
|
Canfod yr ysgol iawn
Ysgolion prif ffrwd: mae'r rhan fwyaf o blant ag arthritis yn y Deyrnas Unedig nawr yn cael eu haddysg
mewn ysgolion prif ffrwd, ac mae'n bosibl helpu'r rhai sydd ag anghenion corfforol, meddygol neu
addysgol arbennig ychwanegol i gymryd rhan lawn mewn addysg. Yn ystod y degawd diwethaf fe fu
rhieni a'r llywodraeth yn pwyso'n ddygn am gael cynnwys plant cronig wael mewn addysg prif ffrwd.
Mae mwy a mwy o arbenigedd mewn ysgolion, ond ar waethaf canllawiau, mae ysgolion yn
gwahaniaethu'n fawr yn eu harbenigedd mewn integreiddio plant ag anghenion ychwanegol difrifol yn
llwyddiannus.
Ysgolion arbennig: Ysgolion arbennig yw'r rhain sy'n paratoi ar gyfer plant ag anghenion arbennig na
fedr ysgolion prif ffrwd baratoi ar eu cyfer. Yn y gorffennol, roedd darpariaeth dda ar gyfer plant ag
arthritis yn yr ysgolion hyn, ond roedden nhw wedi'u gwahanu oddi wrth eu cymunedau lleol.
Addysgu mewn ysbyty a gartref: Mae polisïau Awdurdodau Addysg Lleol ar gyfer ariannu gwersi
mewn ysbytai ac yn y cartref pan fydd plentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol yn amrywio. Fe all cael gwersi
gartref fod yn hawl gyfreithiol i addysg a falle bydd yn llwybr i edrych arno os yw'r plentyn yn rhy sâl
i fynd i'r ysgol am gyfnod hir.
Beth raid i chi ei egluro am arthritis
Mae rhai pethau i'w hystyried ynghylch eich agwedd chi at ysgolion a'u staff. Eto, fe fydd pobl yn
gyffredinol eisiau helpu ond fe fydd raid i chi esbonio'n glir beth ydych chi'n gredu sydd arnoch ei
angen, a beth yw'ch gofidiau.
Mae rhai pethau allweddol y dylech eu hegluro:-
- Fe fydd arthritis yn effeithio'n wahanol ar eich plentyn ar wahanol ddyddiau; all neb ragweld sut bydd hi yfory ond rhaid paratoi'r staff ar gyfer amrywiaeth o symptomau. Rhaid i staff wybod sut i wneud y gorau o'r dyddiau da yn ogystal â beth i'w wneud pan fydd y symptomau yn gwaethygu.
- I'r rhan fwyaf o blant ag arthritis y broblem fwyaf yw cael pobl eraill i ddeall y boen y maen nhw'n byw gyda hi, yn arbennig pan na fydd dim cliwiau amlwg, neu offer fel cadeiriau olwyn neu fframiau cerdded.
- Ymarferion ffisiotherapi dyddiol yw'r allwedd i gadw cymalau eich plentyn yn gweithio'n dda yn y tymor hir, ac fe ddylen nhw gael eu hystyried fel rhan o'r diwrnod ysgol (tua 20-40 munud). Mae'n well gwneud yr ymarferion yn ystod y dydd yn yr ysgol am fod hyn yn fwy buddiol i'r plentyn. (Edrychwch ar Bennod 8, Ymarferion, i gael cyngor manylach am drefn gyson ymarferion).
- Mae rhieni'n dweud bod plant sydd ag anabledd haws i'w weld yn cael mwy o gefnogaeth, ond mae pobl yn ddigydymdeimlad pan nad oes dim arwyddion allanol fod y plentyn mewn poen. Ambell dro mae angen i blant a staff yr ysgol weld eich plentyn yn gwisgo'i sblintiau a gwneud ei hymarferion er mwyn deall mwy am ei phrofiad hi o arthritis.
Beth raid i chi ei egluro am arthritis eich plentyn
Fe fydd yn help i'r staff os YSGRIFENNWCH yr isod iddyn nhw (cadwch y nodiadau pwysig hyn mewn
lle diogel gan y byddan nhw'n eich helpu i egluro'r sefyllfa i bobl eraill):
- Pethau y mae eich plentyn yn eu mwynhau, yn ymateb iddyn nhw neu â diddordeb arbennig ynddyn nhw (e.e., llyfrau, gwisgo'i fyny neu baentio stomplyd).
- Disgrifiwch sut mae arthritis yn effeithio arni, e.e., os bydd hi'n eistedd yn llonydd fe fydd yn mynd yn stiff, os bydd hi'n oeri fe fydd yn dioddef mwy o wayw. (Hefyd cydio mewn crayons, gwisgo, rhedeg y tu allan, ac ati).
- Pethau sy'n atal y trafferthion hyn, e.e., gwneud yn siwr nad yw hi'n eistedd mewn drafft a'i bod yn dal i symud, yn gwneud ymarferion ysgafn pan fydd hi'n dechrau teimlo'n stiff.
- Beth all gael ei wneud os bydd y problemau hyn yn codi, e.e., os bydd hi'n mynd yn stiff, ceisio'i chael i symud yn araf.
Mae plant ag arthritis yn aml yn edrych yn normal i unrhyw un sy'n edrych arnyn nhw am nad ydyn
nhw'n gweld yr ymdrech ddyddiol i wneud ymarferion, cymryd moddion, gwisgo sblintiau ac ymweld
â'r ysbyty. Mewn ysgolion, fe all athrawon ei chael yn anodd deall pam mae raid i'r plentyn golli
gwersi, pam maen nhw'n ymddangos yn araf iawn neu'n llwyd pan ddôn nhw'n ôl o sesiwn
ffisiotherapi sy'n gofyn llawer ganddyn nhw, a pham nad ydyn nhw'n ymuno'n llawn mewn gemau
bywiog amser chwarae.
Crynodeb o'r prif bwyntiau
Fel arfer mae'r plant yn edrych yn dda. Fe all hyn guddio'u anghysur a'u blinder. Mae'n wir bwysig eich bod yn helpu'ch plentyn i ddweud wrthych chi (ac yn ddiweddarach wrth oedolion eraill) sut mae hi'n teimlo. Rhaid i'r plant ddysgu bod yn ddibynadwy wrth ddweud sut maen nhw'n teimlo. Os ydych chi'n mynd am y moddion bob tro maen nhw'n dweud eu bod yn brifo yna maen nhw'n annhebyg o ddweud wrthych chi'r tro nesaf. Fe fyddan nhw'n gor-ddweud os byddwch chi'n rhoi eu ffordd eu hunain iddyn nhw (amser o'r ysgol, melysion, ac ati) pan fyddan nhw'n teimlo'n sâl.
Mae'n anodd cael ffordd gyson ac onest i chi a'ch plentyn gyfleu sut mae hi'n teimlo ond mae'n erfyn pwysig i fedru byw gydag arthritis. Yn ddiweddarach fe fydd gofyn iddyn nhw fod yn ddibynadwy onest gydag oedolion eraill yn yr ysgol uwchradd a fedrwch chi ddim bod yno.
Os nad yw plant yn dweud sut maen nhw'n teimlo fe fydd pawb yn cymryd yn ganiataol eu bod yn teimlo'n iawn, a chaiff dim cymorth na chefnogaeth ei gynnig. Allwch chi ddim disgwyl i bobl eraill ddyfalu sut mae'ch plentyn yn teimlo.
|