Brodyr a chwiorydd

Cyflwyniad

Pan fydd plentyn yn dangos arwyddion arthritis, fe fydd yn effeithio ar frodyr a chwiorydd (sibliaid yw'r term amdanyn nhw gyda'i gilydd) yn ogystal. Fe fydd maint yr effaith yn dibynnu ar ffactorau o fewn y teulu yn ogystal ā ffactorau o'r tu allan. Enghreifftiau o ffactorau o fewn y teulu yw pa mor ddifrifol yw'r afiechyd, oed y plant, eu personoliaeth, ymwneud y rhieni yn y triniaethau sy'n cael eu hargymhell, pa wybodaeth mae'r rhieni yn ei chwilio, a'r ffordd y mae aelodau'r teulu'n cyfathrebu ā'i gilydd. Mae ffactorau o'r tu allan yn cynnwys faint o help sydd ar gael gan neiniau a theidiau a ffrindiau, pwysau gwaith (llwyth y gwaith, bygythiad diswyddo), cefnogaeth neu ddim gan yr ysgol a gwasanaethau'r gymuned, a phryderon am arian neu adnoddau, a pha mor effeithiol yw cefnogaeth y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

O'r ychydig ymchwil sydd ar gael ar sibliaid plant ag unrhyw anabledd neu afiechyd tymor hir [1], [2], fe wyddon ni fod elfennau cyffredin yn y dull y mae llawer o sibliaid yn ymateb, ac mae'r rhain yn cynnwys:

hunan-barch isel,

peidio ā chymysgu'n gymdeithasol,

cenfigen a theimlo'n euog,

tangyflawni academaidd,

problemau ymddygiad (pethau fel ymddwyn i geisio cael sylw),

pryder,

tuedd i fod yn fwy blin/piwis nag arfer,

a theimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu o'u cymharu ā'r plentyn sy'n sāl.

Mae brodyr a chwiorydd yn byw gyda chanlyniadau arthritis plant, ond yn aml dyw gweithwyr proffesiynol ddim yn cydnabod eu hanghenion nhw. Yn ymchwil Brighton, roedd teuluoedd yn disgrifio sut oedd sibliaid yn gorfod gwneud ar lai o amser eu rhieni, a dysgu byw mewn awyrgylch o bryder am y plentyn sāl.

Mae rhieni'n ymdrechu i gwrdd ag anghenion pob un o'u plant ond mae amserlen a dewisiadau'r teulu yn gallu cael eu rheoli gan anghenion triniaeth y plentyn ag arthritis a'r ffaith na all neb ragweld sut bydd yr arthritis am ei fod yn newid mor aml. Yn ymchwil Brighton, roedd pob un o'r rhieni a gafodd ei holi, a'r rhan fwyaf o'r rhai a atebodd holiadur, yn dweud mai un o'u pryderon mwyaf oedd eu bod yn methu ā chwrdd ag angen y sibliaid oherwydd bod anghenion y plentyn sāl yn mynd ā chymaint o'u hamser, egni ac emosiwn. Meddai un tad 'weithiau dydyn ni ddim yn treulio mwy o amser gyda hi am ein bod yn brysur gyda'n plentyn sāl.' Sylw nodweddiadol arall oedd 'maen nhw'n ardderchog hefo hi ond yn amal yn ddig wrth y sylw ychwanegol mae hi'n ei gael.' Meddai rhiant arall 'Rwy'n meddwl bod ei harthritis yn effeithio tipyn ar y teulu achos dydyn ni ddim yn medru gwneud cymaint ā theuluoedd cyffredin a rydyn ni'n gorfod gofalu llawer mwy amdani hi nag am berson iach normal.'

Fe gyfeiriodd rhieni a phlant at lawer o enghreifftiau cyffredin o sut oedden nhw'n addasu i'r sefyllfa. Meddai un rhaint 'mae ei chwaer hyn yn meddwl ei bod yn cael osgoi popeth sy'n golygu gwaith', tra dywedodd un arall bod y sibliaid hyn 'yn ymwybodol o orfod [ceisio osgoi] ei tharo'n ddamweiniol, gorfod aros yn hirach am bethau, a gwneud ychydig yn rhagor o swyddi i helpu i ofalu amdani.'

