
|
Problemau glasoed
Glasoed yw'r cyfnod pan mae'n cyrff yn newid o fod yn rhai plant i rai oedolion. I ferched mae'n
cynnwys newidiadau mewn lefelau hormonau, siâp y corff, smotiau a misglwyf, ysbeidiau o dyfu,
a ffitio i mewn gyda chyfoedion tebyg eraill! Fe all fod yn gyfnod o wylltio'n hawdd i fechgyn a
merched, wrth i blant ddechrau datblygu ac arbrofi gyda'u hunaniaeth newydd, ffurfio'u
gwerthoedd eu hunain a gwneud eu ffrindiau, ac archwilio'u lle ym myd oedolion. Fe fydd y
newidiadau yn digwydd yn y corff fel arfer rhwng 11 a 13 oed, ac mae pobl ifanc yn aml yn dod
yn fwy ymwybodol eu bod yn wahanol os ydyn nhw'n datblygu'n arafach na'u cyfeillion. Mae
datblygiad plentyn yn cael ei ddylanwadu gan batrwm profiad rhieni, e.e., os cafodd Mam ei
misglwyf cyntaf yn 13, dyma'r oed pan fydd ei merch yn debyg o'i gael.
Fe all oedi neu ymyriad ddigwydd yn natblygiad corff unrhyw berson ifanc sy'n dioddef afiechyd
difrifol am fod y corff yn defnyddio'r egni sydd ar gael iddo i ymdopi â'r afiechyd. Mae pobl ifanc
ag arthritis cronig ac sydd wedi bod yn cael triniaeth ers blynyddoedd, yn aml yn gweld bod
newidiadau glasoed yn cael eu dal yn ôl. Mewn nifer fechan iawn o bobl sy'n dioddef arthritis
dyw'r hyrddiau o dyfu ddim yn digwydd.
Mae bod y lleiaf a thebycaf i blentyn yn gorfforol yn yr ysgol yn dorcalonnus ac yn sialens ddyddiol
i bobl ifanc. Mae ar y bobl ifanc hyn angen llawer o gefnogaeth gan ffrindiau, rhieni a chlinigwyr
sy'n deall, ond dyw'r help hwn ddim bob amser ar gael.
Beth all helpu os bydd glasoed yn hwyr
- Cydnabyddwch fod ei datblygiad yn ymddangos yn hwyr, ond ei fod yn llawer tebycach o fod yn hwyr na ddim yna o gwbl.
- Byddwch ar gael i wrando ar ei phryderon, ei gofid calon a'r sialens ddyddiol yn yr ysgol y bydd hi falle'n credu eu bod yn codi o'i diffyg taldra neu ddatblygiad.
- Mae ei hannog yn emosiynol a'i chanmol am ei hagwedd, ei llwyddiannau ac am fod yn 'hi ei hun' a hynny gan y DDAU riant yn bwysig iawn. Fe all tadau wneud gwahaniaeth enfawr wrth helpu'r person ifanc i deimlo ei bod yn annwyl yn eu golwg ac yn cael ei gwerthfawrogi.
- Ewch i'r afael â'r canlyniadau ymarferol gyda'ch gilydd:
- helpwch y person ifanc i gael gafael ar ddillad ffasiynol hyd yn oed os bydd angen eu haddasu i ffitio person llai.
- caniatewch iddi wisgo esgidiau sodlau uwch am gyfnodau byr pan fydd hi gyda ffrindiau mewn achlysuron cymdeithasol.
- helpwch hi i ddefnyddio colur addas i'w hoed a steil gwallt sy'n hybu ei hyder a'i hunanbarch.
- anogwch hi i feithrin ei diddordebau a'i sgiliau gyda gwahanol grwpiau o bobl (e.e., chwarae offeryn cerdd, actio, celfyddydwaith, neu goginio) am fod y rhain yn ei helpu i feithrin hyder a phendantrwydd ac ymwybyddiaeth fod pobl o bob maint a ffurf i'w cael, a'u bod yn dal i fod yn bobl ddiddorol i fod gyda nhw.
- Os ydych chi'n gwir boeni, siaradwch gyda'r rhewmatolegydd neu'r pediatrydd a all o bosibl drafod dulliau o helpu. Mewn amgylchiadau eithriadol, fe all hyn olygu defnyddio hormon tyfu ond fe fydd hyn yn golygu rhagor o archwiliadau clinigol, ymweliadau, profion gwaed a mwy o ganoli ar symptomau nag ar fyw bywyd bob dydd.
- Byddwch yn sensitif i ba mor ymwybodol, pryderus neu dorcalonnus ydych chi. Ai chi sydd eisiau i'r plentyn dyfu/datblygu'n gyflymach?
- Ceisiwch gadw synnwyr digrifwch a gwnewch le i wneud pethau 'arbennig' gyda'ch gilydd fydd yn tynnu sylw am o leiaf rai oriau!
|
|