| |
|
Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)Beth yw? Er mwyn bod yn gymwys i gael DLA, rhaid i'r plentyn (o ganlyniad i'r afiechyd neu anabledd) fod angen gofal, neu sylw ac arolygaeth sylweddol dros ben beth mae plentyn o'r un oed ei angen fel arfer. Mae plant ag arthritis yn aml angen therapi dyddiol ac arolygaeth gartref neu yn yr ysgol a mannau eraill, ac yn aml angen help i wneud pethau nad oes ar blant eraill ei angen. Mae'r budd-dal yn cynnwys dwy ran: elfen gofal ynglyn â gofal personol, ac adran sy'n ystyried gallu'r plentyn i symud o gwmpas (yr elfen symudedd). Yn achos plant ag arthritis y rhan anoddaf i'w hystyried yw bod y cyflwr yn newid o hyd, a bod y plant yn ymddangos yn well ar rai dyddiau, ond ar ddyddiau eraill mae arnyn nhw angen help sylweddol. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl eraill sy'n gwneud cais am DLA yn dioddef afiechydon ac anghenion nad ydyn nhw'n newid rhyw lawer. Mae'r ffurflen gais yn rhoi cyfle i chi egluro'r natur gyfnewidiol hon ond mae'n gofyn ymdrech sylweddol ar ran y rhieni i'w llenwi. Fe ddylai'r cyfarwyddyd yn y bennod hon eich helpu i egluro'r cyfnewidiadau i'r person fydd yn asesu'ch cais. Rhaid i bob un sy'n gwneud cais:
Mae DLA yn ymwneud ag angen plentyn unigol a'r modd mae'r cyflwr yn effeithio arni. Dyw incwm y teulu na'u hamgylchiadau byw ddim i'w hystyried yn yr asesiad. Yr elfen gofal yn y Lwfans Byw i'r AnablMae hwn yn cael ei dalu ar dair graddfa wahanol (isaf, canol ac uchaf [2]), a hynny bob pedair wythnos i gyfrif cymdeithas adeiladu neu fanc. Mae'r raddfa sy'n cael ei chaniatáu yn gysylltiedig ag anghenion y plentyn fel rydych chi wedi'u disgrifio nhw ar y ffurflen gais ac mewn tystiolaeth ategol gan bobl rydych chi wedi'u henwi fel rhai cyfarwydd â'r sefyllfa. Fe gaiff y term 'mewn cysylltiad â gweithgareddau'r corff' ei ddefnyddio ar y ffurflenni ac mae'n cynnwys:
Mae'r ymadrodd 'rhaid i'r plentyn fod angen arolygaeth gyson drwy'r dydd' yn golygu bod raid cael sylw oedolyn yn barhaol rhag iddi niweidio'i hunan neu i ragweld problemau a gweithredu i'w rhwystro rhag digwydd. Yn achos plant ag arthritis, rhaid i'r rhieni fod yn ofalus dros ben pan fydd y plentyn yng nghwmni plant eraill (e.e., mewn parti pen-blwydd neu ddigwyddiadau yn yr ysgol neu mewn parc chwarae), er mwyn cadw'r plentyn rhag gwneud pethau fydd yn achosi problemau'n ddiweddarach. Mae gweithgareddau fel defnyddio castell bownsio, pyllau peli, trampolinau a sgetio yn aml yn rhai sy'n cael eu nodi fel rhai sy'n achosi pryder arbennig i rieni a phlant. Fe all plant ag arthritis, fel oedolion ag arthritis, golli golwg ar eu symptomau corfforol pan fyddan nhw'n eu mwynhau eu hunain ac yn ceisio ffitio i mewn gyda ffrindiau a sibliaid. Fe fydd y plentyn yn aml, yn arbennig plentyn ifanc ag arthritis, yn cymryd rhan yn frwdfrydig iawn, ond ymhen rhai oriau fe fyddan nhw'n dioddef llid yn y cymalau, stiffrwydd