Materion ariannol

Cyflwyniad

Fel pob rhieni, mae rhieni plant ag arthritis eisiau darparu eitemau bob dydd neu weithgareddau i'w plant eu mwynhau. Pan fydd plentyn ag arthritis yn eithaf iach, mae costau byw bob dydd yn ymddangos yn debyg i rai plant iach eraill, ond pan fydd y clefyd yn ailafael yn ddifrifol, neu'n dechrau dangos arwyddion problemau parhaus yn y cyhyrau, mae'r costau cudd yn cynyddu. Mae costau hefyd am na all y plentyn ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mor aml, neu gyfleusterau hamdden rhad, fel parciau chwarae a mynd am dro yn y wlad. Mae mynd i'r clinigau ac apwyntiadau niferus hefyd yn ychwanegu at y costau i'r teulu, mewn amser i ffwrdd o'r gwaith i'r rhieni, a chostau teithio. Mae'r gwaith ychwanegol o fod yn ofalwr yn gallu rhwystro rhiant rhag dychwelyd i'r gwaith, neu weithio cymaint o oriau â rhieni plentyn iach.

Am y rhesymau hyn, ar gyfartaledd, mae incwm teuluoedd ymhlith 'teuluoedd anghenion arbennig' yn is. Yn 1998 [1], roedd ymchwilwyr yn amcangyfrif bod gofalu am blentyn ag anabledd yn y Deyrnas Unedig yn costio tua £7,355 y flwyddyn - o leiaf dair gwaith cost magu plentyn heb anabledd.

Mae llawer teulu yn dal i ymdrechu heb help am nad ydyn nhw'n ymwybodol fod peth cymorth ariannol ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o blant ag arthritis parhaol. Yn y Deyrnas Unedig, mae system o help ariannol i blant a theuluoedd trwy'r Budd-daliadau Anabledd sy'n amcanu helpu teuluoedd i gwrdd â rhai o'r costau hyn, heb gymryd incwm y teulu i ystyriaeth. Os yw plentyn angen lefel uchel o ofal personol, fe all fod yn gymwys i gael yr elfen gofal. Os yw plentyn angen help i fynd o gwmpas, gall fod yn gymwys i gael yr elfen symudedd. Mae lwfansau eraill ar gael yn dibynnu a yw'r teulu'n derbyn budd-daliadau eraill ai peidio.

'Yr unig beth gawn ni ydi Lwfans Byw i'r Anabl ond doedden ni ddim yn gwybod ein bod ni'n gymwys i'w hawlio nes bod y clefyd wedi bod arni am flwyddyn, felly fe gollon ni flwyddyn gyfan'.

Cyngor cyffredinol ar lenwi ffurflenni

Fe all siarad â rhywun am sialens byw bywyd bob dydd fod yn anodd yn aml, ac yn fwy felly wrth siarad â dieithryn, yn arbennig os oes angen iddo fod ar bapur ac ar ffurflen ailadroddus faith. I rieni mae hefyd yn ddigalon am eich bod yn gorfod disgrifio pob problem sy'n wynebu'ch plentyn. Mae llawer o'r cwestiynau ar y ffurflenni'n gofyn i chi ailadrodd gwybodaeth sawl gwaith. Fe gymer oriau i lenwi'r ffurflen, ond fe fydd y cymorth ariannol yn helpu'ch plentyn am fisoedd, os nad blynyddoedd i ddod. Ceisiwch gael rhywun i'ch helpu i lenwi'r ffurflenni hyn.

'Fe ddois i mor gyfarwydd â'i helpu hi, nes anghofio bod plant eraill o'i hoed yn medru gwneud y pethau 'ma drostyn nhw'u hunain'.

Sut i lenwi ffurflenni

  • Byddwch yn onest ynghylch anabledd ac anghenion eich plentyn.
  • Eglurwch yn union sut mae'ch plentyn yn ymdopi - dywedwch beth sy'n digwydd.
  • Cymharwch â phlant o'r un oed.
  • Rhowch enghreifftiau i egluro beth sy'n digwydd neu beth fyddai'n digwydd pe na baech chi'n ymyrryd.
  • Darllenwch y ffurflen gyfan yn gyntaf i gael syniad o'r pynciau y byddan nhw'n holi amdanyn nhw.
  • Gofynnwch i ffrind, neu gynghorydd profiadol eich helpu.
  • Pan fydd angen, cynhwyswch wybodaeth ychwanegol ar y dudalen berthnasol - all e ddim mynd ar goll fel tudalennau ychwanegol!
  • Gwnewch gopi o bob ffurflen neu lythyr a ysgrifennwch a'u cadw nhw gyda'i gilydd mewn ffeil wedi'i labelu. Fe fydd arnoch angen cyfeirio at beth ydych chi wedi'i ysgrifennu.
  • Os aiff hi i'r wal arnoch chi - ffoniwch y Llinell Gymorth Budd-daliadau gyfrinachol - BEL - 0800 88 22 00 am gyngor neu eich Parent Link Project lleol.
  • Mae offer yn cynnwys sbectol, comodau, rheiliau ochr gwely, bygi mawr, cymorthion cerdded, paciau poeth, ac ati.
  • Mae'n bwysig iawn disgrifio'r dyddiau pan fydd y plentyn angen llawer o help a dweud sawl diwrnod dros yr wythnos neu fis diwethaf y bu hi fel hyn.

Sylwch

Fe fydd gofyn i chi enwi rhywun sy'n adnabod y plentyn ac a fedr gefnogi'ch cais. Dewiswch rywun sy'n gwybod am y sefyllfa ddiweddaraf ac a fydd yn ateb ymholiadau o'r swyddfa fudd-daliadau yn fuan. Nid ymgynghorwyr prysur yw'r bobl orau bob amser i wneud hyn. Cofiwch, fe all gymryd hyd at wyth awr i lenwi ffurflen gyfan, ond os cewch y budd-dal, fe fydd yn parhau am flynyddoedd.

Adroddiadau gan Weithwyr Proffesiynol a deunydd cefnogol arall

Mae'n bwysig cynnwys adroddiadau gan weithwyr proffesiynol sy'n adnabod eich plentyn ac sy'n gallu cyflwyno'u hasesiad o'i hanghenion. Pan ydych chi'n gweld y gweithiwr proffesiynol yn gyson, gofynnwch iddo/iddi ysgrifennu crynodeb o anghenion/anawsterau gweithredu eich plentyn (a rhowch nodyn iddyn nhw i'w hatgoffa beth yw'r pwrpas ac amlen â stamp arni wedi'i chyfeirio atoch chi). Fe fydd rhai gweithwyr proffesiynol yn dal i feddwl bod cadarnhau'r diagnosis a'r dos cyffuriau yn ddigon - pan nad yw.