| |
|
Meddai rhiant arall: 'Does neb yna i ni o gwbwl. Rydyn ni'n teimlo ei bod bron fel byw ar ynys.' Cyflwyniad i ymchwil diweddar ar deuluoeddUn o'r pethau mwyaf cyffredin y mae teuluoedd yn ei ddweud yw nad oedden nhw erioed wedi sylweddoli bod plant yn cael arthritis, a nawr bod arthritis ar eu plentyn nhw, maen nhw'n teimlo wedi'u gwahanu oddi wrth deulu a ffrindiau tra mae'r gweithwyr proffesiynol 'wedi'u gadael i gario ymlaen.' Os dyma'ch sefyllfa chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun; mae miloedd o deuluoedd eraill yn mynd trwy'r un profiad. Mae'r rhain yn cynnwys teuluoedd plant ag arthritis a theuluoedd plant ag afiechydon neu anabledd tymor hir eraill. Pan ydych chi'n darllen am deimladau teuluoedd eraill, a'r hyn yr aethon nhw drwyddo, fe fyddwch yn deall yn well nad ydych chi ar eich pen eich hun. Fe all ymateb eich teulu chi i arthritis a'ch sefyllfa fod yn unigryw, ond fe fydd yn cynnwys elfennau pwysig sy'n gyffredin i filoedd o deuluoedd eraill. Os ydych chi'n rhiant plentyn ag arthritis, neu'n nain/taid (mam-gu/tad-cu), ffrind, perthynas neu weithiwr proffesiynol fe fydd yn help i chi ddeall y teulu cyfan os darllenwch beth ddywedodd gwahanol aelodau teuluoedd. Fe welson ni nad oedd aelodau'r teulu ddim yn trafod eu teimladau gyda'i gilydd, hyd yn oed pan oedden nhw'n dorcalonnus, am nad oedd arnyn nhw eisiau gofidio'r naill a'r llall. Er bod yr awydd i ddiogelu'r naill a'r llall yn ddealladwy, fe allai ychwanegu at yr unigrwydd y mae pob person yn ei deimlo. Beth yw'r ateb? Fe all rhan ohono ddechrau gyda bod yn barod i rannu'ch meddyliau a'ch teimladau. Fe all profiadau'r teuluoedd sy'n cael eu disgrifio yn y bennod hon fod yn fan cychwyn deall sut mae aelodau eraill y teulu'n teimlo ac yn gatalydd i drafodaeth i bwrpas yn eich cartref neu yn y gwaith. Pan na fedr neiniau a theidiau (mamau-cu a thadau-cu) a pherthnasau eraill helpuAll llawer teulu ddim gofyn i neiniau a theidiau nac i aelodau eraill o'r teulu helpu, neu wedi iddyn nhw ofyn chân nhw fawr o help. Mae'n bosibl fod amrywiaeth eang o resymau am hyn ond fe all y canlyniad wneud i'r teuluoedd hynny deimlo'n fwy unig ac yn fwy ar wahân. Yn yr achosion hyn, mae'n arbennig o bwysig meithrin rhwydwaith o ffrindiau, cymdogion a chynorthwywyr proffesiynol. Fe all fod yn boenus iawn i rieni pan fydd aelodau eraill o'r teulu'n ymddangos yn amharod i helpu neu yn anabl i ddweud eu bod yn barod i wneud. Fodd bynnag, mewn llawer o deuluoedd, dyw perthnasau ddim yn sylweddoli pwysau mor drwm yw gofalu am blentyn ag arthritis. Weithiau dyw ffrindiau a pherthnasau ddim yn gwybod sut gall eu help nhw wneud gwahaniaeth felly dydyn nhw ddim yn ymuno i helpu. Yn lle hynny, maen nhw'n mynd ymlaen i fyw eu bywydau prysur eu hunain. Mae'r cam cyntaf yn dibynnu ar deulu'r plentyn ag arthritis. Ydych chi wedi egluro'n llawn sut mae pethau i chi ac ydych chi wedi gofyn am help neu gefnogaeth benodol? Falle'ch bod chi'n meddwl i chi egluro, ond rydych chi wedi'u harbed rhag yr agweddau gwaethaf i'r graddau nad ydyn nhw wedi deall pam mae arnoch chi angen help. Falle'u bod nhw'n deall, ond yn ofni helpu neu ddim yn gwybod sut i helpu, ac yn lle hynny maen nhw'n troi at eu busnes eu hunain, hyd yn oed yn disgwyl i chi eu cefnogi nhw. Ar wefan www.kidswitharthritis.org mae dwy erthygl am brofiad un teulu. Mae llawer teulu wedi rhoi'r rhain i'w teulu a'u ffrindiau ac wedi gweld bod y deunydd yn agor llygaid pobl i fywyd bob dydd teulu yn gofalu am blentyn ag arthritis. Ceisiwch ddefnyddio'r deunydd hwn gyda'ch perthnasau, neu ysgrifennwch eich disgrifiad eich hun. Os gwelwch chi eu bod yn dal i ddewis peidio â chefnogi, mae gennych ddau ddewis: gallwch un ai faddau iddyn nhw a gobeithio y byddan nhw'n newid eu meddwl, neu gallwch fynd yn chwerw ac yn ddig. Mae'r ddau ddewis yn golygu ymdrech emosiynol, ond un yn unig sy'n adeiladol. |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |