Lwfans Gofalwr

Beth yw?

Os yw'ch plentyn yn derbyn DLA ar gyfer gofal personol ar y raddfa ganol neu uwch falle gallwch chi hawlio Lwfans Gofalwr. Arian wythnosol yw hwn i unrhyw un sy'n treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl. Os ydych chi'n gweithio yn llawn amser a rhywun arall yn gofalu am eich plentyn fe allan nhw hawlio'r budd-dal yn eich lle. Mae'r Lwfans Gofalwr yn drethadwy, ond fe allwch ennill hyd at £82.00 yr wythnos a dal i'w hawlio.

Mae'n werth gwneud cais am Lwfans Gofalwr hyd yn oed os ydych chi ar Ategiad Incwm, oherwydd er ei fod yn cael ei dynnu o'ch Ategiad Incwm, mae ei hawlio yn diogelu'ch pensiwn ac yn eich gwneud yn gymwys i dderbyn Premiwn Gofalydd, a fydd yn cynyddu cyfanswm y budd-dal. Falle gallwch chi hefyd hawlio Premiwm Plentyn Anabl os yw'ch plentyn yn cael DLA.

Sut i'w gael?

Gofynnwch am ffurflen o'ch Swyddfa Budd-daliadau leol (Adran Busnes a Gwasanaethau yn eich llyfr ffôn lleol) neu gan Linell Ymholiadau Budd-daliadau. Ffôn 0800 882200 txtffôn 0800 243355 www.dwp.gov.uk

Family Fund Trust

Beth yw?

Pwrpas y Family Fund Trust yw lleddfu'r straen ar deuluoedd sy'n gofalu am blant dan 16 sydd ag anabledd difrifol, trwy ddarparu grantiau a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gofalu am y plentyn. Mudiad annibynnol wedi'i gofrestru fel elusen yw'r Ymddiriedolaeth ac yn cael ei ariannu gan weinyddiaethau llywodraeth Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Mae'r Ymddiriedolaeth ar gyfer teuluoedd incwm isel (£23,000 yn Ionawr 2005, ond mae hwn yn cael ei adolygu yn Ebrill bob blwyddyn).

Mae grantiau sy'n cael eu rhoi yn cynnwys peiriannau golchi, gwyliau, gweithgareddau hamdden, gwersi gyrru, dillad gwely, dillad ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig â gofalu am y plentyn. Fe gewch ragor o fanylion am ganllawiau anabledd ac ariannol yr Ymddiriedolaeth gan Swyddog Hysbysrwydd yr Ymddiriedolaeth. Fe ddylech wneud cais ar bapur gan roi enw llawn a dyddiad geni eich plentyn, eich enw a'ch cyfeiriad chi, manylion byr am anabledd eich plentyn a'r math o gymorth y mae arnoch ei angen.

Sut mae cael help?

Mae'r Family Fund yn cynhyrchu pamffled yn cynnwys y manylion diweddaraf ar sut i wneud cais, a phwy sy'n debyg o fod yn gymwys i gael arian. Falle hoffech ofyn i'ch ymwelydd iechyd neu weithiwr proffesiynol arall 'sgrifennu llythyr yn cefnogi eich cais. Fe fydd angen i chi roi'r manylion am eich plentyn ac egluro pam ydych chi angen yr eitem/gweithgaredd i wella'r gofal i'r plentyn. Fe fydd raid i chi hefyd ddarparu rhai manylion am eich incwm a'ch cynilion.

Pan dderbynian nhw eich ffurflen gais, falle byddan nhw'n anfon ymwelydd atoch yn fuan, i'ch helpu i wneud cais brys llawn neu fe fyddan nhw'n cysylltu â'r gweithwyr proffesiynol a enwoch chi yn gyntaf, ac yna'n anfon ymwelydd i'ch helpu gyda'ch cais. Fe ddylai gymryd rhwng chwech ac wyth wythnos wedi i chi wneud cais iddyn nhw wneud eu penderfyniad. Fe fydd ceisiadau dilynol oddi wrthych yn cael eu trin yn gynt.

Sut i gysylltu â nhw
Cysylltwch â : The Family Fund Trust
P.O. Box 50
York
YO1 9ZX
Ffôn: 0845 130 4542
Ebost: info@familyfundtrust.org.uk
www.familyfundtrust.org.uk

Mae The Lady Hoare Trust wedi cyfuno â Contact a Family

Contact a Family - mudiad elusennol wedi'i hen sefydlu sy'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion pwysig i deuluoedd plant â gwahanol anghenion arbennig. Yn darparu cyngor a gwybodaeth, a chyhoeddi cyfeirlyfr o grwpiau cefnogi cenedlaethol a lleol. Yn cysylltu rhieni plant sy'n dioddef afiechydon prin iawn â'i gilydd. Cylchgrawn chwarterol da iawn Share an Idea. Taflenni ffeithiau'n cynnwys Transition, A Guide for Students and Professional workers, Siblings, Grandparents a llawer eraill.

