Awgrymiadau rhieni ar holi am gymorth ychwanegol yn yr ysgol

Os ydych chi'n amau fod ar eich plentyn angen help ychwanegol o unrhyw fath yn yr ysgol ewch i weld y Pennaeth a gofynnwch am iddi gael ei hasesu. Mae hon yn broses ffurfiol ac fe ysgrifennodd un rhiant y cyflwyniad a'r cyngor ardderchog hwn:

Annwyl Riant

Yn y pen draw, mae pob un ohonon ni eisiau'r addysg orau i'n plant. Rydyn ni newydd fod drwyddo - edrychwch arno fel sialens ac fe ddowch allan yn teimlo eich bod wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth. Ond peidiwch â disgwyl iddo ddigwydd dros nos - mae'n cymryd amser, egni ac ymdrech yn arbennig ar eich rhan chi, y rhiant. Po fwyaf gwybodus ydych chi a pho fwyaf o ran a gymerwch yn y broses, mwyaf hyderus fyddwch chi'n trin y sefyllfa. Dyma rai awgrymiadau:

  • Mabwysiadwch agwedd bositif!
  • Byddwch yn gadarn
  • Byddwch yn deg
  • Byddwch yn glir
  • Byddwch yn gryno
  • Byddwch yn gwrtais a diolchgar am amser, ymdrech a chymorth pobl eraill
  • Peidiwch ag anghofio mai chi sy'n adnabod eich plentyn orau a bod angen i chi gymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau yn ei chylch
  • Cadwch gofnod o enw'r person, dyddiad yr alwad a nodiadau byr o beth gafodd ei ddweud
  • Gofynnwch am gadarnhad ar bapur pan gaiff rhywbeth ei ddweud wrthych chi ar y ffôn.
  • Gofynnwch i rieni eraill am gyngor a help.
  • Ceisiwch lwythi o gyngor - peidiwch ag ofni gofyn, gofyn, gofyn.
  • Gweithiwch gymaint ag a fedrwch gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n delio â'ch plentyn. Peidiwch â'u hofni - pobl normal ydyn nhw, nid rhai i'w hosgoi - ond falle bydd angen eu hatgoffa mor daer yw anghenion addysgol eich plentyn.