

Annog annibyniaeth

Rhan o'r broses drawsnewid yw helpu'r person ifanc i ddod mor annibynnol â phosibl yn eu dewisiadau personol, eu sgiliau byw bywyd bob dydd a'u perthynas ag eraill. Fe fydd raid i rai pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth o ran iechyd a materion cymdeithasol gael help i fynegi eu blaenoriaethau, er mwyn medru cymryd rhan weithredol mewn cynllunio'u dyfodol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gwneud cynnydd yn y broses o ennill cymaint o annibyniaeth ag mae'n gorfforol abl i'w wneud yn dechrau gyda pharodrwydd y rhiant i drosglwyddo cyfrifoldeb i'r person ifanc. Mewn adroddiad diweddar dyma ysgrifennodd un person ifanc:

'Pe bai rhywun yn gofyn i mi pa gyngor fyddwn i'n ei roi i eraill fe fyddwn yn dweud wrthyn nhw y dylen nhw wrando ar bobl ifanc a'u parchu. Yn fy mhrofiad i mae'n anodd iawn dweud wrth unrhyw un sut ydych chi'n teimlo pan dydyn nhw ddim yn gwrando; os nad ydych chi'n cael eich credu rydych chi'n rhoi'r gorau i gredu ynoch chi'ch hun; os nad ydych chi'n cael eich parchu yna rydych chi'n colli'ch hunan-barch ac mae ar bawb angen hunan-barch'.[2]

[1] Beresford B (1995), Expert opinions: a national survey of parents caring for a severely disabled child. Bristol: The Policy Press (The Joseph Rowntree Foundation).