Mae llawer teulu'n gorfod rhannu'u gweithgareddau, fel bod un rhiant yn mynd gyda'r plentyn iach i weithgareddau corfforol ymestynnol, a'r rhiant arall (neu oedolyn fydd ar gael) yn gorfod gwneud gweithgareddau tawelach gyda'r plentyn ag arthritis. Er enghraifft fe ddywedodd un fam 'mae gwyliau a diwrnodau allan yn gyfyngedig, h.y. mae arno fo eisiau mynd ar drenau tanddaear a dringo mynyddoedd - hyn yn tueddu i wahanu'r teulu.'

Effaith bositif ar frodyr a chwiorydd

Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd, yn dweud bod sibliaid, pan oedden nhw'n ddigon hen, yn dod i ddeall ac i gefnodi'r plentyn ag arthritis, ond roedden nhw hefyd yn ymwybodol o sut oedd y sefyllfa yn gwneud eu teulu yn wahanol i deuluoedd eraill. Roedd rhieni'n dweud bod sibliaid yn dysgu bod gallu ac angen pobl yn wahanol a bod y plentyn oedd yn aml yn teimlo'n sāl angen dealltwriaeth a chefnogaeth. Fe ddywedodd rhieni bod sibliaid yn helpu gyda goruchwylion y ty ac roedd rhai fel petaen nhw'n dod yn fwy annibynnol yn gynt na'u cyfoedion. Dyma ysgrifennodd un fam 'mae fy mhlant pymtheg ac wyth oed wedi dysgu llawer gan yr anhwylder hwn. Dwyf i ddim yn meddwl eu bod wedi colli dim - dim ond ennill trwy brofi dyw bywyd ddim yn dda i gyd. Mae dealltwriaeth ac amynedd yn cyfrannu llawer at ein gwneud yn oedolion da.' Roedd brodyr a chwiorydd hyn yn arbennig yn magu agwedd ofalus a chefnogol at y plentyn ag arthritis. Meddai un fam 'Mae ei frawd hyn yn arbennig o barod i helpu ac yn ofalus. Mae fel petai'n ymdopi'n dda.'

Chwarae gyda'i gilydd

Maes pryder ac weithiau dristwch i rieni oedd sut oedd plant yn newid eu ffordd o chwarae gyda'i gilydd. Fe sylwodd rhieni 'dyw ein mab ddim yn chwarae gyda hi. Rhaid iddo gael chwarae ar ei ben ei hun. Mae'n poeni amdani.' Dyma ysgrifennodd mam arall 'Mae ei chwaer yn gryfach o lawer ac yn rhoi dolur iddo'n aml wrth chwarae.' Doedd sibliaid eraill ieuengach ddim yn deall afiechyd eu brawd/chwaer: 'dyw ei chwaer, sy'n ieuengach, ddim yn deall pam na wnaiff hi chwarae neu pam mae hi'n teimlo'n rhy sāl i siarad.'

Roedd llawer teulu'n teimlo bod eu plant iach yn colli chwarae gyda phlant iach eraill. Er enghraifft, meddai un fam 'Dw i'n drist drosti hi a'i brawd am nad ydyn nhw'n cael gwahoddiad i rai o bartļon eu ffrindiau am eu bod nhw'n cael eu cynnal mewn mannau sy'n anaddas iddi hi.'

Perthynas rhwng sibliad iach a'r plentyn ag arthritis

Yn ymchwil Brighton, fe gadwodd rhai brodyr a chwiorydd hyn ddyddiaduron o'u teimladau yn byw gydag arthritis. Ynddyn nhw, mae tystiolaeth fod sibliaid yn gweld a chlywed sut oedd plant eraill yn trin y plentyn ag arthritis yn yr ysgol. Roedden nhw'n dystion fod rhai plant yn greulon wrth blant oedd yn ymddangos yn wahanol iddyn nhw. Ymhob achos, doedd y sibliaid na'r plant ag arthritis ddim wedi dweud wrth eu rhieni am y digwyddiadau hyn ar fuarth yr ysgol, ond roedd y digwyddiadau fel pe baen nhw'n hybu agosrwydd ac empathi rhwng sibliaid.

Dyma rai cofnodion o'r dyddiaduron:





[1] Davis Hilton (1993) Counselling Parents of Children with Chronic Illness or Disability. British Psychological Society: Leicester
[2] Eiser Christine (1993) Growing up with a Chronic Disease: The impact on children and their families. Jessica Kingsley: London