Cysylltwch â: 209-211 City Road,
London,
EC4 1JN
www.cafamily.org.uk
Llinell Gymorth i rieni: 0808 808 3555

0808 808 3555
(10 yb - 4 yp, Llun i Gwener)
Llinell Wybodaeth: 020 7608 8700

Y Gronfa Gymdeithasol (Social Fund)

Os ydych chi ar Ategiad Incwm, falle gallwch chi gael benthyciad neu grant at gost eitem benodol o offer ty neu ddodrefn. Yn ymarferol, mae'n ymddangos yn galed iawn i gael arian o'r Gronfa Gymdeithasol, ac mae cadw at ad-daliadau o incwm isel yn gallu bod yn anodd. Holwch am fwy o wybodaeth gan eich Swyddfa Budd-daliadau leol neu ganolfan gynghori leol.

Treth y Cyngor - gostyngiad i bobl ag anableddau

Beth yw?

Os bu raid i chi addasu'ch cartref yn arbennig ar gyfer eich plentyn anabl, fe allai bil treth y cyngor gael ei ostwng i fand ty un yn is na'ch ty chi. Os yw'ch ty yn y band isaf yn barod (band A) fyddwch chi ddim yn gymwys. Y math o addasiadau fyddai'n gwneud y gwahaniaeth yw:

  1. lle ychwanegol ar gyfer defnyddio cadair olwyn y tu mewn (lledu drysau, symud muriau gwahanu, rampiau).
  2. ystafell ychwanegol i gwrdd ag anghenion arbennig (e.e., ystafell ymolchi/ty bach i lawr grisiau).

Sut i'w gael?

Ffoniwch eich swyddfa Treth Gyngor leol a gofynnwch a ydych chi'n gymwys.

Costau teithio i ysbyty

Fe allwch gael help i dalu costau teithio i ysbyty os ydych chi ar Ategiad Incwm neu Gredyd Teulu, neu weithiau os yw'ch incwm yn isel iawn ac os yw'r apwyntiad yn rhan bwysig o driniaeth eich plentyn. Mae staff sy'n trin materion ad-dalu yn y fan a'r lle yn y rhan fwyaf o'r ysbytai, felly holwch y derbynnydd yn y clinig neu ysgrifennydd yr ymgynghorydd ble yn yr ysbyty y dylech chi fynd. Mae hyn yn cynnwys teithiau i ysbytai arbenigol ymhell o'ch cartref, felly gofynnwch i ymgynghorydd eich plentyn ysgrifennu i'r Awdurdod Iechyd i ddweud bod angen i chi fynd i'r apwyntiad hwnnw ac y dylech gael ad-daliad o'r costau teithio.

'Bob wythnos roedd raid i ni fynd i Rydychen ac roedden nhw'n dweud 'Ydych chi angen help i dalu'r costau teithio?' ac roedden ni'n dweud 'Na, mae popeth yn iawn.' Doeddwn i ddim yn meddwl am y peth a dweud y gwir, ond ar ôl ychydig mae'n dod yn swm mawr o arian. Felly nawr rydw i'n hawlio'r arian, ac yn ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall sydd ei angen arni.'

Working Families (Parents at Work gynt)

Nod y mudiad hwn yw rhoi gwybodaeth, cefnogi ac ymgyrchu ar ran rhieni plant anabl sy'n dymuno/gorfod gweithio. Ymhlith eu taflenni ffeithiau mae: Gweithio Hyblyg, Credyd Treth Teuluoedd sy'n Gweithio, Taflenni Ffeithiau i Dadau, Budd-daliadau a Chredyd Treth i Deuluoedd â Phlant Anabl. 'Waving not drowning' - canllaw ar gael am £9.00 (£2.99 i rieni, cludiant am ddim)

Cysylltwch â: Working Families
1-3 Berry Street,
London
EC1C 0AA
Ffôn: 020 7253 7243
Taflenni ffeithiau rhad: 020 7628 3578
(Llinell ateb 24 awr)
www.workingfamilies.org.uk

Disability Alliance

Mae'r mudiad hwn yn cyhoeddi llyfrau trylwyr, manwl cyfamserol am fudd-daliadau, darpariaeth gymdeithasol a chyfreithiol ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr. Fe gaiff y llawlyfr ei ddiweddaru'n gyson. Mae'r argraffiad diweddaraf ar gyfer 2004-2005 o Disability Rights Handbook (30th Edition), yn costio £16.50 (£11.00 os yw'ch plentyn yn derbyn budd-daliadau'n barod).

Cysylltwch â: Disability Alliance
Universal House,
88-94 Wentworth Street,
London E1 7SA
Ffôn: 020 7247 8776
www.disabilityalliance.org

Eithrio o dalu treth cerbyd

Falle'ch bod chi'n gymwys i hawlio cael eich eithrio o dalu treth cerbyd blynyddol os yw'ch plentyn dros 5 oed, yn derbyn y raddfa uchaf o'r adran Symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl, a'ch bod yn cofrestru'r cerbyd ar y cyd yn enw'ch plentyn a'ch enw chi'ch hun. Fe allai hyn arbed hyd at £165.00 y flwyddyn i chi (2004). Rhaid i chi gael y dystysgrif wedi'i stampio yn yr Adran Drafnidiaeth leol bob blwyddyn.

Cysylltwch â: Disability & Carers Benefit Directorate,
Disability Living Allowance Unit,
Warbreck House, Warbreck Hill,
Blackpool, FY2 0YE
Ffôn: 0845 123456