
|
Syniadau sut gallai perthnasau a ffrindiau iach helpu
- Ceisiwch gael gwybodaeth am grwpiau cymorth a gwasanaethau lleol yn y llyfrgell neu ganolfannau cynghori. Ysgrifennwch y wybodaeth i'r rhieni iddyn nhw'i defnyddio neu beidio, pan fyddan nhw'n barod. Prin yw'r croeso i erthyglau ar feddyginiaethau od i arthritis.
- Paratowch bryd prif gwrs i'w rewi a'i ddefnyddio pan fydd angen.
- Gwnewch gacennau neu fisgedi; mae gan deuluoedd dan bwysau lawer llai o amser na chi i wneud hyn.
- Anfonwch gerdyn i'w calonogi.
- Anfonwch flodau.
- Cynigiwch help yn yr ardd.
- Cynigiwch help i siopa, neu ymofyn presgripsiwn neu foddion.
- Cynigiwch fynd gyda'r plentyn a'r rhiant i wahanol apwyntiadau. Mae rhieni'n gwerthfawrogi help gyda theithio a bod rhywun yna'n gefn iddyn nhw ar yr adegau hyn.
- Cynigiwch warchod, neu os ydych chi'n byw yn rhy bell, fe allech gymryd y plant i aros gyda chi yn eu tro. Fe fydd pob plentyn yn gwerthfawrogi cael amser arbennig gyda chi, ac mae'n ffordd dda o ddod i ddeall pob plentyn. Peidiwch ag ofni cymryd y plentyn ag arthritis hefyd - mae arnyn nhw angen amser o'u cartref hefyd.
- Os yw'n briodol, allech chi aros yng nghartref y teulu, a gofalu am y plant i'r rhieni gael noson i ffwrdd? Mae hyn yn golygu amharu llai ar drefn arferol y plant am fod eu teganau ac unrhyw offer arbenigol yn y cartref.
Falle byddwch chi'n teimlo'ch bod yn byw yn rhy bell neu'n rhy fregus o gorff i helpu; fe fydd eich
cefnogaeth yn dal i wneud gwahaniaeth i riant sy'n ymdrechu. Mae galwadau ffôn neu lythyrau
cyson yn dangos eich bod yn malio, hyd yn oed pan na fedrwch chi helpu'n gorfforol. Mae eich rôl
yn cefnogi'r rhieni a'r plant yn werthfawr: daliwch ati!
|