Chwarae, dysgu ac addysg

Plant dan oed ysgol ag arthritis

Mae llawer o blant sy'n dangos arwyddion arthritis yn ifanc iawn. Rhaid i rieni ddelio â sioc y clefyd a'r driniaeth, ond hefyd â sut mae arthritis yn effeithio ar bethau arferol fel mynd i'r ysgol a gwneud ffrindiau. Ambell waith fe fydd y plentyn yn mynychu'r ysgol yn barod pan aiff yn sâl ac felly fe fydd raid i'r teulu a'r ysgol gyda'i gilydd addasu i'r sefyllfa newydd. Mae newid ysgol yn adeg arall pan fydd pryderon penodol a rhai y mae'n bosibl eu rhagweld ynghylch sut bydd y plentyn a'r ysgol yn ymdopi.

Mae ymchwil a siarad â rhieni yn dangos i ni fod materion ynghylch yr ysgol yn deffro gofid a phryder dwfn yn y rhieni am y gall hapusrwydd a dyfodol y plant gael eu heffeithio'n drwm gan eu profiadau yn yr ysgol. Mae addysg yn gymaint mwy na gwersi'n unig.

Mae rhieni eisiau i'w plant ddysgu a mwynhau bod yn yr ysgol, ac weithiau yn teimlo nad ydyn nhw ddim wedi'u paratoi na'u harfogi'n dda i egluro am arthritis ac anghenion y plentyn. Ar y dechrau, dyw gofyn am help ddim yn hawdd, yn arbennig os yw staff yr ysgol yn ymddangos yn rhai anodd siarad â nhw.

Awgrymiadau rhieni

  • Gofynnwch i rieni eraill am eu profiadau o ysgolion meithrin ac ysgolion lleol. Barnwch drosoch eich hun pa ysgol feithrin/ysgol sy'n ymddangos orau i'ch plentyn.
  • Treuliwch beth amser gyda staff allweddol yr ysgol feithrin neu'r ysgol, dowch i'w hadnabod cyn dechrau trafod eich plentyn yn fanwl.
  • Eglurwch beth yw cryfderau eich plentyn, ac yna sut mae arthritis yn effeithio ar eich plentyn.
  • Byddwch yn onest ynghylch eich pryderon, ac unrhyw broblemau y gwyddoch chi sydd gan eich plentyn.
  • Trafodwch syniadau o'r ysgol feithrin/ysgol, syniadau eich plentyn a'ch rhai chi.
  • Chwiliwch am ffyrdd y gall yr ysgol helpu yn ystod oriau'r ysgol feithrin/ysgol a sut medrwch chi gefnogi eu gwaith gartref.
  • Fe ddylai'r ysgol a chithau fod yn canolbwyntio ar yr un peth - hapusrwydd ac addysg eich plentyn.
  • Os gweithiwch ar y berthynas â'r ysgol feithrin/ysgol yna fe fydd eich partneriaeth â nhw'n parhau y tu hwnt i unrhyw gamddeall a all godi'n ddiweddarach.