| |
|
Paratoi ar gyfer mynd i'r ysgol uwchradd (11-18 oed)Fe gafodd rhaglen genedlaethol i ddatblygu canllawiau a gwasnaethau ar gyfer pobl ifanc ag arthritis ei lansio'n ddiweddar. Fe gyhoeddwyd llyfr gwybodaeth newydd yn ddiweddar. CHAT 2 yw'r teitl a gallwch ei gael am ddim un ai gan Arthritis Care neu Children's Chronic Arthritis Association (Edrychwch ar Bennod 17, Ffynonellau Cymorth, am gyfeiriadau) Mae'r ysgol uwchradd yn cynnig cyfleoedd a sialensiau newydd i bob plentyn ac mae angen i blant ag arthritis, eu rhieni a thîm yr ysgol baratoi'n ofalus ar gyfer symud y person ifanc i'r ysgol uwchradd. Mae bod â datganiad AAA yn barod yn fantais sylweddol pan ydych chi'n siarad â staff yr ysgol newydd ynghylch sut gallan nhw helpu'ch plentyn. Mae helpu'r person ifanc i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u dewisiadau mewn bywyd yn rhan o'u gweld yn tyfu. Pan fydd arthritis ar y person ifanc a'i bod angen help ymarferol i wneud pethau cyffredin yna fe all y daith at annibyniaeth fod yn feithach a mwy cymhleth. Yn gyffredinol, mae rhieni'n helpu eu plant trwy roi camau bychain tuag at eu hannibyniaeth iddyn nhw, ac yn arbennig trwy eu hannog i wneud eu penderfyniadau a'u dewisiadau eu hunain. Mae problemau ymarferol cyffredin yn cynnwys gorfod cario llyfrau trwm i wahanol ddosbarthiadau, gorfod cael cyfrifiadur pen-glin personol i'w ddefnyddio yn y gwahanol ystafelloedd dosbarth, cerdded rhwng gwahanol ddosbarthiadau, a dilyn ymarferion ffisiotherapi dyddiol. Cael plant i gymryd rhan yn yr adolygiad blynyddol o'u cynnyddMae'r Cod Ymarfer newydd yn argymell bod plant yn cymryd rhan weithredol yn yr adolygiad blynyddol o'u cynnydd. Mae gan wahanol ysgolion bolisïau gwahanol yn hyn o beth. Os ydych chi am i'ch plentyn gymryd rhan weithredol, falle bydd arni angen cefnogaeth ychwanegol i wneud hynny. Trafodwch hyn gyda'r Cydlynydd AAA gynted â phosibl. |
| disclaimer | © 2003 Kids with Arthritis | a registered charity 1109407 | info@kidswitharthritis.org |