Beth i'w ddisgwyl gan yr ysgol?

Ar gyfer rhieni, fe ddylai'r ysgol:

  • Roi enw'r athro/athrawes sydd yn gyfrifol am blant ag anghenion addysgol arbennig (Cydlynydd AAA)
  • Egluro sut mae hi'n penderfynu pa blant sydd angen help a sut caiff ei roi.
  • Egluro sut bydd hi'n gweithio'n glós gyda rhieni.
  • Trwy ei byrddau llywodraethwyr, lunio a chyhoeddi polisi anghenion arbennig ac adrodd yn flynyddol i rieni ar ei weithredu.
  • Cyhoeddi gwybodaeth am fynediad i adeilad yr ysgol ar gyfer plant â phroblemau symudedd.

Awgrymiadau rhieni ar ganfod gwybodaeth am ysgol newydd

  • Gwnewch apwyntiad i siarad â'r Pennaeth. Ceisiwch gael syniad o agwedd gyffredinol yr ysgol at blant ag anghenion arbennig, ac yn fwy penodol eich plentyn chi. Ydych chi'n cytuno ag amcanion cyffredinol, gwerthoedd ac ymarfer yr ysgol hon?
  • Edrychwch ar bolisi 'anghenion addysgol arbennig' yr ysgol. Gofynnwch am gael copi i fynd gyda chi adref i'w astudio yn eich amser eich hun.
  • Ewch i gyfarfod â'r Cydlynydd AAA; dyma'r person sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig ac yn cymryd cyfrifoldeb am gydlynu cefnogaeth ychwanegol i blant. Holwch faint o amser rhydd o ddysgu sydd ganddo/ganddi i'w roi i blant ag anghenion arbennig.
  • Holwch pa adnoddau sydd gan yr ysgol ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol (fel cymorth atodol, athrawon i gefnogi'r dysgu ac arbenigwyr sy'n ymweld). Mae'r awdurdod addysg yn rhoi arian ychwanegol i roi help i blant ag anghenion arbennig. Gofynnwch i'r ysgol pa gefnogaeth y medr hi ei gynnig i'ch plentyn chi.
  • Fe all ffonio llywodraethwr yr ysgol sy'n gyfrifol am fonitro materion anghenion arbennig fod yn help. Fe ddylai'r ysgol roi rhif ffôn y person yma i chi.
  • Meddai un rhiant "Roeddwn i wedi cymryd ata'n lân, roedd yn gymaint o newid o'r hyn roedden ni wedi'i ddychmygu ar ei chyfer. Ond unwaith i ni gyrraedd yno a mynd o gwmpas gyda'r staff, roedden nhw mor drylwyr yn canfod beth fyddai'n ei siwtio hi...roedden nhw'n wych ac fe ddaeth hi yn ei blaen."

    Cod Ymarfer

    Ers Deddf Addysg 1994, mae'r ddeddf yn dweud bod gan blentyn anghenion addysgol arbennig os oes ganddo/ganddi anawsterau dysgu oherwydd problemau meddygol neu rai iechyd, anabledd corfforol, problemau emosiynol ac ymddygiad neu broblemau eraill ac felly angen help. Enw'r cymorth yw darpariaeth addysgol arbennig. Fe allai'r help fod yn amrywiol, e.e., mwy o amser unigol gan yr athro/athrawes neu'r cynorthwy-ydd, offer neu drefniadau arbennig i weddu i anghenion y plentyn unigol (e.e., amser allan o wersi i oedolyn wedi'i hyfforddi i wneud ymarferion ffisiotherapi yn yr ysgol), neu amser mewn uned arbennig. Mae gan un plentyn o bob pump ryw fath o anhawster dysgu ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol, - fe ddaw'r rhan fwyaf o blant dros yr anhawster ond fe fydd ar eraill angen help trwy'r adeg.

    Mae'r Cod Ymarfer yn darparu cyfarwyddyd gan y Cynulliad sy'n nodi pwy sy'n gyfrifol am beth, os yw rhywun yn amau bod ar blentyn angen help ychwanegol.

    Mae'r cyfarwyddyd yn rhoi gwybodaeth am dri cham gwahanol o gymorth i'ch plentyn, (Ysgol yn Gweithredu, Ysgol yn Gweithredu a Mwy, Datganiad AAA). Mae pwys mawr yn cael ei roi ar bartneriaeth â'r rhieni. Mae hefyd fanylion dull gweithredu yn dweud beth sy'n digwydd os ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r asesiad a'r penderfyniadau am eich plentyn. Fe ddylai cynnydd eich plentyn gael ei adolygu'n gyson gyda chi. Mae testun llawn y Cod Ymarfer a Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr Plant a Phobl Ifanc y gall fod ganddynt Anghenion Addysgol Arbennig ar gael yn Gymraeg ar www.dysgu.cymru.gov.uk

    (Gallwch archebu copïau o'r Adran Hyfforddiant ac Addysg: yr is-adran Cymorth Disgyblion, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3QU neu ar y rhif ffôn: 0292 082 6078/9)

    Fe fydd cyfraniad ffisiotherapydd a therapydd galwedigaethol yn help mawr i ddiffinio anawsterau eich plentyn, a'r dulliau y gallech chi a'r athro/athrawes eu defnyddio i'w helpu hi. Nodwch eich bod angen iddyn nhw asesu a oes ar eich plentyn angen datganiad AAA ai peidio.

    Fe all y gweithwyr proffesiynol hyn asesu anghenion eich plentyn yn yr ysgol ac yn y cartref, ac maen nhw'n gydweithwyr allweddol ar gyfer medru ymdopi ag arthritis plant.

    Canlyniad asesiadau

    Fe ddylai'r asesiadau ddangos yn glir beth yw natur anghenion addysgol arbennig eich plentyn a'r dull o weithredu a'r strategaeth y bydd yr ysgol yn eu defnyddio i gwrdd â'i hangen. Fe gaiff yr asesiadau eu cwblhau yn unol â'r Cod Ymarfer, sy'n broses statudol. Mae'r broses yn para wyth wythnos, ac yn ymwneud â gwahanol arbenigwyr. Mae'n ddigon cyffredin i'r broses gymryd ychydig yn rhagor o amser ond po fwyaf gwybodus a pharod ydych chi, cyflymaf a mwyaf didrafferth fydd y broses.