a disymudedd. Gan y rhieni mae'r gwaith annymunol o annog y plentyn i dynnu'n ôl a rhoi cynnig ar rywbeth llai niweidiol. Rhowch enghreifftiau o'r ymyriadau hyn a'r rhesymau dros wyliadwriaeth y rhieni ar y ffurflen gais. Mae'r ymadrodd 'yn ystod y nos rhaid i berson arall fod yn effro am gyfnod hir neu ar ysbeidiau aml trwy'r nos' fel arfer yn cyfeirio at yr amser rhwng 10 yh a chodiad haul, ac mae 'cyfnod hir' yn golygu 20 munud o leiaf. Ystyr 'aml' yw o leiaf dair gwaith, y rhan fwyaf o nosweithiau'r wythnos. Mae anghenion yn ystod y nos yn cynnwys gorfod bod yn effro heb i chi fedru rhagweld hynny, help i fynd i'r ty bach, rhoi moddion, ymdopi â thwymyn nos. Pan fydd raid i blant wisgo sblintiau dros nos fe allan nhw fod angen mwy o help yn cynnwys help i'w codi ac i ddefnyddio'r ty bach, i'w troi yn y gwely, a'u tynnu'n rhydd o'r dillad gwely! Yr elfen symudedd yn y Lwfans Byw i'r AnablMae hwn yn cael ei dalu bob pedair wythnos ar un o ddwy raddfa (yr isaf neu'r uchaf), yn dibynnu ar beth gafodd eu nodi fel anghenion y plentyn. (Ar adeg ysgrifennu, mae'r elfen symudedd o'r DLA yn £14.05 neu £37.00 yr wythnos). I gael y swm uchaf fe ddylai'r plentyn fod (a) yn anabl i gerdded neu (b) bron â bod yn anabl i gerdded, neu (c) bod yr ymdrech i gerdded yn achosi poen sylweddol, neu ddirywiad difrifol yn eu cyflwr. Falle gall plant ag arthritis gerdded yn ofalus iawn am bellter arbennig, ond o'u cymharu â'u cyfoedion:
Cael eich gwrthodOs caiff eich cais am DLA ei wrthod, neu eich bod yn credu y dylech gael eich talu ar raddfa uwch nag y maen nhw'n barod i'w chynnig i chi, mae gennych hawl i ofyn i swyddog arall ailystyried y penderfyniad. Mae'n bwysig ceisio cyngor cyn gwneud dim. Os metha'r cam hwn, fe allwch ddal i wneud apêl i dribiwnlys annibynnol. Mae pen draw i ailystyried ac apelio, felly ceisiwch gyngor gynted â phosibl. Fe fedrwch chi hefyd ofyn am ailystyriaeth os yw'ch plentyn yn derbyn budd-dal ar raddfa is, a bod eu cyflwr yn newid a'u bod angen rhagor o help. Gwirio'r Realaeth! Pan fyddwch chi wedi ymdrechu ar eich pen eich hun am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd, ac o'r diwedd wedi gwneud cais am fudd-dal y credwch eich bod yn gymwys i'w gael, fe all cael eich gwrthod fod yn ddifaol. Fe all pobl deimlo'n ddig iawn, yn rhwystredig iawn ac yn unig iawn, ac mae llawer o bobl yn rhoi'r gorau i geisio cymorth ariannol yr adeg hon. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o geisiadau y gofynnwyd am iddyn nhw gael eu hailystyried yn cael eu caniatáu maes o law. Falle bydd angen i chi gael rhagor o adroddiadau gan weithwyr proffesiynol yn rhestru'r anawsterau y mae'r plentyn yn gorfod ymdopi â nhw. Mae nifer sylweddol o geisiadau hefyd yn cael eu gwyrdroi ar apêl, felly daliwch ati, ceisiwch help gan rywun sy'n gyfarwydd â'r ffurflenni a'r broses, a pheidiwch ag ildio. |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |