Dysgu ar gyfer byw bywyd bob dydd - gwisgo, bwyta, defnyddio'r ty bach

Mae plant o dan 5 oed yn dysgu cyd-symud rhannau'r corff i fedru datblygu sgiliau ar gyfer byw bywyd bob dydd. Maen nhw'n dechrau eu bwydo'u hunain, defnyddio cwpanau, dysgu sut i wisgo dillad syml a defnyddio'r ty bach. Mae'r rhain i gyd yn sgiliau pwysig sy'n meithrin annibyniaeth a hunan-barch. Pan fydd plentyn yn dangos arwyddion arthritis, fe all rhai o'r tasgau hyn fod yn anodd, ac mae'n hawdd i oedolion fod eisiau helpu trwy wneud mwy dros y plentyn.

Pan mae hynny'n bosibl ceisiwch ganfod ffordd i'r plentyn gadw'i hannibyniaeth. Mewn teuluoedd prysur, pan fydd plentyn yn symol iawn mae troi'n ôl i ddefnyddio clytiau (cewynnau), neu fwydo'r plentyn yn gwbl ddealladwy, ond fe all hyn achosi problemau yn ddiweddarach ac fe ddylech ei wrthsefyll os yw'n bosibl.

Fe fydd raid ailddysgu sgiliau a gafodd eu colli yn ddiweddarach pan fydd ffrindiau o'r un oed wedi llwyr feistroli gwneud y pethau hynny. Mae rhai plant yn teimlo cywilydd am hyn am ei fod yn pwysleisio'u bod yn wahanol. Mae plant eisiau ffitio i mewn, ac fe allan nhw gael eu symbylu i gadw i fyny â'u cyfoedion.

Mae'n fwy anodd hefyd i blentyn fod eisiau bod yn annibynnol os bydd oedolion o'u cwmpas yn gwneud popeth drostyn nhw.

Yn y pen draw, mae'n aml yn well i'r plentyn os medrwch chi ganfod ffordd i'w cadw'n gwneud pethau drostyn nhw'u hunain.

Awgrymiadau rhieni

  • Ceisiwch gysylltu â ffisiotherapydd i gael cyngor arbenigol. Rhowch gynnig ar sawl adran (rhewmatoleg, pediatreg, y gymuned), eglurwch sut mae arnoch chi angen help. Ceisiwch gysylltu â Fledglings i gael cwpanau ysgafn ac offer bob dydd arall. (Edrychwch ar Bennod 17 'Ffynonellau Cymorth')
  • Os bydd angen, ewch ar drywydd y comôd leiaf posibl! Cadair â phan doiled o dan ei sedd y medrwch ei thynnu oddi yno yw comôd. Holwch yn yr ysbyty leol neu gyda'r gwasanaethau cymunedol. Mae'n werth cael gafael ar gomôd plentyn ag iddi freichiau fflat. Fe allwch roi'r comôd yn ystafell wely'r plentyn yn y nos, neu mewn man arall yn ystod y dydd fel nad oes raid iddyn nhw ddringo'r grisiau. Mae comôd fechan yn caniatáu i blentyn eistedd yn gyfforddus a diogel i ddefnyddio'r toiled, ac fe allan nhw wthio yn erbyn y breichiau i godi ar eu traed.