
|
Chwarae a dysgu gartref
Er y bydd eich plentyn ifanc yn teimlo'n sâl ac mewn poen, fe fedrwch chi wneud llawer o bethau i'w
helpu i ddysgu chwarae a mwynhau hynny. Cynhwyswch y sibliaid ifanc eraill pan fydd hi'n bosibl er
mwyn i'r plant ddysgu chwarae yng nghwmni ei gilydd. Dyma rai syniadau:-
Mewn dwr cynnes
- Mae bod mewn dwr cynnes yn ystwytho cymalau poenus felly rhowch gymaint o amser chwarae yn y bath ag mae hi'n ei fwynhau iddi. Pan fyddan nhw'n fwy esmwyth yn gorfforol, mae plant yn naturiol yn dechrau mwynhau archwilio, profi a chwarae â phethau.
- Defnyddiwch fat hir nad yw'n llithro i wneud bod yn y bath yn fwy diogel (gallwch eu prynu'n hawdd yn y siopau ar y stryd fawr). Mae seddau-cynnal yn y bath i'w cael ond allwch chi ddim gadael eich plentyn ar ei phen ei hun.
- Defnyddiwch declynnau ty plastig i chwarae yn y bath - pethau fel gogor, lletwad, llwy bren, bocsys plastig o wahanol faint, setiau eisin plastig.
- Chwiliwch am degannau bath o gatalogau neu farchnadoedd. Rhowch un ar y tro i'r plentyn i chwarae, a chadwch y lleill o'r golwg. Pan fydd eich plentyn yn dechrau blino, newidiwch y tegan. Fe fydd perthnasau'n barod iawn i ymuno yn y chwilio am degannau bath newydd.
- Chwaraewch dapiau hwiangerddi a gwnewch y symudiadau gyda hi, mae'n rhyfeddol sut mae plant yn ymuno pan fyddan nhw ddim mewn poen.
- Fe allwch gael llythrennau rwber sy'n glynu i'r bath neu'r teils er mwyn iddi gael chwarae gyda llythrennau a geiriau byrion. Fe allwch hefyd brynu crayons sebon iddi sgriblo yn y bath.
- Treuliwch yr amser chwarae hwn y tu allan yn yr haf, falle'n defnyddio powlenni golchi llestri - falle bydd gofyn i chi ail-lenwi'r dwr cynnes. Cofiwch gadw'r plant o'r haul uniongyrchol, rhowch hetiau am eu pennau a defnyddiwch eli haul.
Nofio
- Mae nofio a chwarae mewn dwr cynnes yn lles mawr i blant ag arthritis. Maen nhw hefyd yn gyfle da i'r teulu cyfan chwarae gyda'i gilydd.
- Os ydych chi'n mynd i'r pwll nofio cyhoeddus, ceisiwch wneud yn siwr dyw'r plentyn ddim yn oeri. Ewch â gwn llofft tywelin i'r plentyn ei gwisgo wrth ddod o'r d_r. Fe fydd hi'n gynnes tra byddwch chi'n ymofyn dillad sych i newid iddyn nhw.
- Mae pyllau cynnes, llai mewn rhai gwestai lleol da ac fe allech ofyn am gael eu defnyddio. Siaradwch â'r rheolwr, mae pobl fel arfer yn barod i helpu unwaith y byddan nhw'n deall pam byddai eu cyfleusterau nhw'n helpu'r plentyn.
- Mae mynd ag oedolyn ychwanegol gyda chi i nofio yn werth y byd (!), yn arbennig o ddefnyddiol pan ddowch chi o'r dwr ac angen i chi newid y plentyn sâl i ddillad sych ar unwaith.
Crynodeb o'r prif bwyntiau
- Os ydych chi'n gwybod bod y plentyn wrth ei bodd gyda gweithgaredd, gadewch iddi ei wneud am gyfnodau byr, ond rhowch y dos o boenladdwr sy'n cael ei argymell ymlaen llaw.
- Mae plant wrth eu bodd yn chwarae â phypedau bys neu faneg - ac maen nhw'n ymarfer eu dwylo heb sylwi ar hynny.
- Mae bod yn yr un ystum am unrhyw faint o amser fel arfer yn eu gwneud yn stiff ac anghysurus. Felly pan fyddwch yn mynd ar siwrnai o fwy na thri chwarter awr rhowch ddos o boenladdwr iddyn nhw (gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y botel).
- Mae'r rhan fwyaf o blant yn hoffi chwarae gyda chelfyddydwaith - ceisiwch gael gwahanol ddarnau o ddefnydd, gwahanol fathau o bapur (papur sidan, cerdyn trwchus, papur sglein, ffoil cegin, papur crasu, ac ati). Gorchuddiwch y bwrdd neu'r llawr â phapur newydd, mwynhewch wneud lluniau o bethau gyda'ch plentyn gan ddefnyddio glud, papur a'r holl bethau hyn o ansawdd a lliwiau gwahanol. Rhowch gynnig ar ddefnyddio gwahanol gefndir, e.e., darnau o hen bapur wal a mwynhewch arbrofi.
Falle nad dyma'ch syniad chi o hwyl, ond ymlaciwch a rhowch gynnig arni. Fe fydd o les mawr
i'ch plentyn ac fe fydd yn mwynhau archwilio pethau newydd - falle dowch chi i'w fwynhau
hefyd!
Mae Pennod 8 yn trafod yn llawn faterion yn ymwneud â dewis ysgol, egluro anhwylder y plentyn i
staff yr ysgol, a sicrhau cefnogaeth ar gyfer gwahanol anghenion eich plentyn yn yr ysgol.
|