| |
|
Neiniau a theidiau (mamau-cu a thadau-cu)Yn ymchwil Brighton, fe ddaeth yn glir mai neiniau a theidiau oedd yn rhoi'r gefnogaeth bwysig gyson yn y rhan fwyaf o deuluoedd, a bod y gefnogaeth hon yn cynnwys agweddau a chyngor emosiynol, ymarferol ac ariannol. Roedd rhieni'n enwi neiniau a theidiau fel rhai yn rhoi 'cefnogaeth allweddol' yn amlach nag unrhyw fudiad proffesiynol na gwirfoddol. Roedd adegau hollbwysig pan oedd gwybodaeth neu gyngor pwysig, gan amlaf yn gysylltiedig â gofal meddygol am y plentyn, yn dod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond ar wahân i hynny y neiniau a'r teidiau oedd yn dod i'r amlwg fel yr arwyr di-glod. Mae ymchwil arall yn dangos po fwyaf o gefnogaeth gymdeithasol a gaiff teulu gorau oll y gallan nhw weithredu'r driniaeth sy'n cael ei hargymhell [1]. Dyma reswm arall dros annog neiniau a theidiau i ddysgu mwy am arthritis plant a sut i helpu'r teulu. Yr ochr groes i hyn oedd bod y teuluoedd oedd heb neiniau a theidiau neu lle doedden nhw ddim ar gael, yn amharod neu'n anabl i helpu yn fwy tebygol o deimlo'n unig yn eu hymdrechion i gwrdd â'r sialens o ddydd i ddydd. Meddai un fam 'roedd disgwyl am ddiagnosis wedi achosi llawer o straen rhwng fy ngwr a fi ac roedden ni'n tueddu i gymryd ein gofidiau allan ar y naill a'r llall gan nad oedd ganddon ni deulu estynedig.' Meddai neiniau a theidiau...Mewn astudiaeth anffurfiol gan Contact a Family [2], dyma ddywedodd neiniau a theidiau plant anabl neu blant sy'n sâl trwy'r adeg: 'Mae neiniau a theidiau'n aml yn ofnus a dydyn nhw ddim yn gwybod yn hollol sut i helpu na sut i gymryd eu tynnu i mewn.' 'Weithie mae hi'n haws cadw draw, ond os ydych chi'n hyblyg ac yn barod i feddwl o gwmpas y sefyllfa, falle y bydde 'na rywbeth y gallech chi'i neud fydde'n gneud bywyd yn haws.' 'Weithie, y pethe bach sy'n bwysig.' Syniadau i neiniau a theidiau gan neiniau a theidiau
Problemau gyda 'Nain' ('Mam-gu')!Meddai un fam: 'Dydw i ddim yn ei thrystio hi (nain/mam-gu). Dw i'n teimlo'n ddrwg yn deud hyn'na. Ddwedodd hi ddim wrthon ni am gwymp ein merch y tro dwetha. Mae hi'n rhoi da-da iddyn nhw ac mae hi'n rhoi popeth na ddyle hi eu cael iddi.'Fe ddywedodd rhieni eraill fod oedolion nad oedd yn gwybod sut i fynegi eu pryder, weithiau, yn boddi'r plant ag arthritis â melysion a danteithion. Roedd rhai oedolion yn trin y plentyn yn wahanol i'w sibliaid iach. Yn gyffredinol, roedd teuluoedd eisiau i bawb drin y plant yr un fath yn hytrach nag 'fel petai hi'n rhywbeth brau iawn.' [1] Eiser C. (1993) Growing up with a chronic disease: the impact on children and their families. London: Jessica Kingsley Publishers Ltd. |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |