Byw gyda bod yn wahanol a phoen

Y ddau brofiad cryfaf y mae plant ag arthritis yn eu disgrifio yw poen a theimlo'u bod yn wahanol i'w ffrindiau, hyd yn oed pan fyddan nhw'n edrych yn 'normal'. Yn yr ysgol gynradd, fe ddaw plant yn ymwybodol fod teuluoedd yn wahanol, a bod pob plentyn yn unigryw. Ar y dechrau mae eu teimlad naturiol o fod yn unigryw ac o ddod yn fwy ymwybodol o'u hunain yr un fath â phrofiad eu cyfoedion. Fe ddaw'r argyfwng pan fydd plant yn dechrau newid o deimlo eu bod yn unigryw i sylweddoli eu bod yn wahanol. Mae plant yn sylweddoli bod arthritis yn gwneud iddyn nhw deimlo'n wahanol, ar adeg y maen nhw wir eisiau bod yr un fath â phawb arall. Mae'r teimlad hwn o fod yn wahanol yn gallu bod yn brif ganlyniad arthritis i rai plant.

Ar y tudalennau isod fe allwch chi weld sut mae rhai plant yn disgrifio sut beth yw eu harthritis:






Sut ges i Arthitis Plant Cronig (JCA)

"2 1/2 oeddwn i pan ddangoses i arwyddion JCA gyntaf. Dw i'n awr yn 8 1/2 ac wedi ei gael ers 5 1/4 o flynyddoedd ac wedi arfer cymryd:(methotrexate), steroidau, sitrom, asid ffolig, zantic, ibrupropin, methotrexate yn hylif a thabledi. Mae'n gas gen i fod yn wahanol ac yn methu gwneud y pethau mae pawb arall yn gallu eu gwneud. Unwaith fe es i i'r ysbyty ac fe ddywedodd y nyrs "paid â chrïo, mae gen i gur pen!" Dydw i ddim yn meddwl bod hyn'na'n garedig iawn, mae pobl angen crïo. Yn ddiweddar dw i wedi trïo talu'n ôl, talu'n ôl i'r doctor.

Beth Britton '98


Fe ysgrifennodd merch arall: