| |
|
Profiadau plant ag arthritisCyflwyniadMae chwarae yn weithgaredd angenrheidiol ar gyfer datblygu'n gorfforol, yn emosiynol a chymdeithasol ond pan fydd plant ifanc iawn yn dangos arwyddion arthritis fe allan nhw fod yn llai brwdfrydig ynghylch bod yn chwilfrydig a chwarae. Mae hyn yn golygu bod angen addasu gweithgareddau cyffredin, neu gemau newydd i'r plant i gyd fedru chwarae gyda'i gilydd, ac i'r rhieni a'r plant fedru mwynhau'r amser y maen nhw'n ei rannu gyda'i gilydd. Yn yr adran hon mae gwybodaeth wedi'i chasglu i helpu'r darllenydd i ddeall profiad y plentyn, ac mae'n rhoi syniadau am weithgareddau i roi cynnig arnyn nhw. Yn y blynyddoedd cynnar hynny, falle bydd rhieni'n ei chael yn anodd rhoi mewn geiriau pam maen nhw'n teimlo bod rhywbeth yn bod yn arbennig os yw'r plentyn yn blentyn cyntaf. Mae'n arbennig o anodd i'r clinigwr hefyd wneud diagnosis manwl gywir yr adeg hon. Falle mai dim ond ymddangos yn llai parod i ddysgu cerdded, neu fynd yn llai parod i siarad (dim ond crïo) ac yn llai chwilfrydig eu hymateb i degannau, pobl a phethau newydd mae'r plentyn. O na bai...Dyw hi ddim yn anghyffredin i rieni, ymhen blynyddoedd, sylweddoli bod cliwiau yn ymddygiad eu plentyn yn dangos bod rhywbeth yn bod ac fe all rhieni deimlo'n euog nad oedden nhw wedi ceisio help yn gynt. Mae'r ffaith i rieni sicrhau diagnosis cywir a thriniaeth addas yn y man yn gamp ynddi'i hun. Mae dymuno newid y gorffennol yn ddealladwy ond yn ddi-fudd; yn hytrach fe fyddai'n ddoethach i rieni ganoli eu hemosiynau, eu hamser a'u hymdrechion ar wynebu sialensiau bywyd heddiw. Mae plant sy'n dangos arwyddion arthritis yn gynnar iawn fel petaen nhw'n medru goddef eu sefyllfa. Dyw'r plant hyn falle ddim yn cofio amser pan oedden nhw'n iach, ac felly falle'u bod yn medru derbyn canlyniadau arthritis yn stoicaidd. O'r ochr arall, mae oedolion sy'n cael arthritis yn hwyrach yn eu bywyd yn cymharu'n glir eu bywyd iach gynt â'u sefyllfa newydd, ac yn medru disgrifio'r profiad o symptomau arthritis yn llawn. Mae plant ifanc yn rhy anaeddfed i fedru dweud sut maen nhw'n teimlo. Dyma'r rheswm yn rhannol pam mae ymchwilwyr wedi dangos bod plant yn sôn am lefelau is o boen nag oedolion cyfatebol (edrychwch ar Bennod 5). Chwarae a dysguMae chwarae a bod yn chwilfrydig yn bwysig am eu bod yn rhan holl bwysig o:- 1 dysgu am y byd, ac ymarfer pethau fel defnyddio'r dwylo, a dod i adnabod pethau. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw'ch plentyn yn rhy sâl i fwynhau mynd allan i'r parc neu achlysuron awyr agored eraill lle byddai eu meddwl yn cael ei ysgogi gan bethau newydd. 2 tynnu sylw eich plentyn oddi ar deimlo'n sâl neu'n ddiddiddordeb. Fe all hyd yn oed y plentyn blinedig ymuno. 3 cael hwyl, rhannu chwerthin a dysgu. Maen nhw'n help i adfer peth cydbwysedd rhwng pethau yn ymwneud ag ysbyty/clinig/therapi sy'n bethau difrifol, annymunol ac angenrheidiol y mae'n rhaid i chi eu gwneud gyda'r plentyn oherwydd yr arthritis. Fe fydd canfod pethau i'w mwynhau gyda'ch gilydd yn cryfhau'r berthynas â'ch plentyn, - fe fydd arnoch chi angen hyn pan fyddwch yn wynebu agweddau anodd byw gydag arthritis. |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |